Mae’r artist a'r ffotograffydd Jon Pountney yn mynd â ni i Lyfrgell Genedlaethol Cymru – ei horielau a’i hogofâu cyfrinachol – wrth i ni ddilyn criw o bobl ifanc sy’n ymweld â Gisda, sef elusen sy’n rhoi cymorth a chyfleoedd i bobl ifanc yn y Gogledd.
Mae ymweliad ag arddangosfa ddiweddar Delfryd a Diwydiant – sef cywaith gyda’r Oriel Genedlaethol yn Llundain a oedd yn dangos bron i 90 o dirluniau Cymru – yn rhoi digon i’r criw feddwl amdano ar thema Cynefin neu ymdeimlad o le.
Gan wisgo’u helmedau a mynd o dan y ddaear, mae’r ymwelwyr yn dysgu am hanes y Llyfrgell o guddio campweithiau ar gyfer yr Oriel Genedlaethol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Cuddiwyd paentiadau fel hyn yn chwarel Manod yn y gogledd hefyd, yn agos at lle magwyd llawer ohonyn nhw.
Sylwch sut mae’r criw yn defnyddio llechi, nodwedd amlwg o’r dirwedd hon, i gofnodi eu myfyrdodau am yr hyn mae ymdeimlad o le yn ei olygu iddyn nhw.
Am wylio’r fideo gydag isdeitlau? Cliciwch ‘CC’ ar y fideo i ddewis gwylio gyda chapsiynau caeedig [closed captions].
Ffotograffydd ac artist sy’n byw yn y de-ddwyrain yw Jon Pountney. Ymddangosodd ei ffotograff Capel Rhiw, Blaenau Ffestiniog (2023) yn yr arddangosfa Delfryd a Diwydiant yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (Mai – Medi 2024), a oedd yn rhan o broject Trysorau Cenedlaethol i ddathlu deucanmlwyddiant yr Oriel Genedlaethol. Roedd yr arddangosfa’n cynnwys The Stonemason’s Yard gan Canaletto sydd ar fenthyg o’r Oriel Genedlaethol, yn ogystal â bron i 90 o ddarluniau o dirwedd Cymru, yr oedd bron i 50 ohonynt yn weithiau cyfoes.