Astudio’r Croeshoeliad
Mae lliwiau cryf yn rhan graidd o waith Graham Sutherland, ac yn rhywbeth y byddai’n ei ddefnyddio i greu teimlad, neu bwysleisio naratif, yn ogystal â’i waith llinell llyfn a rhannol haniaethol. Mae ei ddarluniau a’u baentiadau, a hefyd ei gerflunweithiau, yn llawn mynegiant.
Roedd edrych drwy gasgliad helaeth Amgueddfa Cymru o frasluniau Sutherland wedi dylanwadu ar y ffordd aethom ati i ffotograffio ei gerflun, Ffigwr y Croeshoeliad. Mae nifer o astudiaethau o’r groes yn rhoi mewnolwg cryf i’w benderfyniadau ynghylch cyfansoddiad a lliw, sy’n cysylltu ei waith ar draws y gwahanol gyfryngau.
Mae Astudiaeth cyfrwng cymysg Graham Sutherland ar gyfer Croeshoeliad Eglwys St Matthew 1946 yn cynnig mewnwelediad gwerthfawr i natur ei broses ddarlunio. Mae'r gwaith arbennig hwn, gyda'r glas a'r lelog wedi'u gosod yn erbyn du caled y darlun, yn enwedig düwch y siâp hirgrwn o amgylch torso a choesau Crist. Mae darlunio digymell y Croeshoeliad wedi'i ddal o fewn llinellau tynn y sgwâr neu'r cynhwysudd, dipyn llai na'r testun ehangach.
Mae elfen fertigol y groes yn cysylltu gwaelod a phen y cynhwysudd hwn, gan wneud iddo weithio fel colofn i orffwys o fewn y gwagle. Yn cyferbynnu mae rhan llorweddol y groes yn methu cysylltu gyda naill o gynhwyswyr Sutherland; mae’r Croeshoeliad yn dangos diffyg cynhalbost yn y ffordd hon. Gwelir bod breichiau Crist yn ymddangos yn fwy main yn erbyn y rhan llorweddol dros-ben-llestri yn y groes, wrth i’w gorff noethu ffaelu, yn enwedig yn erbyn grym disgyrchiant. Yn y ffordd hon, mae Croeshoeliad Sutherland yn cyfeirio at Isenheim Altarpiece 1516 gan Mattias Grünewald.
Yr Astudiaeth ar gyfer Croeshoeliad Eglwys St. Matthew 1946 yw un o’r darluniau mwyaf datblygiedig a meddylgar o nifer o ddarluniau Sutherland ar y Croeshoeliad. Os edrychwch yn ofalus, mae tamed o oren yn ymddangos o goes chwith Crist, yr un oren sy’n cael ei ddefnyddio’n health ar waelod y paentiad terfynol o’r Croeshoeliad yn Eglwys St. Matthews, Northampton.
SUTHERLAND, Graham, Y Croeshoeliad, © Gordon Roberton Photography Archive / Bridgeman Images
Yn ei waith sydd yn Eglwys St. Matthew, mae’r chwarae rhwng y lliwiau glas ac oren yn cytseinio ac yn cyferbynnu fel ei gilydd. Mae’r lliwiau hyn yn annog ymateb emosiynol. O fewn y lliwiau glas, mae yna deimlad o dawelwch a llonyddwch, lle mae’r oren yn cyflwyno egni a bwrlwm. Mae’r cyferbyniad hwn yn creu tyndra o fewn cyfansoddiad stwythuredig.
Wrth edrych ar astudiaethau Sutherland o’r groes yn Amgueddfa Cymru, gallwn weld ei broses, mae’n arbrofi gyda graddfa, cyfansoddiad a lliw, elfennau oedd yn hollbwysig wrth fynd ati i ffotograffio ei gerflunwaith.
Yn y cerflunwaith, mae ffigwr Crist yn ymddangos yn organig er iddo gael ei greu o fetel a marmor, deunyddiau sy’n anystwyth a di-ildio.
Roedd Sutherland, sy’n enwog yn bennaf am ei baentiadau a’i brintiadau, wedi arbrofi gyda cherflunwaith pan gafodd ei gomisiynu i gydweithio gyda Louis Osman i greu croes newydd ar gyfer Eglwys Gadeiriol Elai, gafodd ei dadorchuddio ym 1964. Yn y gwaith hwn, mae Crist yn hongian o fewn siâp calon organig, sydd i’w weld fel dehongliad o Fandorla, ffrâm siâp almon fyddai’n amgylchynu ffigyrau i ddynodi dwyfoldeb a throsgynoldeb mewn celf ganoloesol. Mae’r ffurfiau a’r strwythurau hyn yn cael eu hatseinio o fewn Ffigwr y Croeshoeliad Amgueddfa Cymru, gan greu darlun gweledol o’r ffordd y gwnaeth Sutherland ail-weithio’r olygfa boblogaidd hon mewn modd mor bersonol.
Pan yn ffotograffio cerflunwaith Sutherland, roeddem am adlewyrchu corff ehangach y artist o fewn y ffrâm. Aethpwyd ati i wneud hwn drwy ddewis lliw, golau a chysgod, i greu cyfansoddiad cydlynol. Roedd Sutherland yn gweithio ar bob rhan o’i waith dros amser, ac mae ei dechnegau gofalgar yn helpu adrodd stori. O fewn y ffotograffau o’i gerflunwaith, rydyn ni’n dathlu ei lais a’i weledigaeth artistig.
Lluniwyd yr erthygl hon gan James Milne a Rhian Israel, gyda ffotograffiaeth gan Rhian Israel.
Y gweithiau celf yn yr erthygl hon o'r casgliad cenedlaethol yw: Ffigwr y Croeshoeliad ac Astudiaeth ar gyfer Croeshoeliad Eglwys St Matthew, y naill a'r llall © Ystad Graham Sutherland/Amgueddfa Cymru
Technegydd Celf ar gyfer CELF, yr oriel gelf gyfoes genedlaethol, yw James Milne sy’n frwd dros weithio gyda’r casgliad celf cenedlaethol. Mae hefyd yn artist gweithredol gyda diddordeb arbennig yn y berthynas gymhleth rhwng celf a phensaernïaeth. Mae James hefyd yn gwneud PhD a arweinir gan arfer ym Mhrifysgol De Cymru.
Ffotograffydd Treftadaeth Ddiwylliannol Amgueddfa Cymru yw Rhian Israel. Mae’n mwynhau gwneud celf yn hygyrch i bawb a chipio delweddau deniadol yn weledol, i adrodd stori ein Casgliad Cenedlaethol.
Deunydd pellach all fod o ddiddordeb i chi:
Share
More like this
Canolfan Celfyddydau Aberystwyth
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Phoebe Murray-Hobbs, Swyddog Benthyciadau Cymunedol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Imogen Tingey, Cynorthwyydd Arddangosfeydd, Oriel Gelf Glynn Vivian
Andrea Powell, Cynorthwyydd Arddangosfeydd, Oriel Gelf Glynn Vivian
Morfudd Bevan, Curadur Celf, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mari Elin Jones, Swyddog Dehongli, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Ffion Rhys, Curadur ac Elin Vaughan Crowley, Artist - Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Andrew Renton, Pennaeth Casgliadau Dylunio, Amgueddfa Cymru
Morfudd Bevan a Nia Dafydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Nicholas Thornton, Pennaeth Celf Gain a Chelf Gyfoes, Amgueddfa Cymru
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Jennifer Dudley, Curadur Rheoli Casgliadau Celf a Hygyrchedd, Amgueddfa Cymru
Sara Treble-Parry a Steph Roberts
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru