Celfyddyd gyfoes yn ysbrydoli project llesiant yng Nghasnewydd
Wedi'i leoli yng Nghanolfan Dreftadaeth Arcêd y Farchnad Casnewydd, fe wnaeth yr artist lleol Nathan Sheen gyflwyno aelodau'r project i gasgliad cenedlaethol celfyddyd gyfoes Celf ar y Cyd. Gyda'i gilydd, buon nhw’n darganfod gweithiau celf ysbrydoledig a dysgu am gymhellion a phrosesau'r artistiaid wrth greu'r darnau celf yn y lle cyntaf. Mewn sesiynau wythnosol, rhoddwyd cyfle i'r criw ddefnyddio dulliau tebyg yn eu crefftwaith eu hunain. Gan weithio gyda chlai gan mwyaf, mae ganddyn nhw eu casgliad eu hunain o waith erbyn hyn a oedd i’w weld mewn arddangosfa ffenestr yn yr arcêd fel rhan o fenter Art on the Hill 2024, sy'n dathlu artistiaid a phobl greadigol y ddinas.

Artcadia, Dangosiad yn ffenest Canolfan Dreftadaeth Arcêd y Farchnad, Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
"Roedd yn broject gwych i fod yn rhan ohono", meddai Nathan. "Dwi'n awchu am y cyfle i rannu fy mrwdfrydedd am waith celf a manteision pwerus bod yn greadigol. Roedd gweld pobl yn magu hyder ac yn defnyddio'r technegau a gyflwynais yn y sesiynau, yn brofiad gwerth chweil."

Artcadia, Gwaith Magda, Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Cafodd Magda ei hysbrydoli gan Yr Ochr Arall (rhan) gan Geng Xue.
"Roedd y delweddau ... yn gwneud i mi feddwl am ddŵr, y môr, bywyd a chreaduriaid y môr, hefyd y rhai sydd wedi'u gwreiddio'n ddwfn yn ein mythau fel môr-forynion ... a Gwenhidwy, y fenyw wen Gymreig." Cafodd Magda ei denu gan symbolaeth mewn ffurfiau fel doliau porslen o feddyginiaeth Tsieineaidd hefyd, sy'n symbol o anhwylderau, a thrwy weithio gyda chlai teimlai ei bod yn cael ei hannog i roi ffurf i deimladau.

Artcadia, Gwaith Adele, Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Fe wnaeth Empirical Jungle gan Richard Deacon ysbrydoli Adele.
"Mae gweithio gyda chlai yn tawelu'r meddwl. Does dim ots nad ydw i'n artist enwog ..." meddai Adele, 'yr unig beth sy'n bwysig yw fy mod i'n mwynhau gweithio gyda chlai. Rwy'n mwynhau ei deimlad yn fy nwylo ac yn hoffi'r siapiau dwi'n eu gwneud".

Artcadia, Gwaith Cath, Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Dim ond un o'r darnau niferus a ddenodd sylw Cath oedd Black and White Pot with Base gan Alison Britton.
"Roedd y sesiynau wythnosol yn brofiad cadarnhaol ac maen nhw wedi gwneud byd o wahaniaeth i'm hiechyd meddwl a llesiant, ac rwyf wedi cwrdd â phobl hyfryd yn y grŵp. Rwy'n teimlo mor ffodus fy mod wedi gallu mynychu'r sesiynau rhad ac am ddim hyn a phrofi'r broses o'r dechrau i'r diwedd – creu fy narnau, eu gwydro a'u tanio i fod yn waith celf gorffenedig."

Artcadia, Gwaith-ar-waith David, Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Cafodd David ei ysbrydoli gan Cŵn Gwyllt, gan Catrin Howell
"Fe wnaeth y gwaith hwn fy annog i geisio ail-greu un o'r cŵn mewn clai", esbonia David. "Ro'n i'n eithaf hapus gyda'r canlyniad diolch i arweiniad Nathan gan mai hwn oedd y tro cyntaf i mi weithio gyda chlai." Aeth David ati i greu siapiau anifeiliaid eraill hefyd.
Cafodd y project gryn effaith ar iechyd meddwl a llesiant y rhai fu'n cymryd rhan, ac mae'r gweithiau a grëwyd yn dweud y cyfan.