PURRINGTON, Lucy, Small Seascape © Lucy Purrington
Er ein bod yn byw mewn byd sy’n dibynnu ar blastig, dylem ei drin fel adnodd prin, i’w ymgorffori mewn economi gylchol, yn hytrach na’i daflu i safleoedd tirlenwi, llosgyddion, cefnforoedd a thirweddau. Fel cynorthwyydd yn Soaring Supersaurus, cwmni budd cymunedol yn y Rhondda sy'n rhan o'r fenter fyd-eang Previous Plastic, rwy'n gweithio ochr yn ochr â'r cyfarwyddwr, Paul Evans. Gyda’n gilydd, rydym yn dod o hyd i ffyrdd arloesol o roi bywyd newydd i blastigau ar lawr gwlad, ac yn canolbwyntio ar blastigau sy’n draddodiadol anodd eu hailgylchu a phlastig diwedd oes.
Mae ein gwaith wedi canolbwyntio ar nwyddau cartref a gemwaith, ond yn ddiweddar rydym wedi arbrofi gyda thoddi gwastraff plastig bras, a darlunio tirweddau haniaethol a ysbrydolwyd gan y golygfeydd mynyddig o amgylch ein gweithdy ym Mhenrhys. Mae'r darnau hyn yn cyfuno cerflunwaith a phaentio, gan drawsnewid gwastraff plastig yn gyferbyniadau gweledol trawiadol.
Rydym yn casglu ein deunyddiau trwy ddau lwybr: gan ein sefydliadau partner a busnesau lleol yn Rhondda Cynon Taf a thrwy ein hybiau casglu lle gall unrhyw un gyfrannu eu gwastraff plastig glân. Ein hethos yw ailddiffinio safbwyntiau ar blastig a’i ddefnyddiau posibl wrth ei ddefnyddio dro ar ôl tro ac allan o’r amgylchedd.
PURRINGTON, Lucy, Small Seascape [manylyn] © Lucy Purrington
PURRINGTON, Lucy, Small Seascape [manylyn] © Lucy Purrington
PURRINGTON, Lucy, Small Seascape [manylyn] © Lucy Purrington
PURRINGTON, Lucy, Small Seascape [manylyn] © Lucy Purrington
PURRINGTON, Lucy, Small Seascape [manylyn] © Lucy Purrington
PURRINGTON, Lucy, Small Seascape [manylyn] © Lucy Purrington
Mae Lucy Purrington, artist o Gwm Rhondda, yn canolbwyntio ei gwaith ar hyrwyddo llesiant ac ymwybyddiaeth amgylcheddol. Wrth weithio'n bennaf ym maes ffotograffiaeth, mae Purrington yn defnyddio plastigau wedi'u hailgylchu i greu celf yn Soaring Supersaurus hefyd, cwmni buddiannau cymunedol yr economi gylchol sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd a'r celfyddydau.