CYNFAS

Storiel
2 Mehefin 2025

Dwy Arddangosfa, Un Lleoliad

Storiel

2 Mehefin 2025 | Minute read

12.04.2025 - 28.06.2025

Merched yn Hawlio Heddwch

12.04.2025 - 28.06.2025

Annie Hughes Griffiths sy’n cynnal apêl heddwch y merched y tu allan i’r Tŷ Gwyn yn Washington yn dilyn eu cyfarfod â’r Llywydd Calvin Coolidge yn 1924, ochr yn ochr â (L-R)Gladys Thomas, Mary Ellis ac Elined Prys. Diolch i WCIA/Academi Heddwch Cymru

Dewch i ddarganfod hanes Deiseb Heddwch Menywod Cymru, 1923-24 a rôl ganolog menywod Cymru wrth weithio dros heddwch. Gan ddod â chelf ac archifau at ei gilydd, mae straeon y menywod hynod hyn yn ysbrydoledig ac mor berthnasol heddiw â chan mlynedd yn ôl.

Yn 1923-24, arwyddodd 390,296 o fenywod o Gymru apêl i ferched America yn galw am heddwch byd. Yn dilyn colledion erchyll y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd menywod eu hysbrydoli i apelio am heddwch, gan alw am ‘HEDD NID CLEDD’. Darganfyddwch fwy am Annie Hughes Griffiths ac eraill a arweiniodd y ddirprwyaeth i America, yn ogystal a’r rhai o Ogledd Cymru a ymgyrchodd dros heddwch, gan gynnwys trefnu’r daith gerdded o Benygroes i Hyde Park yn 1926. Mae’r arddangosfa o archifau a chelf yn dod â straeon yr unigolion rhyfeddol hyn yn fyw a ymgyrchodd dros heddwch – yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Boed i’w straeon ysbrydoli ymwelwyr i’r arddangosfa i weithio dros heddwch heddiw.

Gyda benthyciadau o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Cymru, Archifau Prifysgol Bangor, Gwasanaeth Archifau Gwynedd a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru.

Shani Rhys James a Stephen West: Gofod Mewnol

12.04.2025 - 28.06.2025

Red self-portrait
JAMES, Shani Rhys
© Shani Rhys James. Cedwir Pob Hawl. DACS 2025/Amgueddfa Cymru

Mae’r arddangosfa hon yn dwyn ynghyd waith gan Shani Rhys James a Stephen West. Ar ôl byw a gweithio gyda’i gilydd am fwy na 45 mlynedd, mae’r ddau wedi canolbwyntio ar wahanol themâu a dulliau gweithredu yn eu hymarfer artistig. Mae gofod stiwdio y ddau – ar wahân ond dan un tô. Dyma weithiau sy’n cysylltu ac yn gwrthgyferbynnu. Mae’r arddangosfa hon yn canolbwyntio ar y ‘gofod mewnol’; yn feddyliol ac yn gorfforol. Boed yn hunanbortreadau pwerus ac emosiynol Shani yn y stiwdio neu’r gegin, neu naratifau Stephen sy’n gofyn cwestiynau, sy’n archwilio persbectif ac yn lluniadu pensaernïaeth, ffigurau, coed ac anifeiliaid.

JAMES, Shani Rhys, Nitrile Gloves ©Shani Rhys James / DACS

WEST, Stephen, Night Owl ©Stephen West

Yn ogystal â benthyciadau gan ein sefydliadau cenedlaethol, mae’r ddau wedi cynhyrchu gwaith newydd mewn ymateb i adeilad a chasgliadau Storiel.

Mae’r arddangosfa yma wedi bod yn bosib trwy nawdd CELF- Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru.

Share


More like this