CYNFAS

Ffin Jordão
14 Ionawr 2025

Toriad

Ffin Jordão

14 Ionawr 2025 | Minute read

Toriad

(o holescapes/twlldirweddau)

HUW, Dylan, McGILVARY, Owain Train, Fel Gwacter © Dylan Huw / Owain Train McGilvary

HUW, Dylan, McGILVARY, Owain Train, Fel Gwacter © Dylan Huw / Owain Train McGilvary

Sgwenwyd y darn hwn fel ymateb at Fel gwacter (2024), ffilm Owain Train McGilvary a Dylan Huw a gomisiynwyd gan Mostyn a LUX fel rhan o CELF yr oriel gelf gyfoes genedlaethol i Gymru. Yn ogystal i’w gyhoeddiad ar Celf ar y Cyd, mae ‘Toriad’ yn ymddangos yn holescapes / twlldirweddau, zine a grëwyd gan yr artistiaid ac Elin Angharad (@zinecymru), fel datblygiad o broses ymchwil chwareus a thraws-ddisgyblaethol y ffilm. Mae’r zine yn cynnwys darluniau, collages a deunydd dogfen o broses greu’r ffilm, ochr-yn-ochr â chomisiynau sgwennu gwreiddiol gan Ffin, Steffan Gwynn a Talulah Thomas (dylunydd sain Fel gwacter). Mae eu hysgrifau arbrofol yn adlewyrchu, ac yn esblygu ar, ffurf gysylltiadol ac ansefydlog y ffilm, fel modd o gynhyrchu gwrth-naratifau dychmygus allan o archifau Cymreig/aeg a cwiar o wahanol fathau.

holescapes / twlldirweddau

holescapes / twlldirweddau

holescapes / twlldirweddau

Ymatebodd Ffin, artist rhyngddisgyblaethol a biolegydd creadigol, at wahoddiad yr artistiaid i feddwl ochr-yn-ochr â’u gwaith gan ganolbwyntio ar ei ymagwedd ddychmygus at ofodau hen chwareli Cymreig. Mae ‘Toriad’ yn adeiladu portread argraffiadol o siwrne trwy dirweddau amser a gofod, gan ddatblygu’n bellach ymdreiddiad hir-dymor Ffin mewn i bosibiliadau gwleidyddol a barddonol yr ecoleg lle mae’n byw, sef dyffryn Dyfi. Yn 2021, cyfrannodd Owain, Dylan a Ffin at bedwerydd rhifyn Cynfas, queer looking / golwg cwiar. Cafodd y darn hwn ei gyfieithu i'r Gymraeg gan Dylan Huw.


I arall-eirio chwarel: ysglyfaeth, gwobr, cwest, creadur ~

Af am dro with my mother-tongue – fel gyda oracl.

Ar gyflymder araf araf.

Nid achos bod fy nhraed ddim yn gyson. (Rwy'n ymddiried yn llwyr yn y ddaear hon, yn y daear hwn.)

A nid achos bod y llwybr sydd angen ei ddilyn ddim yn glir. (Mae traciau trên llechi, wedi’u gorchuddio mewn llwydni dail, yn arwain yn syth at y twnel).

Ond oherwydd fy mod am wneud fy hun yn hylif, am adael i gerrynt y gofod hwn fy amgylchynu,

y gofod hwn sy’n drwchus ag atgof, â hiraeth, ag ysfa a dyhead.

Mae digon yn digwydd ar yr wyneb i ddal y llygad: adfeilion bythynnod llechi wedi’u gorchuddio â chlystyrau swynol o fwsogl, sblotshys o lichen hynafol, pentyrrau o falurion dynol dibwys: ffrâm gwely ar ei fyny, tri demijohn (ydyn nhw ddim yn torri?), plannwr, plât.

Nid oes un o’r rhain yn angori fy sylw.


 

Mae’r cyflymder yn araf am fod tanlif, strwythur o deimlad rhwng yr oes o’r blaen a nawr ac yn bellach fyth, at yr holl ddyfodolau dyrys posib sydd o’n blaenau. Argraff o amgylchedd ludiog yn mynwesu croen, yn gwneud i’m breichiau a ‘nghoesau lusgo, yn mynnu sylw.

Yn deillio o’r graig-gorff, fy nghorff, mae chwilfrydedd a sicrwydd cyrff eraill yn cyfarfod, wrth i’r camau gyfansoddi eu hunain ar hyd y llwybr dwi’n ymlwybro, heb drio.

