CYNFAS

Dagmar Bennett
8 Mawrth 2025

Cerdded Adref

Dagmar Bennett

8 Mawrth 2025 | Minute read

Ffilm fer arbrofol sy'n archwilio'r realiti o gerdded adref gyda'r nos fel menyw neu ferch ifanc. O noson hwyliog allan i daith syml i'r siop, gall siwrnai ddylai fod yn ddigon rhwydd fod yn llawn gor-bryder, tra-ymwybodol, a'r senarios gwaethaf sy'n rasio trwy'n meddyliau. Mae'r ffilm hon yn cyfleu'r ddeialog fewnol a'r pwysau emosiynol ddaw o rywbeth mor syml â cerdded tu allan, gan bwysleisio'r profiad bregus sy'n ein wynebu bob dydd.

Mae 71% o fenywod yn y DU wedi profi aflonyddwch mewn lleoedd cyhoeddus, gan gynyddu i 86% o'r rheiny oed 18-24. Mae'r ffilm hon yn ceisio sicrhau bod y realiti honno'n amhosib i'w hanwybyddu.

Artist a Gwneuthurwr Ffilm yw Dagmar Bennett - mae ei gwaith yn edrych eto ar y naratifau ynghylch y gwahaniaethau rhwng pobl ac yn rhoi golau newydd ar hanesion ei diwylliant sydd heb eu hadrodd. Mae ei phrojectau creadigol wedi derbyn sylw ar y BBC, S4C, Nowness, Buildhollywood, a'r British Journal of Photography. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch gwaith Dagmar ar gael ar ei gwefan.

Share


More like this