Frank Auerbach: Pen E.O.W
"Rydw i wedi ymarfer pob rhan o’r llun nes fy mod yn deall y cyfan ohono, ac yna gallaf i ddod o hyd i ryw fath o deimlad sy’n rhedeg drwy’r holl beth. Yna, rwy’n ei baentio i gyd mewn un tro."1
Cyfarfu Estella Olive West (1916-2014) â Frank Auerbach am y tro cyntaf ym 1947 oherwydd eu diddordeb mewn actio llwyfan amatur. Ar ôl marwolaeth sydyn ei gŵr ym 1947, byddai Stella, mam i dri o blant, yn rhentu ystafelloedd yn ei chartref yn Earl's Court fel ffordd o ennill incwm, a byddai’r Frank Auerbach ifanc yn dod yn lletywr yn ei thŷ. Wedi’i ddenu gan ei nodweddion trawiadol, byddai Stella yn mynd ymlaen i fodelu yn rheolaidd ar gyfer yr artist. Mae’r gyfres o baentiadau a darluniau o’i thebygrwydd yn datgelu “dealltwriaeth ddofn ac agos [Auerbach] o’r pwnc”ii : talcen amlwg a gwallt hir wedi’i dynnu’n ôl y tu ôl i’w chlust dde, nodweddion miniog ei hwyneb, a cheg gul â gwefus dynn.
Nid yw gweithiau Auerbach o E.O.W. yn portreadu manylion penodol; yn hytrach, maen nhw’n herio ein dealltwriaeth o'r hyn y gall portread ei gynrychioli neu fod. Mae hyn yn arbennig o berthnasol yn ein dibyniaeth gyfunol ar ddelweddaeth lens. Caiff paent neu siarcol yn nwylo Auerbach ei osod yn gyflym, ac mae’n aml yn cymharu pob cam o’r broses greadigol fel ‘ymarfer’.
Yn gynnar yn ei yrfa, dim ond paent llai costus gallai Auerbach ei fforddio. Mae’r paentiau hyn yn cynnwys arlliwiau o liwiau daearol, fel sy’n amlwg ym mhalet y gwaith hwn. Yn nodweddiadol, mae'r rhain yn cynnwys lliwiau ocr melyn, wmbr amrwd, a sepia, tra bod du hefyd yn gyffredin yn y gwaith. Mae’r palet tawel yn rhoi presenoldeb neu deimlad arbennig i Pen E.O.W (1955). Wrth i Auerbach ehangu ei destun i gynnwys tirweddau trefol a pharciau Llundain, felly hefyd byddai ystod ei balet yn ehangu i gynnwys coch, glas, oren a gwyrdd llachar.
Datblygodd Auerbach gyfeillgarwch agos â’r artist Lucian Freud, gyda’r ddau yn dod yn aelodau blaenllaw o Ysgol Llundain. Yn dilyn hynny, daeth Freud yn un o gasglwyr mwyaf o weithiau Auerbach. Er bod Freud fel arfer yn adeiladu neu'n ychwanegu haenau o baent yn ei waith yntau, byddai Auerbach (dros amser) yn dod i grafu cymaint o baent oddi ar y gwaith ag y byddai’n ei ddefnyddio. Mae'r dechneg anarferol hon, wrth adael olion neu falimpsest o ddelwedd y diwrnod blaenorol, yn clirio'r arwyneb ar gyfer yr ymarfer nesaf. Yn ei eiriau ei hun, mae Auerbach yn disgrifio ei broses unigryw: ‘Bob tro rwy’n crafu’r cyfan i ffwrdd rwy’n gwybod ychydig mwy. Mae'r hyn oedd unwaith yn cael ei wneud gydag anhawster mawr yn dod yn ail natur, nes yn raddol fy mod wedi ymarfer pob rhan o’r llun nes fy mod yn deall y cyfan ohono, ac yna gallaf i ddod o hyd i ryw fath o deimlad sy’n rhedeg drwy’r holl beth. Yna, rwy’n ei baentio i gyd mewn un tro.’
