CYNFAS

David Moore
30 Mai 2025

Ymchwilio'r artist Ray Howard-Jones yn Amgueddfa Cymru

David Moore

30 Mai 2025 | Minute read

Seascape at Sunset
HOWARD-JONES, Ray
© Nicola Howard-Jones/Amgueddfa Cymru

Un o’r casgliadau celf un-artist mwyaf yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru yw un yr artist Ray Howard-Jones (1903-1996), yr artist benywaidd Cymreig o fri oedd yn enwog am ei gwaith fel yn paentio’r môr, brithweithiwr, arloeswraig theatr gymunedol a chyfrinydd Cristnogol. Mae tua 1800 darn o waith yn y casgliad. Ond gellid dadlau bod nifer y lluniau tua ddwywaith gymaint gan i’r 95 llyfr braslunio gynnwys nifer o dudalennau, er iddyn nhw dderbyn un rhif yr un yn y catalog. Tan yn ddiweddar, mae wedi bod yn adnodd digyffwrdd heb fawr o ymchwil.

Untitled
HOWARD-JONES, Ray
© Nicola Howard-Jones/Amgueddfa Cymru

Roeddwn i’n adnabod yr artist yn ei degawd olaf tra’n gweithio i’r gwasanaeth amgueddfeydd yn Sir Benfro tua diwedd y 1980au. Roeddwn i’n arfer ymweld â hi ar yr arfordir ym Marloes lle roedd hi’n treulio nifer o fisoedd bob blwyddyn yn byw mewn carafan. Ar bedwar achlysur fe yrrais yr arist, yn ei cherbyd ei hun, yn ôl i’w chartref yn Llundain. Dipyn hwyrach, peth amser ar ôl marwolaeth Ray a pan oedd mwy o amser gen i, roedd diddordeb gen i mewn ymchwilio ac ysgrifennu am ei bywyd a’i gwaith.

Wrth ymchwilio bywyd a gwaith Ray, mae dau gasgliad cyhoeddus yng Nghymru wedi bod o bwys sylweddol, sef Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, lle mae archif personol mawr yr artist wedi’i gadw. Yn wreiddiol, roedd y ddau gasgliad wedi’u gadael ar gyfer yr Amgueddfa a’u derbyn gan y Ceidwad Celf ar y pryd, David Alston. Cafodd y rhan fwyaf o’r deunydd archifol eu trosglwyddo i’r Llyfrgell Genedlaethol, at ddibenion mynediad iddo. Yn deillio o nifer o gyfnodau o’u bywyd mae’r deunydd archifol yn cynnwys llythyrau, cofnodion o’ lythyrau, catalogau, papurau arddangosfwydd, toriadau o’r wasg, rhaglenni, dyddiaduron, dyddlyfrau, deunydd ysgrifennu, cerddi, llyfrau braslunio, ffotograffau a sleidiau. Nid oedd bob un o’r gweithiau yng nghasgliad yr Amgueddfa wedi’u gadael ar ôl Ray. Roedd rhai wedi’u prynu neu yn rhoddion, gydag ambell un wedi’u caffael pan ddosbarthwyd casgliad Cyngor y Celfyddydau.

Untitled
HOWARD-JONES, Ray
© Nicola Howard-Jones/Amgueddfa Cymru

Roedd heriau wrth asesu’r gweithiau celf. Gan fod y rhan fwyaf o’r gweithiau wedi parhau gyda Ray nes ei marwolaeth, roedd y deunydd ym amrywio’n fawr o ran ansawdd o frasluniau yn ei phlentyndod i weithiau cymhleth tu hwnt ganddi fel artist hŷn. Roedd nifer heb ffrâm. Roedd y deunyddiau gafodd eu defnyddio hefyd yn amrywio cryn dipyn o lyfrau braslunio o’r radd flaenaf, i baentiadau soffistigedig ar dudalennau o bapurau newydd a chylchgronau yn aml. Pan oedd Ray yn fyr ar ddeunyddiau celf, mewn ymgais i barhau i weithio, doedd hi ddim yn oedi cyn troi at unrhyw beth oedd wrth law.

