Cynfas

Tirnodau Personol

Michal Iwanowski

12 Mehefin 2025 | munud i ddarllen

6 darlun o waith Wooden Boulder David Nash yn sawl lleoliad

NASH, David, Cyfres Wooden Boulder © David Nash. Cedwir Pob Hawl. DACS 2025/Amgueddfa Cymru

Mae David Nash (1945-) yn byw ac yn gweithio ym Mlaenau Ffestiniog. Dyna lle cafodd ei 'gerflun rhydd' mwyaf anarferol ei greu. Cerfiwyd Wooden Boulder o dderwen ym 1978, a chychwynnodd ar daith epig anfwriadol i lawr Afon Dwyryd, cyn teithio allan i ddyfroedd agored.

Am flynyddoedd, bu David Nash yn monitro ac yn dogfennu taith y cerflun, tan fis Awst 2015, pan achosodd glaw trwm lanw anarferol o uchel a symud y cerflun o’r man a oedd yn ymddangos fel cartref parhaol iddo ym mhen uchaf aber Afon Dwyryd. Does neb wedi'i weld ers hynny, ac mae ei leoliad yn y dirwedd eto i’w ailddarganfod.

Ar gyfer y gweithgaredd hwn, rydw i wedi dewis gwaith David Nash gan fod gen i ddiddordeb mewn sut mae tirnodau yn caniatáu i bob un ohonon ni deimlo'n gyfarwydd yn ein hamgylchedd a chysylltu ag e. Boed yn garreg rydych chi wedi arfer ei gweld bob dydd, yn goeden, yn llyn, neu’n fynydd ar y gorwel – pob math o dirnodau personol sy'n cadarnhau ein perthynas a'n cysylltiad â'r tir.

I fi, y tirnod hwnnw yw carreg fawr yn y pentref lle cefais fy magu, a lle nad ydw i’n byw bellach. Mae wedi bod yno ers i fi gofio, a phryd bynnag rydw i’n ymweld â fy rhieni, rydw i'n hoffi mynd i weld fy ngharreg hefyd. Mae'n gwneud i fi feddwl am fy ngorffennol, fy ffrindiau, am yr anturiaethau a gefais yn y caeau a'r coedwigoedd cyfagos, ac am gysondeb newid. Fel ‘carreg’ David Nash, mae fy ngharreg i hefyd wedi newid ei lleoliad, wedi i ffermwyr lleol ei symud o’r ffordd ychydig flynyddoedd yn ôl ar gyfer cynaeafu. Erbyn hyn mae'r garreg yn eistedd ar ymyl coedwig. Gallwch weld y lluniau rydw i wedi'u tynnu ohoni dros y blynyddoedd. Mae'n edrych yn wahanol bob tro, ond rydw i'n gallu ei hadnabod yn ddi-ffael.

Ar gyfer y gweithgaredd hwn, meddyliwch am eich tirnod eich hun. A oes rhywbeth yn eich amgylchedd sy'n gwneud i chi deimlo'n gartrefol yn syth? Nodwedd naturiol yn y dirwedd? Strwythur wedi'i wneud gan ddyn? Golygfa benodol? Llyn lle buoch chi'n pysgota gyda'ch tad-cu efallai? Hen goeden rydych chi'n mynd heibio iddi ar eich ffordd i'r ysgol?

Ewch ati i ddogfennu’r tirnod hwn, ar wahanol adegau, o wahanol onglau, mewn tywydd amrywiol. Drwy greu portffolio bach, byddwch yn adeiladu portread o'ch tirnod personol.

Meddyliwch am y ffyrdd hoffech chi ei ddogfennu. Roedd David Nash yn defnyddio ffotograffiaeth a darluniau, ond efallai y byddai'n well gennych chi baentio, neu ysgrifennu, neu ddefnyddio cymysgedd o gyfryngau efallai? Eich tirnod chi yw hwn a chi sy’n cael dewis sut i adrodd ei stori.

IWANOWSKI, Michal, Carreg Fawr ©

Michal Iwanowski

Eich tro chi yw hi nawr.

Dilynwch y camau hyn:

  1. Dewch o hyd i’ch tirnod personol.
  2. Ar ôl penderfynu, meddyliwch am sut hoffech ei ddogfennu, sut i'w gynrychioli orau. Drwy ffotograffau ar eich ffôn symudol neu gamera SLR? Braslunio? Paentio? Ysgrifennu? Cerfio? Beth bynnag fo'r cyfrwng, paratowch eich cit.
  3. Gwnewch gynllun o sawl gwaith byddwch chi’n ymweld â’ch tirnod, a sawl gwaith byddwch chi’n ei ddogfennu. Gosodwch nod realistig, efallai rhwng 4 ac 8 gwaith? Meddyliwch sut mae'r tirnod yn newid yn ôl amodau golau a thywydd. Cynlluniwch ymweliadau yn y bore a’r nos, ar ddiwrnod heulog a diwrnod diflas, ac ati. Efallai y byddwch chi’n dewis gwneud pob ymweliad o fewn wythnos, neu efallai dros gyfnod llawer hirach, fel blwyddyn gyfan? Does dim brys.
  4. Ar ôl i chi gwblhau eich gwaith dogfennu, meddyliwch am ffordd i'w gyflwyno. Os mai cyfres o ffotograffau/lluniadau/paentiadau sydd gennych chi, efallai y byddai llyfryn bach yn syniad da? Byddai modd ei droi’n llyfryn digidol fel PDF, neu ei argraffu. Gall hefyd fod ar gael ar-lein ar eich cyfrif Instagram neu blatfform arall.
  5. Y cam olaf yw ei rannu gyda ni. Rydyn ni’n awyddus iawn i weld eich tirnod personol.

