Roedd yr artist Thyrza Anne Leyshon yn beintiwr portreadau miniatur Cymreig llwyddiannus a gafodd ei geni a’i magu yn Abertawe o 1892.
Pan ymddeolodd Thyrza ar ôl gyrfa hir yn y byd busnes fel rheolwr Singer Sewing Machines, Abertawe, ac yn ddiweddarach yn was sifil cyllid gwladol, roedd am arborfi gyda llwybrau mwy creadigol yng Ngholeg Celf Abertawe a dechreuodd fynychu dosbarthiadau mewn crochenwaith, bywluniadu, cerflunwaith a phaentio.
Anne Rees (A Welsh Grandmother), Glynn Vivian Art Gallery ©Carol Grinter
Daeth ei hangerdd dros beintio portreadau a thirweddau miniatur yn amlwg, a chafodd ei phortread miniatur cyntaf ei arddangos ym 1958 yn ystod Arddangosfa Gŵyl Cymru yn Llandrindod.
Aeth Miss Leyshon ymlaen i dderbyn hyfforddiant pellach yn Llundain ac astudiodd yn breifat ochr yn ochr â'r arlunydd miniatur blaenllaw Ethel Court. Enillodd nifer o wobrau am ei gwaith gan gynnwys y fedal aur gan y Société des Artistes Français ym 1968 a derbyniodd y fedal arian a Gwobr Rowland o Frwsel ym 1973.
Patience Strong (A writer of verse), Oriel Gelf Glynn Vivian © Carol Grinter
Lady Diana Spencer, Now; Princess of Wales, Oriel Gelf Glynn Vivian © Carol Grinter
Cafodd y paentiadau miniatur eu harddangos mewn sawl oriel ledled Cymru gan gynnwys Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe (1960) ac Oriel Turner ym Mhenarth (1961). Cafodd nifer o’i darnau eu harddangos yn rhyngwladol hefyd mewn lleoedd fel Salon Paris (1962 – 1974), Circle Nationale Belge d’Art et Esthetique ym Mrwsel (1963), ac yn y Gymdeithas Celf Bychain yn Florida (1982-83).
Yn anffodus bu farw Thyrza ym 1996, yn 103 oed. Gadawyd llawer iawn o’i gweithiau celf i’w nai Dr Ronald Austin ac yn ddiweddarach fe’i cymynroddwyd i Gasgliad Oriel Gelf Glynn Vivian yn 2024.
Comes As You Really Are, Abertawe Agored 2025, Oriel Gelf Glynn Vivian
Ffotograffiaeth gan Polly Thomas © Carol Grinter
Comes As You Really Are, Abertawe Agored 2025, Oriel Gelf Glynn Vivian
Ffotograffiaeth gan Polly Thomas © Carol Grinter
Yn ddiweddar, cafodd rhai o’i miniaturau eu dewis a’u harddangos mewn arddangosfa newydd gyffrous yn Oriel Gelf Glynn Vivian, Come As You Really Are – Abertawe Agored 2025. Mae’r arddangosfa’n rhan o broject cenedlaethol, Come As You Really Are, gan yr artist arobryn sy’n frwdfrydig dros Spider-man, Hetain Patel ac Artangel. Mae'r arddangosfa'n dathlu hobïau fel modd o greadigrwydd greddfol a hunanfynegiant ochr yn ochr ag Agored Abertawe Glynn Vivian. Mae amrywiaeth o wrthrychau a gweithiau celf o Gasgliad Glynn Vivian yn yr arddangosfa, ochr yn ochr â phaentiadau portread bychan Miss Leyshon.
Dylan Thomas (Ar ôl portread o Augustus John), Oriel Gelf Glynn Vivian © Carol Grinter
La Parisienne (Ar ôl Renoir), Oriel Gelf Glynn Vivian © Carol Grinter
Mae rhai o'r paentiadau yn adfywiadau ddarnau yng nghasgliad Amgueddfa Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys paentiad o Dylan Thomas o’r enw ‘After A Portrait’ gan Augustus John (1937-8) a chopi o La Parisienne (1874) gan Renoir.
Comes As You Really Are, Abertawe Agored 2025, Oriel Gelf Glynn Vivian
Ffotograffiaeth gan Polly Thomas © Carol Grinter