Caiff trai a thrai atgofion eu gorchmyn gan eiriau unigol. Dwi’n breuddwydio rhwng fan hyn a fan acw, yn agor drysau i oesoedd a llefydd eraill, awgrymiadau o ddrych-fydoedd nes mai’r trothwy yw’r unig beth dwi’n gweld, yn gorchymyn eto, ymyl miniog ar ben y llwybr.

Yn ymestyn allan o fynedfa’r twnel, yn tynnu arnaf,

dod yn ôl.

Yn ofalus, dringo mewn i ddüwch uchel oer gwlyb golau-allan: cynefin perffaith i ystlumod a gwyfynod, ceudyllau cudd a death drops.

Mae’r cwest am y golau sy’n chwyddo’r pupils yn cadw fi i fynd yn y tywyllwch, yn arafach fyth nawr, fy ffydd yn y tir llithrig hwn yn dirywio, pob sicrwydd yn gollwng i ffwrdd, heblaw am yr awch i gyrraedd awyr las arall.

I fy maes gweledol sydd wedi’i golapsio mewn i ofod agos-agos, mae porth pell o olau yn tyfu’n fwy ac yn fwy nes ei fod yn gwasgaru ffordd newydd o weld, sy’n gallu cymryd popeth mewn ar unwaith;

sy’n gallu gweld, mor siarp a mor glir, a sy’n gallu cwrdd a’r hunan a’r chwarel gyda’r gweld sydd ar gael, sy’n agor i bosibiliadau – ai porth yw hwn, neu ddrych?


 

Mae rhywbeth yn yr aer yn dy wneud yn ansicr, sydd yn teimlo’n iawn, bodoli ac ymdoddi tu fewn y tawelwch dwfn hwn sydd mor llawn o swn. Ehangder gofodaidd sy’n datgan rhyddid a rhyddhad; mae’r flâneur wrth ei bodd.

Bywyd: jyst yn digwydd, mewn byd anferthol tawel coll.

Yr holl wacter hwn wedi’i gasglu mewn un lle, yr holl lonyddwch sy’n dy gymryd allan o amser, fel disgyn i’r math duaf o gwsg, lle mae’r breuddwydion gorau’n byw.

Mae iaith yn sychu fyny, does dim ei angen. Does neb o gwmpas i rannu beth bynnag byddai ganddo i rannu.

Now dissolve, pour your bones over the breathing earth, lying on a mattress of slate chips still holding onto residual parts of sunlight.


 

Rwyt ti ar ben dy hun, yn ymlacio ond yn cael dy wylio, yn hongian ar bob tawelwch fel ar eiriau oracl, pan mae’n torri—

Mewn i eirlithriad o lechi’n chwalu, datguddiad syfrdanol sy’n atseinio trwy'r môr hynafol sydd wedi'i droi'n graig fetamorffig, yn byrlymu'n sydyn â chyrff dynion diwyd, dynion mentrus.

Rwyt ti’n eu clywed yn nadfeilio wyneb y graig lechen sy’n hollti fel cloc amser-dwfn. Mae eu holion o dy gwmpas, pobman.

Liferi, rhodiau metal wedi'u dad-orchuddio, llwybrau dyfeisgar, etifeddiaethau anturiaeth.


 

Am hwyl nawr, dwi’n hela yn ddwfn yn fy mherfedd am y gair dwi angen ei ddweud, gair sy’n cuddio rhywle yn fy mol. Sydd angen cael ei dystio gan hyn i gyd, fel cynnig i’r corff ehangach sydd o 'nghwmpas.

Daw gair rrrrrrrrrrr allan o fy ngwaelodion ac mae’n atseinio 'nôl yn sydyn fel sgrech ar draw uwch, ac mae’r pleser yn troi’n chwerthin boliog.

Falle bod awr, tair wythnos neu 40 mlynedd wedi pasio. Caf fy nghodi fyny gan gyfarfyddiadau hawdd rhwng y synhwyrau a’r dychymyg, sy’n cymylu’r hyn dwi’n gwybod a ddim yn gwybod. Am rodd hudolus yw’r chwarel real, real, real hwn, y ffordd mae’n ymgorffori cenedlaethau o fywydau dynol ac hefyd teimlad bod neb erioed wedi bod yn y lle hwn o’r blaen.


Mae Fel gwacter gan Owain Train McGilvary a Dylan Huw yn dangos yn Mostyn, Llandudno, tan 25ain o Ionawr. Bydd zine holescapes \ twlldirweddau, sy’n cynnwys ‘Toriad’ gan Ffin Jordão, ar gael am y tro cyntaf yn Tyllau da \ Some good holes, prynhawn o ffilmiau a sgwrsio wedi’i guradu gan Owain Train McGilvary a Dylan Huw, yn Mostyn ar ddydd Sadwrn 18fed o Ionawr.

Share


More like this