GIL, Eve, Seashells on the Seashore © Eve Gil
Cefais f'ysbrydoli gan y ddau ddarn o gelf, ond yn enwedig darn Mike Perry, Flip Flop 29, Playa Santa Anna, Havana, Cuba, 2014. Roedd y cysyniad o 'ddrama mewn micro-astudiaethau' yn dangos y 'difrod a achoswyd i natur gan weithgaredd dynol' fel mae'n drafod ar ei wefan, yn atseinio'n ddwfn gyda fi.
Fy nod oedd tynnu sylw at lygredd morol trwy ddefnyddio deunyddiau wedi'u huwchgylchu, cregyn a darnau o wastraff plastig i greu gwaith celf tecstilau cyffyrddol. Mae'r darn wedi'i ysbrydoli'n weledol gan luniau rydw i wedi'u tynnu ar draethau Penarth ac Abertawe. Mae'n cynnwys haenau o ffabrig wedi'i uwchgylchu, edafedd ac edau, ynghyd â gleiniau, cregyn, a detritws plastig.
GIL, Eve, Seashells on the Seashore [manylyn] © Eve Gil
GIL, Eve, Seashells on the Seashore [manylyn] © Eve Gil
GIL, Eve, Seashells on the Seashore [manylyn] © Eve Gil
Dylunydd o dras Pwylaidd-Cymreig yw Eve Gil. Mae'n canolbwyntio'n gryf ar gynaliadwyedd, ac yn defnyddio deunyddiau wedi'u huwchgylchu i greu. Mae'n gweithio'n helaeth gyda brodwaith, gan dyrchu rhwng llinellau 'crefft' a 'ffasiwn' 'celf' a chreu darnau sy'n byw ac yn ffynnu yn y gofod annelwig o fewn y llinellau hynny.