CYNFAS

Andrea Powell, Cynorthwyydd Arddangosfeydd, Oriel Gelf Glynn Vivian
7 Mawrth 2025

Teulu Wakelin: chwarter canrif o gefnogaeth i artistiaid cyfoes

Andrea Powell, Cynorthwyydd Arddangosfeydd, Oriel Gelf Glynn Vivian

7 Mawrth 2025 | Minute read

Roeddem ni yn Oriel Gelf Glynn Vivian yn falch iawn o ddathlu pen-blwydd Gwobr Wakelin yn 25 oed, gydag arddangosfa ôl-weithredol ddaeth â gwaith holl enillwyr y gorffennol at ei gilydd.  

Dathlu 25 mlynedd o Wobr Wakelin, Oriel Gelf Glynn Vivian

Beth yw Gwobr Wakelin?  

Cafodd ei sefydlu er cof am artistiaid o Abertawe, Richard a Rosemary Wakelin, a chyflwynir y wobr bob blwyddyn i artist sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru gan arwain at brynu'r darn o waith gyfer casgliad parhaol Oriel Gelf Glynn Vivian. 

Ymhlith enillwyr blaenorol y wobr mae Robert Harding, David Tress, Pete Davis, Craig Wood, David Garner, Tim Davies, Dick Chappell, Brendan Stuart Burns, Anthony Shapland, Catrin Webster, Jonathan Anderson, Meri Wells, David Cushway, Helen Sear, Clare Woods, Alexander Duncan, Philip Eglin, Richard Billingham, Anya Paintsil, Cinzia Mutigli ac Ingrid Murphy. 

Dathlu 25 mlynedd o Wobr Wakelin, Oriel Gelf Glynn Vivian

Cafodd rhai gweithiau celf yn yr arddangosfa hon eu benthyca gan Amgueddfa Cymru, fel rhan o CELF, yr oriel gelf gyfoes genedlaethol Cymru.

Pam mae Gwobr Wakelin mor bwysig i artistiaid? 

Buom yn holi rhai enillwyr blaenorol i ddeall beth oedd y wobr yn ei olygu iddyn nhw. Mae gan yr artist Robert Harding gysylltiad agos iawn ag Abertawe. Dywedodd wrthym:

“Symudais i Abertawe ym 1981. Fe ddes i'n aelod o AADW (Cymdeithas Artistiaid a Dylunwyr Cymru) bron yn syth, ac felly fe wnes i gwrdd â Richard (Dick) a Rosemary Wakelin, a'r rhan fwyaf o'r artistiaid yn Abertawe ar y pryd fwy na thebyg. Ym 1986 olynais Dick fel Trysorydd Cangen Abertawe o AADW tan i mi adael Abertawe ym 1989. Yn ystod fy wyth mlynedd yn Abertawe, bues i'n arddangos ar hyd a lled Cymru a Lloegr, gan gynnwys cyfleoedd rheolaidd yng Ngweithdy Celfyddydau Abertawe (Oriel Mission bellach) ac mewn dwy arddangosfa fawr yn Oriel Glynn Vivian (Seven Sculptors Working in Wales 1986, a The Art of Lego, 1988-89).

Er i mi adael Abertawe ddiwedd yr 1980au, fe gadwais mewn cysylltiad a chyfrannu at sawl arddangosfa yn y ddinas. Yn Oriel Glynn Vivian roedd hyn yn cynnwys Insight (arddangosfa ar gyfer pobl ag amhariad ar eu golwg) ym 1991 ac On and Off the Level (arddangosfa dau artist) ym 1994. Yn Oriel Mission, fe wnes i arddangos yn Word Overall ym 1995. Hefyd, fe wnes i drefnu a churaduro Meltdown yn 2009 ynghyd â'r perfformiad haearn tawdd cysylltiedig o'r enw Melt ar 15 Hydref yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Yn wir, ddiwedd y llynedd, cyflwynais arddangosfa deithiol At Cross Purposes Grŵp 56 Cymru yn Elysium.