Trosolwg cronolegol o'r casgliad

Mae casgliad helaeth yr Amgueddfa o waith Ray yn ddeunydd craidd y dylid, wrth ystyried ei amrediad cronolegol, gael ei ddeall mewn cyd-destun bywgraffiadol. Enw geni oedd Ray, Rose Mary Howard-Jones (gafodd ei fyrhau i Rosemary) – cafodd ei magu, ynghyd â’i brawd, ym Mhenarth gan ei thad-cu cyfoethog ar ochr ei mam. Fe mynychodd yr ysgol flaengar London Garden School ac Ysgol Gelf Gain y Slade. Mae casgliad Amgueddfa Cymru yn cynnwys brasluniau o’o bywyd teuluol cynnar a’i hanifeiliaid anwes, yn ogystal â gwyliau yn Llyn Llangors a Dinbych-y-Pysgod. Mae straeon o’i phlentyndod â darluniau annwyl, a gweithiau celf a llyfrau nodiadau o’r ysgol hefyd wedi goroesi.

Study for Mural - underwater design with fish, crab and seaweed
HOWARD-JONES, Ray
© Nicola Howard-Jones/Amgueddfa Cymru

O’r 1920au cynnar yn ystod ei hamser yn Ysgol Gelf Gain y Slade mae nifer o ymarferiadau, dyluniadau ar gyfer tecstiliau, a manylion bras i furlun tanddŵr. Daw sawl ysgythriad pren a’u blociau printio wedi goroesi o gyfnod Ray fel myfyriwr, gan gynnwys un o’i chwaer Gabrielle fel dawnsiwr yn cysgu, un a enillodd wobr Slade iddi. Daw dyfrlliwiau botanegol, brasluniau o Ynysoedd y Sianel a darluniau inc o ddodrefn mewn eglwys o’r cyfnod hwn hefyd.

Effeithiwyd ar yrfa gynnar Rosemary gan twbercwlosis di-ysgyfaint, llawdriniaeth fyddai’n peryglu’i bywyd a blynyddoedd o wellhad yn ôl ym Mhenarth. Dim ond ym 1935 y gwnaeth hi ddechrau defnyddio’r enw ‘Ray’ yn broffesiynol, a lawnsio’i gyrfa fel artist yn Llundain. Fe weithiodd fel darlunydd yn Amgueddfa Cymru yn y 1930au lle daeth yn ffrind i’r archaeolegwyr blaengar gan gynnwys William F. Grimes, a oedd yn hapus i sefyll am fywluniad, ynghyd â’i deulu. Yn ystod y cyfnod hwn, fe aeth yn gyfarwyddydd artistig yr East Moors Players yn Splott yng Nghaerdydd, ac mae nifer o’i dyluniadau yn y casgliad.

Flat Holm, Western Approaches
HOWARD-JONES, Ray
© Nicola Howard-Jones/Amgueddfa Cymru

Fe gyfrannodd Ray yn helaeth i gofnodi effaith yr Ail Ryfel Byd yn y de. Roedd Pwyllgor Cynghori Artistiaid y Rhyfel wedi caffael nifer o’i phaentiadau, gan gynnwys sawl manylyn ar longau masnach D-day, a fe gomisiynwyd hi i ddogfennu ynysoedd Sianel Hafren Ynys Echni ac Ynys Ronech (Steep Holm) a oedd yn gadarnleoedd pwysig. Yn Amgueddfa Cymru mae sawl llyfr braslunio yn cynnwys lleoliadau gynau, gweithgareddau milwrol gyda chychod a phersonél ar yr ynysoedd hyn. Mae gouache allweddol o gyfnod y rhyfel, Ynys Echni, Dynesfeydd y Gorllewin, yn dangos y goleudy a lleoliad gwn ar Ynys Echni, a gafodd ei gyflwyno i Gymdeithas Gelf Gyfoes Cymru (CASW). Mae gouaches eraill yn cynnwys Gorsaf Balŵn, Tywydd Gwyntog, sy’n dangos balŵn amddiffyn a’i dîm gofalu tu hwnt i Ysbyty Llandŵ, a phortread syfrdanol, Profwr WAAF, Bwrdd Dewis Llu Awyr, o fenyw mewn lifrai wedi’i hamgylchynu gan awyrennau model.