Yn achos Pen E.O.W (1955), daeth y ddelwedd i’r amlwg ar ôl cael ei hailweithio’n ddiddiwedd ochr yn ochr â’i gynefindra esblygol â’i fodel. Y canlyniad yw paentiad gyda buddsoddiad amser sylweddol yn haenau'r paent. Nid yw gwaith celf gan Auerbach yn yr ystyr hon yn un sydd wedi’i orffen, ond yn hytrach wedi’i rewi dros dro. Mewn arddangosfa ddiweddar yn 2024, Frank Auerbach: The Charcoal Heads yn Oriel Courtauld, Llundain, cafodd Pen E.O.W. (1955) ei osod ochr yn ochr â’r lluniad siarcol a sialc o Pen E.O.W. (1956) yn oriel agoriadol yr arddangosfa, gan danlinellu unwaith eto safle amlwg cyfres Auerbach ohoni hi yn ei gorff o waith.
Wrth ddigideiddio’r paentiad yn ddiweddar, datgelodd y broses – wrth newid y dechneg goleuo arferol yn y stiwdio ffotograffiaeth – raddfa a chymhlethdod y ffordd roedd Auerbach yn trin paent olew. Mae'r cyfuniad anhygoel o ddelwedd ac impasto – hylifedd, diferion, gwead paent a chrameniad – ynghyd â'r goleuo ac onglau camera arosgo yn dod â manylion coeth i’r amlwg sydd ond yn weladwy pan fyddwch yn edrych yn agos iawn ar y gwaith.
Mae'r ffotograffau manwl hefyd yn dangos bod lliwiau llachar wedi'u cuddio yn y cymysgedd o baent, fel llinellau neu wythiennau o goch a melyn llachar ymysg y lliwiau wmbr brown a du. Mae’r verso – sef tu cefn y paentiad – yn datgelu ysgeintiadau egnïol o baent (o bosib o’i weithiau eraill), marciau wrth drin a symud y gwaith yn stiwdio’r artist ochr yn ochr â’r llofnod AUERBACH, sydd yr un mor drawiadol mewn ffont gwyn trwm sy’n nodi bod y gwaith wedi’i gwblhau.
Ac eto, yn gymaint ag y mae ffotograffiaeth cydraniad uchel yn datgelu cymhlethdod strwythurol cudd, dim ond pan fyddwch chi’n edrych ar y gwaith yn ei gyfanrwydd a gyda llygad croes y cewch chi’r ymdeimlad o fyfyrio tawel sydd i’w gael yn Pen E.O.W (1955). Yn yr achos hwn, cawn olwg ar E.O.W ar goll mewn breuddwyd wrth iddi eistedd am oriau di-ri o flaen yr artist a’i îsl.
Roedden ni'n drist iawn i glywed am farwolaeth Frank Auerbach ar 11 Tachwedd 2024
- iAuerbach, F (2022) Frank Auerbach: The Sitters. Piano Nobile Publishing, London, pp.26.
- iiSylvester, D (2002) About Modern Art: Critical Essays 1948 - 2000. Pimlico Publishing, London, pp.172.iii
- iiiLampert, C & Auerbach, F (2015) Frank Auerbach: Speak and Painting. Thames & Hudson, London, pp.50.
- ivAuerbach, F (2022) Frank Auerbach: The Sitters. Piano Nobile Publishing, London, pp.26.
Lluniwyd yr erthygl hon gan James Milne, gyda ffotograffiaeth gan Rhian Israel.
Technegydd Celf ar gyfer CELF, yr oriel gelf gyfoes genedlaethol, yw James Milne sy’n frwd dros weithio gyda’r casgliad celf cenedlaethol. Mae hefyd yn artist gweithredol gyda diddordeb arbennig yn y berthynas gymhleth rhwng celf a phensaernïaeth. Mae James hefyd yn gwneud PhD a arweinir gan arfer ym Mhrifysgol De Cymru.
Ffotograffydd Treftadaeth Ddiwylliannol i CELF yw Rhian Israel ac mae wedi’i lleoli yn Amgueddfa Cymru. Mae’n mwynhau gwneud celf yn hygyrch i bawb a chipio delweddau deniadol yn weledol, i adrodd stori ein Casgliad Cenedlaethol.