CYNFAS

Canolfan Grefft Rhuthun
15 Ebrill 2025

Comisiwn Newydd: Angharad Pearce Jones

Canolfan Grefft Rhuthun

15 Ebrill 2025 | Minute read

Mae cerfluniau dur parhaol ar dir Canolfan Grefftau Rhuthun yn ganlyniad i gydweithrediad rhwng CELF yr oriel gelf gyfoes i Gymru, Canolfan Grefftau Rhuthun a’r Artist/Gof, Angharad Pearce Jones. Bu blwyddyn gyfan o waith ymchwil am hanes Rhuthun, y safle mae’r ganolfan grefftau yn sefyll arni heddiw ac amryw o weithiau yng nghasgliad celf gyfoes digidol Amgueddfa Cymru.

Dywed Angharad am y prosiect: "Fel artist o dref gyfagos y Bala, mae wedi bod yn anrhydedd creu rhywbeth parhao/ ar gyfer Canolfan Grefft Rhuthun, canolfan sy’n rhagori yn y celfyddydau cymhwysol. Mae’r cyfnod o ymchwil ar y dechrau wedi golygu bod y cerfluniau yn wir berthyn i Rhuthun. Rwyf hefyd yn gobeithio eu bod yn cysylltu ac yn dathlu'r holl arddangosfeydd anhygoel a gynhaliwyd yn yr oriel dros y blynyddoedd”.

PEARCE JONES, Angharad, Cerflun Dur ©Angharad Pearce Jones / Canolfan Grefft Rhuthun, Ffotograffiaeth gan Dewi Tannatt Lloyd

Share


More like this