Rocking Bowl oedd un o'r llestri cerfluniol metel cyntaf a greais. Cafodd ei arddangos yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn ym 1999 ac yn yr un flwyddyn mewn arddangosfa o'r enw Ironwill yn y Crescent Arts Workshop, Scarborough. Llwyddodd un arall o'r dysglau metel yn yr arddangosfa honno i ennyn sylw cofiadwy yn y llyfr ymwelwyr: ‘why should I pay £500 for a glorified wok’!

Roedd y dysglau a luniais yn sgil-gynnyrch fy ymarfer cerfluniol ac yn aml yn arddangos priodweddau cymesur nad oeddent yn nodwedd o’m cerflun. I mi, roedd y broses o wneud dysglau yn ffordd o ymlacio ac yn gyfle i sbarduno sgyrsiau cychwynnol gydag eraill am natur gwrthrychau. Hefyd, roedden nhw'n gwneud i mi gwestiynu'r holl synnwyr o raniad rhwng crefft a chelfyddyd gain. Yn sgil hyn, ysgrifennais ambell erthygl ar y pwnc a churadu arddangosfa ar gyfer Llantarnam Grange yn 2003 o'r enw Fine to Functional, dathliad o waith gan 14 artist oedd hefyd yn creu gwrthrychau 'swyddogaethol'.

Rwy'n dal i wneud llestri cerfluniol metel.

Mae Soft Option, cerflun bach, yn nodweddiadol o lawer o’m gwaith. Mae wedi'i wneud o elfennau cyferbyniol – plastig (pibell hwfyr cartref hyblyg) a dur (darn diwydiannol/lluniadol anhyblyg); mae wedi’i osod ar wal gyda gosodiadau cudd ac yn osgoi echel fertigol neu lorweddol gymesur. Mae dau ffactor wedi dylanwadu ar ei deitl: Pennau'r haearn ongl yw'r 'pennau meddal' sy'n digwydd wrth i'r darnau gael eu rholio yn y gwaith dur – darnau sy'n cael eu torri i ffwrdd fel arfer cyn i'r darnau hir gael eu cludo i'r dalwyr stoc. Fe wnes i'r cerflun yn fuan ar ôl i 'nhad farw, ac roedd ef, ag yntau’n beiriannydd nodweddiadol, yn meddwl bod gyrfa mewn cerflunio yn ‘soft option’!

Wrth siarad am yr hyn mae Gwobr Wakelin yn ei olygu iddo, dywedodd, “Heblaw am y ffaith bod pob artist yn hoffi cael ei gydnabod am ei waith, mae'r wobr ariannol yn ddefnyddiol bob amser. Hefyd, mae'n dda cael gwaith mewn casgliadau cyhoeddus sydd yn ei dro yn annog gwerthu gwaith i unigolion.

Fe wnaeth Gwobr Wakelin gadarnhau fy mherthynas hirdymor ag Abertawe ac mae gen i atgofion melys o'r parti a drefnwyd gan Gyfeillion Oriel Glynn Vivian i mi adeg y Wobr."

Mae Tim Davies yn artist sy'n byw ac yn gweithio yn Abertawe.

“Roeddwn i'n falch iawn o dderbyn Gwobr Wakelin yn 2005” meddai Tim Davies wrthym. “Roedd yr amseru'n berffaith. Yn ystod y cyfnod penodol hwnnw, roeddwn wedi bod yn gweithio ar syniadau amrywiol am sut rydym ni'n myfyrio'n ddiwylliannol ar y rhai a laddwyd mewn brwydrau (yn enwedig yn yr ugeinfed ganrif) a'r coffau cysylltiedig trwy wasanaethau, henebion a cherflunwaith Sul y Cofio.

Pan gyrhaeddais i restr fer y wobr, roeddwn newydd ddechrau casglu delweddau o gofebion ac yn trin eu harwynebau wedi'u hailargraffu'n ddigidol. Gan ddefnyddio graffit, bues i'n eu marcio dro ar ôl tro yn fertigol, yn llorweddol ac yn groeslinol, nid gweithred o amarch ond yn sicr yn fynegiannol mewn ymgais i ail-gynrychioli’r pwnc i graffu'n fanylach arno (roedd yr anthropolegydd Joy Hendry wedi mynegi syniadau o'r fath).

