CYNFAS

Iestyn Tyne
13 Tachwedd 2024

Ymson ar draeth

Iestyn Tyne

13 Tachwedd 2024 | Minute read

 
Shipwreck
CHAMBERLAIN, Brenda
© Brenda Chamberlain/Amgueddfa Cymru - Museum Wales/Reuven Jasser
The fisherman's return
CHAMBERLAIN, Brenda
© Brenda Chamberlain/Amgueddfa Cymru - Museum Wales/Reuven Jasser
 

Ymson ar draeth

mewn ymateb i Shipwreck a The Fisherman's Return gan Brenda Chamberlain, ac ar ôl 'Galarnad Cwch Enlli'

Cyn inni’u codi nhw – y pedwar               
ddaeth i’r lan yn hallt a gwyn               
a mynd â nhw’n un rhes i fyny’r allt               
i’w hadnabod a’u glanhau, gorau medrwn,               
dwi’n dal rhyw obaith (ffôl, mi wn) y byddan nhw’n               
cofio am funud nad fel hyn oedd heddiw i fod               
o gwbl, ac y byddan nhw – y talpiau cnawd – yn               
llithro’n oer o’r graig, yn syllu drwyddan ni               
ac yn taflu’u cyrff llarpiedig ’nôl i’r bae;               
y cawn eu gwylio nhw’n pellhau, brath               
pob sylweddoliad yn llacio’n araf               
wrth i’r cyntaf o’r capiau coch               
ddiflannu dros ein gorwel; ac yn y pellter,               
hithau’r cwch, yn ail-lestreiddio               
fesul tamaid ar wyneb ton               
nes ei bod yn gyflawn, gywrain, yn gwahodd               
yr hogiau i neidio’n wyllt o’r dŵr,               
eu siwmperi tew yn sychu’n grimp               
a’r braw yn toddi o’u hwynebau               
wrth iddi godi’n braf ac               
wrth iddyn nhw daflu’r pysgod yn eu holau               
a’r rheiny’n ail-loywi, yn ail-fywiocáu               
wrth daro’r ewyn, y rhwydi’n               
codi’n lân ac yn ailblygu ar y pren;               
rhyw obaith (ffôl, mi wn) y poerant eu               
brechdanau caws o’u cegau               
a’u hail-lapio’n dyner yn eu sgwariau papur               
yn barod at gynnau, cyn troi’r cwch               
yn ôl tua’r bore bach a’r plant               
sydd eto yn eu gwlâu, yn deall dim.               
 


Magwyd Iestyn Tyne yn Llŷn ond mae bellach yn byw ac yn gweithio yng Nghaernarfon. Mae’n llenor, yn gerddor, yn gyfieithydd ac yn artist. Mae’n gyd-sylfaenydd a chyd-olygydd cylchgrawn a chyhoeddiadau’r Stamp, tŷ cyhoeddi Cymraeg annibynnol, gwirfoddol a chydweithredol. Mae wedi pefformio ei waith ledled Cymru a thu hwnt, gan gynnwys taith ddiweddar i India fel rhan o brosiect ecofarddoniaeth y DU ac India. Enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd yn 2016 a’i Chadair yn 2019, ac ef yw’r unig un i fod wedi ennill y ddwy brif wobr lenyddol yn eisteddfodau’r Urdd. Rhwng 2019 a 2023, ef oedd Bardd Preswyl cyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol. Gyda Leo Drayton, roedd yn awdur Robyn (Y Lolfa, 2021) yng nghyfres Y Pump o nofelau i oedolion ifanc, ac mae’n gyd-olygydd Welsh [Plural] (Repeater, 2022), y gyfrol o ysgrifau am ddyfodol Cymru. Cyrhaeddodd ei gasgliad diweddaraf o farddoniaeth, Stafelloedd Amhenodol (Cyhoeddiadau’r Stamp, 2021) restr fer gwobrau Llyfr y Flwyddyn yn 2022, a chyhoeddwyd trosiad o’r casgliad hwnnw, Unspecified Spaces (Broken Sleep Books, 2023) yn ddiweddar. Ei bamffled diweddaraf o gerddi yw Dysgu Nofio (Cyhoeddiadau’r Stamp, 2023), ac mae'n un o Gymrodorion Cymru'r Dyfodol 2023-25.


Share


More like this