Share

More like this

Clogfaen Pren 1978-2015
Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Stiwdio gyda Menyg yn Storiel, gweld casgliad y Llyfrgell mewn Gofod Newydd
Phoebe Murray-Hobbs, Swyddog Benthyciadau Cymunedol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Celf Mewn Ysbytai: Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Sara Treble-Parry, Steph Roberts a Siân Lile-Pastore
Lan yr Afon
Julian McKenny
Morlun Bach
Lucy Purrington
Thyrza Anne Leyshon: Eicon y Portreadau Miniatur o Gymru
Imogen Tingey, Cynorthwyydd Arddangosfeydd, Oriel Gelf Glynn Vivian
Dylunio GIFs Cymraeg
Sioned Young, Mwydro
Artcadia
Barbara Bartl, Rheolwr yr Amgueddfa ac Oriel Gelf, Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Cerdded Adref
Dagmar Bennett
Teulu Wakelin: chwarter canrif o gefnogaeth i artistiaid cyfoes
Andrea Powell, Cynorthwyydd Arddangosfeydd, Oriel Gelf Glynn Vivian
Helen Sear (g.1955)
Mari Griffith
David Nash (g.1945)
Mari Griffith
Rhyfel Mawr Glo Cymru
Maddie Webb, Curadur Gweithiau ar Bapur, Amgueddfa Cymru
Ymdeimlad o Le
Jon Pountney
Toriad
Ffin Jordão
Cadwraeth Paentiadau George Poole
Sarah Bayliss, Uwch Gadwraethwr Paentiadau, Amgueddfa Cymru
Frank Auerbach: Pen E.O.W
James Milne, Technegydd CELF, Ffotograffiaeth gan Rhian Israel, CELF
Ymson ar draeth
Iestyn Tyne
Tyrrau Mawr ar grwydr i Lanbedrog
Gwyn Jones, Alex Boyd Jones, Zoe Lewthwaite, Plas Glyn-y-Weddw
Gweithio gydag artist
Rhian Israel, Swyddog Ffotograffiaeth, CELF
Llwybr Tref Gŵyl Grefft
Rachel Vater, Cynorthwyydd Yr Oriel, Oriel Myrddin
Panopticon
Tina Rogers
Y Cyffredin
Ayesha Khan
Mapiau, celf, a dadgoloneiddio
Ellie King, Curadur Cynorthwyol Mapiau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Dadgoloneiddio’r Casgliad Celf Cenedlaethol
Morfudd Bevan, Curadur Celf, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Delfryd a Diwydiant: Curadu'r arddangosfa yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mari Elin Jones, Swyddog Dehongli, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Dan ddŵr sy'n llifo
Geraint Ross Evans
Golygfa Ddyrchafedig
Geraint Ross Evans
'Arhoswch adre'
Gwynfor Dafydd
Cardiau Post Protest
Osian Grifford
David Garner: Wylo
Nicholas Thornton a Ceri Jones, Amgueddfa Cymru
Storiel: Comisiynau Artistiaid
Esther Elin Roberts, Swyddog Celf Gweledol, Storiel
Collage Fabrig Scrap
Ella Louise Jones
Teulu
Ffion Rhys, Curadur, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Arddangosfa Teulu, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Ffion Rhys, Curadur ac Elin Vaughan Crowley, Artist - Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Oriel Myrddin: Comisiynau Artistiaid
Rachel Vater, Oriel Myrddin
Arnofio
Arddun Rhiannon
Geng Xue (g.1983)
Mari Griffith
Cerddi newydd gan ddisgyblion Cymru
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Dhruva Mistry: O’r astudiaeth i’r cerflunwaith
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Tu ôl i'r llen: Cadwraeth
Sarah Bayliss a Kitty Caiden, Amgueddfa Cymru
Darn Canol Bwrdd Con Brio: Comisiwn Ymddiriedolaeth P&O Makower
Andrew Renton, Pennaeth Casgliadau Dylunio, Amgueddfa Cymru
Arddangosfa Cyfoes: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Morfudd Bevan a Nia Dafydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Yr Eda
Llio Maddocks
Cymharu dau artist: John Selway a Denys Short
Nicholas Thornton, Pennaeth Celf Gain a Chelf Gyfoes, Amgueddfa Cymru
Caffaeliad newydd: Pulped Fiction gan David Shrigley
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Cerflunwaith Prydeinig Newydd yr wythdegau
Jennifer Dudley, Curadur Rheoli Casgliadau Celf a Hygyrchedd, Amgueddfa Cymru
Toredig Ond Prydferth
Apekshit Sharma, Intern Curadurol, Amgueddfa Cymru
Five Minutes
Mari Ellis Dunning
Swyn I
Efa Lois
Gesiye (g. 1992)
Mari Griffith
Eich Map Chi o’r Byd
Michal Iwanowski
Tirlun Anhysbys
Evie Banks
Crogdlws
Lydia Niziblian
Calon yn Deilchion
Tanyaradzwa Chiganze
Beth sy’n bosib ei wneud mewn oriel?
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Dwylo ar Dreftadaeth: Codi’r Llen ar Gaffael
Neil Lebeter ac Umulkhayr Mohamed
Rheolau Celf? Sgwrs gyda’r artist Caroline Walker
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Siarad â Phlant am Gelf
Sian Lile Pastore
Pêl-Droed Cymru a Byd Celf
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Rheolau Celf?
Neil Lebeter