CYNFAS

Non Mererid Thomas
14 Mai 2025

Celf a fi: Hyfforddi fel Seicotherapydd Celf

Non Mererid Thomas

14 Mai 2025 | Minute read

Wrth dyfu i fyny yng ngogledd Sir Benfro yn yr 80au, heb y rhyngrwyd roeddwn wrth fy modd yn treulio oriau allan yn yr awyr agored neu yn creu celf ar ben fy hun. Mae fy rhieni wedi bod yn ysbrydolaeth mawr, fy nhad a’i ddiddordeb mewn teithiau cerdded a’r tirlun daearyddol a fy mam, am ei bod yn berson ymarferol ac yn ymddiddori mewn crefft, felly mae creadigrwydd wedi bod yn rhan annatod o fy mywyd. Mae celf yn parhau i fod y holl bwysig, boed yn darlunio a chreu adre gyda fy mhlant neu yn rhan o fy ngwaith.

Pwerdy Ceunant, 2019
LLOYD JONES, Mary
© Mary Lloyd Jones/Amgueddfa Cymru - Museum Wales
Ysgwrn, 2018
LLOYD JONES, Mary
© Mary Lloyd Jones/Amgueddfa Cymru - Museum Wales

Rydw i’n cofio gweld peintiadau enfawr Mary Lloyd Jones ar gynfas am y tro cynta, mewn arddangosfa tra yn y cheched dosbarth, cafodd rhain argraff fawr arnaf am nad oeddwn wedi gweld darluniau haniaethol tebyg o’r tirlun o’r blaen. Cafodd fy athro celf Mr. Miller ddylanwad mawr hefyd ar fy mhenderfyniad i astudio celf ymhellach. Felly ar ôl gorffen cwrs sail yng Nghaerfyrddin, symudais i Gaerdydd i ddechrau cwrs gradd mewn crochenwaith tri dimensiwn. Roeddwn wrth fy modd bod yr Amgueddfa Genedlaethol ar stepen fy nrws, ynghyd ag orielau bach o gwmpas y ddinas. Tra’n astudio, cefais gyfle i weithio gyda phlant mewn ysgol anghenion arbennig yn Nhrelai, a dyma’r tro cynta i mi glywed am gelf fel math o therapi.

Gweithiais i Gyngor y Celfyddydau mewn ysgol gynradd fel artist preswyl ar ôl graddio ac yna penderfynnu hyfforddi fel athrawes. Bum yn athrawes gelf am bron i 25 mlynedd a bu cyfnodau o fy ngyrfa dysgu yn rhan amser. Rhoddod hyn gyfle i mi weithio fel artist llawrydd i S4C, mewn prosiect garddio rhagnodi cymdeithasol i MIND Cymru, ac fel ymarferydd creadigol mewn nifer o brosiectau i ysgolion. Bu’r gwaith yma yn brofiad gwerthfawr er mwyn gallu meithrin perthynas gyda phobl, sy’n hanfodol mewn therapi.

Gwaith seicotherapydd celf

Rydw i’n credu’n gryf fod celf yn gallu helpu pobl i fynegi eu hunain ac i archwilio eu teimladau. Mae ymchwil yn dangos bod therapi celf yn medru lleihau gofid a gwella iechyd emosiynol a meddyliol trwy hyrwyddo dealltwriaeth yr unigolyn o’r hyn sy’n mynd ymlaen. Mae hefyd yn gallu hyrwyddo mewnwelediad ac ymdeimlad o bŵera hunan-werth. Yn ystod sesiwn therapi celf, rwyf yn cefnogi’r person ifanc i fynegi meddyliau a theimladau cymhleth ynghlŷn â materion megis trawma, colled neu iselder drwy wneud celf. Does dim angen unrhyw sgil celfyddydol ar y cleient o fewn y sesiwn ond mae gwybodaeth y therapydd am effeithiau deunyddiau celf ar unigolion yn bwysig oherwydd prosesau anymwybodol.

Rwyf yn defnyddio ystod eang o adnoddau yn y sesiynau therapi. Mae’n bwysig cynnig amrywiaeth o ddeunyddiau fel bod y person ifanc yn cael dewis, e.e. clai, adnoddau gludwaith, paent a chyfryngau sych. Rwyf yn aml yn defnyddio hambwrdd tywod er mwyn helpu archwilio naratif personol trwy ddefnyddio gwrthrychau, tegannau bach a ffigyrau. Ar ddechrau sesiwn rydw i’n hoff o ddefnyddio cardiau gweledol neu luniau i ysgogi trafodaeth neu greu celf. Mae pob sesiwn yn wahanol, yn dibynnu ar yr hyn y mae'r person ifanc yn ei gynnig. Byddaf yn gorffen y sesiwn gyda gweithgaredd i drawsnewid allan o’r gwagle therapi ac yn ôl i’r stafell ddosbarth, megis tacluso, ymarferion hunanreoleiddio neu enwi teimladau y maent eisiau gadael ar ôl yn yr ystafell.