Roedd y darn Parisaidd, man cychwyn fy nghyfres o ddarluniau Ewropeaidd, yn nerfus ar wal fy stiwdio pan ddaeth Ann Jones, detholwr y flwyddyn honno, heibio. Dewiswyd hwn yn ogystal â fideo hynod wyntog o'm gosodiad o Flags over Solfa, o 1992. Mae'r ddau ddarn yn parhau'n bwysig i mi gan eu bod yn llywio elfennau gwahanol o'm hymarfer dilynol. Roedd y darnau Cadet a ddeilliodd o'r Darluniau Ewropeaidd yn elfen ganolog o fy arddangosfa yn cynrychioli Cymru yn Fenis yn 2011, ac mae llawer o'm darnau testun/gair llafar canlynol a chyfredol, fel Distant Views, Figures a Portraits yn deillio o Flags flynyddoedd ynghynt. Felly, roedd derbyn Gwobr Wakelin a gweld fy ngwaith ar y waliau ac yng nghasgliad Oriel Glynn Vivian wedi rhoi hwb a hyder i mi barhau, doed a ddel.

Roedd hon yn wers werthfawr iawn pan ddois i'n ddetholwr fy hun, y gall effaith cydnabyddiaeth trwy wobr neu ddyfarniad amserol ar waith newydd fod yn hollbwysig fel anogaeth. Mae'n fath o werthfawrogiad beirniadol sy'n llawer gwell na gwerthu darn o waith – er mor braf yw hynny hefyd!

Felly, cymerais rôl y detholwr o ddifri a gwneud rhestr fer o dair dawn sy'n dod i'r amlwg, pob un yn ymgeisydd yr un mor deilwng, a dod i benderfyniad diolch i gymorth cynrychiolwyr teulu Wakelin ac Oriel Glynn Vivian. Bonws yn y broses oedd cyflwyniad gan artistiaid y rhestr fer i'r panel a arweiniodd at wahoddiadau i gymryd rhan mewn arddangosfeydd eraill ar wahân i'r wobr, i'r enillydd ac artistiaid eraill ar y rhestr fer.

Yn bersonol, hoffwn ddiolch i'r teulu Wakelin am gefnogaeth hael i'r artistiaid buddugol hyd yma ond yn bwysig, fel gwobr brynu, am ychwanegu at gasgliad Oriel Glynn Vivian hefyd.”

Sut mae'r wobr yn cael ei dyfarnu?

Dathlu 25 mlynedd o Wobr Wakelin, Oriel Gelf Glynn Vivian

“Pan ddes i'n ddetholwr ar gyfer Gwobr Wakelin yn 2011 roeddwn yn gwybod eisoes ei fod yn arwydd o ragoriaeth mewn celf gyfoes Gymreig,” meddai Andrew Green, un o'r detholwyr wrthym. “Fe wnes i gymryd y dasg o ddifrif. Lluniais restr hir, ac yna rhestr fer, o artistiaid roeddwn i'n meddwl a oedd yn werth ymchwilio iddynt. Fe wnes i gysylltu â'r artistiaid i drafod eu gwaith. Trafodais y rhestr fer gyda chynrychiolwyr Oriel Glynn Vivian a'r Cyfeillion, a Peter Wakelin, a gyda'n gilydd buom yn trin a thrafod cyn dyfarnu'r wobr i Meri Wells.

Roedd rhai yn gwybod am Meri eisoes oherwydd ei chreaduriaid g arallfydol. Ond doedd hi erioed wedi derbyn digon o gydnabyddiaeth nac amlygrwydd mewn casgliadau cyhoeddus. Dyma'n union oedd pwrpas y Wakelin. Aethon ni i stiwdio Meri ger Machynlleth i ddewis eitemau ar gyfer Oriel Glynn Vivian. Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Daeth tua 150 o bobl draw i wylio Meri yn derbyn y Wobr a thusw mawr o flodau: achlysur gwych, llawn hapusrwydd.