Ar ôl y rhyfel, i gael seibiant, cafodd Ray le yn ysgol ôl-raddedig Hospitalfield yn Arbroath ym 1946 i ddatblygu’i gwaith gyda’r warden James Cowie. Mae yna ddyfrlliwiau a brasluniau gouache o’r tirweddau cyfagos yn yr Alban yng nghasgliad Amgueddfa Cymru.

An eye for the people
HOWARD-JONES, Ray
© Nicola Howard-Jones/Amgueddfa Cymru

Yn y 1940au hwyr fe ymgartrefodd yn Llundain a chwrdd â Raymond Moore, gŵr graddedig o’r Coleg Celf Brenhinol, dyn y byddai’n byw gydag ef am ddau ddegawd. Yn ystod eu hamser gyda’i gilydd, fe ddatblygodd Raymond o fod yn baentiwr i fod yn ffotograffydd o fri. Drwy’r 1950au bydden nhw’n treulio’r haf ar Ynys Sgomer yn Sir Benfro, a thymhorau ar yr arfordir y tir mawr yn y 1960au. Yn ystod y cyfnod hwn, fe gafodd hi bump arddangosfa unigol llwyddiannus a dylanwadol yn Orielau Caelŷr Llundain. Roedd hi hefyd wedi dylunio dau mosäig o bwys yng Nghaerdydd a Chaeredin. Mae’r dyluniad ar gyfer yr un yng Nghaerdydd, murlun tri llawr ar hen adeilad y Western Mail, gafodd ei ddymchwel yn 2008, yn nghasgliad yr Amgueddfa ynghyd â dyluniadau arall. Gwahanodd Ray a Moore ym 1970 ac mae casgliad yn cynnwys darluniau, lithograffau a ffotograffau ganddo ef. Gwnaeth Ray barhau i ymweld â Marloes nes iddi fynd yn oedrannus ac roedd hi’n cael ei dathlu’n eang drwy Gymru.

Ysbrydolrwydd arfordir gwyllt Sir Benfro

Abstract Rockpool Study
HOWARD-JONES, Ray
© Nicola Howard-Jones/Amgueddfa Cymru
Two Cows Fighting over a Pup
HOWARD-JONES, Ray
© Nicola Howard-Jones/Amgueddfa Cymru

Un o brif themâu’r casgliad yw ymarferiadau o arfordir Sir Benfro, Ynys Sgomer yn benodol, ac yn arbennig o amgylch arfordir tir mawr Marloes. Mae nifer helaeth o ymarferiadau o’r berthynas weledol rhwng strwythur y creigiau, y môr a’r awyr sydd o hyd yn newid, wedi’u heffeithio gan y tymhorau, adegau’r dydd, llanw, golau a’r tywydd. Gwnaethpwyd nifer o’r rhain yn Renney Slip, bae i’r de o’r Parc Ceirw, a ellir ei gyrraedd drwy lwybr peryglus lawr clogwyni dau-gan-droedfedd. Yn ystod y 1960au, byddai’r gweithiau hyn yn datblygu i fod yn fwy haniaethol a dangos amrywiaeth trawiadol o gyfuniadau o liwiau, siapiau a gweadau sy’n deillio o arsylwadau dwfn o’r arfordir rhwng y Parc Ceirw, gan edrych allan dros Sgomer, a Thraethau Marloes. Roedd pyllau glan môr yn aml yn ffynhonnell ysbrydoliaeth. Darluniadau graffit, sialc, dyfrlliwiau a gouaches yw'r mwyafrif ond ceir hefyd olewau, collages cyfrwng-cymysg, darluniau siarcol a chreon ac, yn enwedig yn ddiweddarach yn ei bywyd, pasteli. Yn aml mae gan ei chreigiau ansawdd swrrealaidd, yn cael eu hanthropomorffeiddio a'u priodoli i enwau fel The Brother. Rhoddodd Ray enwau personol ar faeau hefyd, yn enwedig Easter Bay. O Sgomer mae delweddau o'r ffermdy gyda cheffylau ac, ym Marloes, y bwthyn a ddefnyddiodd fel stiwdio am flynyddoedd lawer. Ceir brasluniau rhyfeddol o forloi, llygod y coed, cwningod, gwylanwyddau, adar drycin, crancod meudwy, sêr môr a gloÿnnod byw.

