NON, Lleucu ©Lleucu Non
Mae crwydro trwy wefan Celf ar y Cyd yn teimlo fel darganfod trysor cudd – lluniau, brasluniau a phaentiadau sydd fel arfer yn aros yn dawel mewn archifau amgueddfeydd. Fel animeiddiwr ac artist, dwi wrth fy modd yn gweld y darnau heb eu gorffen, y marciau sy’n dangos meddyliau ac ymarferion yr artist – y pethau sy’n gwneud y gwaith celf deimlo’n fyw. Mae’r gallu i bori drwy cannoedd o ddelweddau, o baentiadau i lyfrau braslunio, yn adnodd anhygoel, yn enwedig i fyfyrwyr, artistiaid a haneswyr sydd eisiau darganfod mwy na beth sy’n cael ei ddangos ar waliau orielau.
Pan benderfynais ‘neud ymateb gweledol i’r casgliad, nes i ddim gor-feddwl. Casgliais dri darn oedd wedi dal fy sylw yn syth – oherwydd eu cyfansoddiad, gwead neu awyrgylch. Dewisais Prynu Dol Suite gan Eric Malthouse, Sketch of Plant gan Graham Sutherland, a Boys Wearing White Hats gan Gwen John. Roedd pob un yn wahanol, ond i gyd yn siarad yr un iaith esthetig â’r hyn dwi’n licio – marciau beiddgar, gwaith llinell mynegiannol a dealltwriaeth cryf o ffurf.
Dechreuais fy ymateb efo braslun rhydd mewn inc glas, s’yn adlewyrchu egni astudiaeth planhigyn Sutherland. Wedyn, cymerais marciau arddull Gwen John i greu gwead a haenau yn nghefndir y llun, gan ychwanegu dyfnder. I orffen, nes i liwio’r gwaith gan ddefnyddio palet bywiog Eric Malthouse, gan ddod â chynhesrwydd a chyferbyniad i’r ffigurau. Roedd hyn i gyd yn dod at ei gilydd i greu darn oedd yn cymysgu dylanwadau tri artist gyda fy steil fy hun.
Mae’r math yma o ymateb – lle ti’n cael dy ysbrydoli’n reddfol ac yn creu rhywbeth newydd – yn rhan pwysig o fy ngwaith. Mae archif Celf ar y Cyd yn adnodd gwych i wneud hyn, gan agor drws i fyd llawn darganfyddiadau a syniadau newydd. Mae’n brawf bod hyd yn oed y darnau sydd wedi’u cadw yn y cefndir yn gallu tanio rhywbeth creadigol.