CYNFAS

Tina Rogers
11 Hydref 2024

Panopticon

Tina Rogers

11 Hydref 2024 | Minute read

ROGERS, Tina, Panopticon © Tina Rogers

Mae Panopticon yn collage/paentiad o garchar cylch wedi’i greu o ffurflenni gwirioneddol y Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP).

Ym 1791 fe ddyfeisiodd yr athronydd a’r damcaniaethwr cymdeithasol Jeremy Bentham y syniad o ‘Panopticon’, carchar cylch. Rhywle lle mae’r ‘carcharorion’ i gyd yn cael eu gwylio gan unigolyn canolog, gan olygu nad yw’r carcharorion yn gwybod pryd maen nhw’n cael eu gwylio. Mae’r ffaith nad yw’r carcharorion yn gwybod pryd maen nhw’n cael eu gwylio yn eu hysgogi i ymddwyn fel petaen nhw’n gael eu gwylio o hyd, gan eu gwneud yn ‘wasaidd’ drwy ofn, yn debyg i bobl gydag anableddau ar fudd-daliadau.

ROGERS, Tina, Panopticon (manylyn) © Tina Rogers

ROGERS, Tina, Panopticon (manylyn) © Tina Rogers

Mae gwneud cais am PIP yn ysgytiol, y prawf meddygol mae angen i ni ei ddioddef yn ddad-ddyneiddio ac rydyn ni o hyd llawn ofn o’n canfod yn ‘ffit am waith’. Mae’r sylwadau diweddaraf yn y newyddion y bydd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (AGP) y pŵer i gael mynediad at holl wybodaeth bersonol hawliwr budd-daliadau (cyfrif banc a chyfryngau cymdeithasol) wedi achosi twrw mawr, ond mae AGP wedi gallu cael mynediad at hyn ERIOED – ‘rhag ofn i dwyll ddigwydd’. Mae hefyd modd iddyn nhw eich gwylio ar unrhyw adeg o’r dydd mewn car dan guddwisg, a’ch dilyn chi, rhag ofn nad ydych chi mor anabl ag yr ydych chi’n honni (mewn geiriau eraill yn barasit, slafan dôl, yn chwiwleidr…)

Panopticon. Rydyn ni wedi cael ein gwylio a’n beirniadu erioed.

ROGERS, Tina, Panopticon (manylyn) © Tina Rogers

ROGERS, Tina, Panopticon (manylyn) © Tina Rogers

ROGERS, Tina, Panopticon (detail) © Tina Rogers



Mae Tina Rogers yn artist, sgwennwr a gwneuthurwr ffilm dosbarth gweithiol, hunan-ddysgedig gydag anabledd o bentref glofaol bach yng ngogledd Cymru.

Mae ei gwaith yn archwilio’i phrofiadau byw fel menyw gydag anabledd.

Share


More like this