Te Deum - Evening
HOWARD-JONES, Ray
© Nicola Howard-Jones/Amgueddfa Cymru

Gwelir nodweddion penodol yng ngwaith diweddarach Ray: ei defnydd mwy cyferbyniol a bywiog o liw ac ymdeimlad cryf o gyfriniaeth. Roedd gan Ray ffydd Gristnogol ddofn ac roedd llawer o’i gwaith yn cael ei yrru gan yr angen i ddod â hi yn nes at Dduw, trwy ddealltwriaeth ddyfnach o’r byd naturiol. Atgyfnerthwyd ei ffydd gan amlygiad i wylltineb arfordir Sir Benfro. Craig arbennig a dynnodd dro ar ôl tro oedd un trionglog yn Renney Slip a'i galwodd yn Te Deum, sef talfyriad o Te Deum Laudamas, emyn Lladin i foli Duw. Daeth yn oblad o'r Benedictiaid yn Abaty Nashdom yn Swydd Buckingham, peintiodd groesau addurnedig ar lyfrnodau, braslunio eglwysi a chynhyrchodd gynlluniau anweithredol ar gyfer allorluniau.

Dim ond trosolwg o’r casgliad sydd wedi bod yn bosibl gan ei fod yn cwmpasu portffolio llawer ehangach gydag astudiaethau o dirweddau a safleoedd hanesyddol eraill yn y gorllewin, yn ogystal â Gŵyr a’r canolbarth. Mae Llundain yn ymddangos yn llai aml, gan amlygu ffocws Ray ar Gymru. Mae ei theithiau dramor yn cynnwys Alderney, Tuscany, Cyprus, yr Unol Daleithiau a Phortiwgal. Gellir dod o hyd i frasluniau portread o'i nith Nicola, ei ffrindiau yr Athro Mary Williams a'r arlunydd-fardd David Jones, yn ogystal â'r pianydd Alberto Portugheis.

Mae casgliad Ray Howard-Jones yn adnodd arwyddocaol ac, wedi i’r cyd-destun ehangach gael ei ymchwilio’n gynhwysfawr a gwybodaeth newydd wedi’i hychwanegu at gofnodion yr Amgueddfa, mae’n bosibl gwireddu ei botensial addysgol a dehongliadol sylweddol.


Mae David Moore wedi gweithio yn, a chyda, amgueddfeydd ac orielau Cymru, ers 1985. Bu’n swyddog amgueddfeydd gydag Amgueddfeydd Sir Benfro ac, yn 1992, daeth yn guradur Amgueddfa Brycheiniog lle adeiladodd ar y casgliad celf a sefydlodd yr oriel gelf gyda rhaglen helaeth o arddangosfeydd fyddai’n cynnwys artistiaid o Gymru. Ers 2004 mae wedi gweithio’n llawrydd, yn curadu arddangosfeydd ac ysgrifennu am gelf fodern, grwpiau artistiaid a chasgliadau celf cyhoeddus yng Nghymru o dan argraffnod Crooked Window. Cyhoeddodd Graffeg ei lyfr Art for Wales: The Legacy of Derek Williams yn 2020 a Bird Eye Books ei gofiant, Ray Howard-Jones: My Hand is the Voice of the Sea, yn 2023.

Share


More like this