Weithiau mae materion diogeli yn codi ac mae angen i fi siarad gydag athrawon penodol. Felly ar ddiwedd y dydd, rydw i’n aml yn creu darlun i help fi feddwl a phrosesu cynnwys pob sesiwn cyn neu ar ôl ysgrifennu nodiadau clinigol.

Uchafbwynt y gwaith yw adeiladu perthynas gyda pherson ifanc sydd yn ffeindio cyfathrebu ag oedolion yn annodd. Mae gweld pobl ifanc yn defnyddio delweddau neu symbolau i ddangos rhywbeth am eu bywyd sy’n annodd mynegi mewn geiriau a gweld yn uniongyrchol y newid positif ynddynt, dim ots pa mor fach, yn anrhydedd. Y rhan fwyaf buddiol yw gweld pobl ifanc yn darganfod rhywbeth am eu hunain a’u hamgylchiadau a defnyddio hyn i symud ymlaen. Mae dod i nabod pob person ifanc rydw i’n cyfarfod, a beth sydd wedi digwydd iddynt, yn fraint.

Celf a hunanofal

Fel ymarferydd hunan gyflogedig yn gweithio yn annibynnol ond o fewn tîm ehangach, mae’n bwysig iawn creu rhwydwaith creadigol a chefnogol i deimlo’n rhan o’r gymuned. Ar wahân i goruchwyliaeth therapi celf rheolaidd sy’n orfodol i’r gwaith, rydw i’n rhan o grŵp goruchwyliaeth cyfoedion a nifer o fawr o gasgliadau creadigol eraill. Rwyf yn gwneud amser arbenning i gerdded ym myd natur gyda’r teulu, creu gwaith celf aml gyfrwng yn fy stiwdio, nofio dŵr oer, garddio, cynnal gweithdai gyda fy ffrindiau a chymdogion ac ymweld yn rheolaidd ag arddangosfeydd celf yn lleol a theithio i orielau yn Llundain neu dramor. Mae hyn yn golygu fy mod yn parhau i ddatblygu fy rhwydwaith creadigol a chadw amser arbennig at hunaofal.

Byddai wedi bod yn ddefnyddiol gwybod sawl peth cyn dechrau ar y daith o fod yn therapydd celf. Yn bennaf, pwysigrwydd rhannu gyda staff beth yw therapi celf, a’r hyn nad ydyw, a sut mae’n gallu helpu pobl ifanc. Y pwysigrwydd o gadw gwagle rhwng sesiynau i dacluso ac i baratoi yn feddyliol am y cleient nesaf, mae hwn yn hollbwysig mewn gwaith therapi. Mae cael profiad bywyd a chryfder emosiynol yn angenrheidiol i fynd i’r afael â phroblemau a phrofiadau cleientiaid, felly rydw i’n falch mewn ffordd, fy mod wedi dod ato yn hwyrach mewn bywyd.

Beth nesaf mewn seicotherapi celf?

Mae’r dyfodol yn llawn posibiliadau ar hyn o bryd; ‘mond dechrau ar fy ngyrfa fel seicotherapydd celf ydw i. Mae ysgolion yn dechrau gweld budd therapïau celf boed yn therapi celf, cerdd neu ddrama ond mae’r angen i sefydlu mwy o wasanaethau therapïau celf i gefnogi pobl ifanc. Mynediad cyfyngedig sydd ar hyn o bryd, er gwaethaf yr angen cynyddol. Hoffwn ddatblygu fel ymarferydd a gweithio gyda grwpiau o bobl yn y gymuned a pharhau i ddatblygu ymwybyddiaeth pawb at les celf ar gyfer iechyd meddwl.


Hyfforddodd Non Mererid Thomas fel seicotherapydd celf ym Mhrifysgol De Cymru, Casnewydd ar gwrs MA tair mlynedd rhan amser. Mae’n gofrestredig gyda’r HCPC (Cyngor Professional Iechyd a Gofal) ac yn aelod o BAAT (Cymdeithas Therapyddion Celf Prydain). Ers graddio yn 2023, mae wedi bod yn seicotherapydd celf hunan-gyflogedig sy’n gweithio gyda phobl ifanc yn eu harddegau.

Share


More like this