Beth ddysgais i o'r profiad? Yn gyntaf, bod gwobrau celf yn bwysig. Nid oherwydd bod yn rhaid i gelf fod yn gystadleuol, ond oherwydd bod artistiaid, yn enwedig rhai nad ydynt yn chwilio am enwogrwydd drostynt eu hunain, angen i eraill weld a thrafod eu gwaith.

Hefyd, mae angen i artistiaid adael eu marc ar y byd, i wybod y bydd eu creadigaethau yn goroesi. Mae'r ffaith bod Gwobr Wakelin yn caniatáu prynu gweithiau ar gyfer casgliad Oriel Glynn Vivian yn hanfodol. Mae'n golygu bod y gweithiau hyn yn cael eu cadw, eu dogfennu a'u dangos, i ni ac i genedlaethau'r dyfodol.

Mae gwobrau'n dangos bod celf yn bwysig. Mewn oes pan mae'r celfyddydau yn derbyn llai a llai o nawdd cyhoeddus ac yn cael eu hesgeuluso mewn ysgolion, maen nhw'n ein hatgoffa bod crewyr a'r hyn maen nhw'n ei wneud yn rhan hanfodol o deimlo, a bod, yn ddynol.

Yn olaf, dysgais gymaint sydd gennym i ddiolch i deulu Wakelin amdano, am eu cefnogaeth hael, dros chwarter canrif, i artistiaid yn Abertawe ac yng Nghymru.”

Dathlu 25 mlynedd o Wobr Wakelin, Oriel Gelf Glynn Vivian

Dywedodd Dr Peter Wakelin, mab y Wakelins: “Pan wnaethon ni sefydlu'r Wobr ar ôl i mam farw ym 1998, roedden ni'n meddwl y byddai'n rhywbeth y byddai ein rhieni wedi'i fwynhau oherwydd eu cariad tuag at Oriel Glynn Vivian, ac y byddai'n para am ychydig flynyddoedd. Ni wnaethom erioed feddwl y byddai'r cynllun yn dal yr un mor werth chweil am chwarter canrif. Mae'n wych edrych yn ôl ar yr holl artistiaid mae'r Wobr wedi'u cefnogi yn y cyfnod hwnnw a'r cyfoeth o weithiau sydd wedi'u hychwanegu at gasgliad Oriel Glynn Vivian i’w mwy hau gan bobl Abertawe.”

Mae Louise Burston, Cadeirydd Cyfeillion Oriel Glynn Vivian, yn cydnabod pa mor bwysig yw'r wobr i Oriel Glynn Vivian, "Mae'r Cyfeillion yn falch iawn o fod yn rhan o wobr mor fawreddog. Mae'n galonogol gallu cefnogi artistiaid o Gymru a chyfrannu at gasgliad celf cyfoes yr oriel, ac mae’n ddiddorol bob amser gweld pwy fydd y detholwr enwebedig yn ei ddewis. Dros y blynyddoedd, mae'r wobr wedi'i chyflwyno i amryw byd o artistiaid o ddisgyblaethau gwahanol ac ar gamau gwahanol yn eu gyrfaoedd.”   

Dywedodd Karen MacKinnon, Curadur, Oriel Gelf Glynn Vivian, wrthym: “Mae Gwobr Wakelin wedi galluogi'r oriel i gaffael gweithiau gwych ar gyfer ei chasgliad parhaol dros y 25 mlynedd diwethaf. Mae'r bartneriaeth unigryw hon rhwng teulu Wakelin a Chyfeillion Oriel Gelf Glynn Vivian yn arbennig iawn o safbwynt y gefnogaeth y mae'n ei chynnig i'r oriel, artistiaid yng Nghymru a'r gweithiau y gallwn eu rhannu â chynulleidfaoedd a chymunedau. Mae'r arddangosfa hon yn ddathliad o'r hyn mae'r wobr wedi'i gyflawni dros gymaint o flynyddoedd.” 

Caiff y Wobr ei gweinyddu a'i chefnogi gan Gyfeillion Oriel Glynn Vivian, ynghyd â rhoddion er cof am Richard a Rosemary Wakelin.   

Share


More like this