Iolo Walker yn trafod Yr Eryrod / The Eagles gyda Phoebe Murray-Hobbs
WALKER, Iolo, Yr Eryrod / The Eagles © Iolo Walker
Yn hanesyddol, mae tecstilau wedi bod yn eitemau mwy prin mewn casgliadau celf fodern a chyfoes. Gyda phwyslais ar broses, deunydd a chrefft sy'n mynd yn groes i’r hyn mae hanes celf fodern yn ei wneud, sef blaenoriaethu estheteg ac artistiaid unigol, mae tecstilau yn aml wedi cael eu neilltuo a'u labelu fel "addurniadol" a "domestig".
Er mwyn dathlu sgil, creadigrwydd a gwreiddioldeb gweithiau celf tecstilau yng Nghasgliad y Llyfrgell Genedlaethol, comisiynwyd tri artist tecstilau sy'n gweithio yng Nghymru heddiw i ymateb i ddarnau gan yr artistiaid Anya Paintsil ac Eirian Short.
Yn y cyntaf mewn cyfres o dri chyfweliad, mae Iolo Walker yn siarad am eu darn wedi'i frodio'n ddigidol, Yr Eryrod/ The Eagles, a grëwyd mewn ymateb i Y Brain/ The Crows gan Eirian Short. Darllenwch ragor am drafodaeth am y broses brodwaith digidol a'r berthynas rhwng crefft a diwylliant defnyddwyr.
Allwch chi ddweud mwy wrthym am yr hyn sy'n digwydd yn eich brodwaith, Yr Eryrod?
Yr Eryrod yw’r Eagles, sef yr awyrennau ymladd sy'n plagio Dyffryn Dyfi wrth iddynt wneud eu cylchdaith hyfforddi o'r enw "dolen Mach” neu’r “Mach loop". Maen nhw’n ymddangos fel adar yma, fel fwltur, yn barod i fwyta'r carw sy'n gorwedd islaw. Mae'r ddwy law sy'n ymestyn i lawr oddi uchod yn ddwylo perchnogion ail gartrefi, wedi’u syfrdanu gymaint o weld yr ymosodiad treisgar bod allweddi awtomatig eu ceir yn disgyn i'r llawr.
Cefais fy ysbrydoli gan ansawdd annaearol gwaith Eirian Short, lle mae tirwedd hardd Sir Benfro wedi'i hamgylchynu gan frain. Roeddwn hefyd eisiau trafod ochr dywyllach y stereoteip o’r ddelfrydiaeth wledig Gymreig. Mae'r olygfa yn cynrychioli bygythiad dinistriol yr offerynnau hollbresennol hyn o ryfel diwydiannol ar yr ecosystemau sy’n sail i'r dirwedd naturiol. Yr un dirwedd sy'n cael ei chwenychu gan bobl ar eu gwyliau a pherchnogion ail gartrefi.
Beth sy'n eich denu at frodwaith digidol? Beth yw arwyddocâd y dechneg yn y darn hwn?
Mae gen i ddiddordeb mewn prosesau gwneud patrymau, dadelfennu ac ailosod eitemau, a ddenodd fi at argraffu 3D a thechnegau gwau digidol, gwnïo a brodwaith.
Mae brodwaith digidol yn gysylltiedig yn bennaf ag estheteg gyfalafol logos a brandiau. Mae brodwaith peiriant yn gyfrwng ar gyfer meddiannu’r estheteg yma wrth weithio o leoliad domestig.
Yn Yr Eryrod, mae estheteg defnyddwyr yn cael ei defnyddio i greu gweledigaeth â naws tapestri o bortread gwledig rhamantaidd, ond mae'n weledigaeth lle nad yw popeth fel y mae'n ymddangos.
Beth oedd y broses o wneud y darn?
Dechreuodd y broses gyda lluniad â llaw o'r dyluniad, yna fe wnes i ei ailgreu ar lechen graffeg. Fe wnes i fodelau pypedau digidol 3D o'r awyrennau y gallwn eu symud o gwmpas i gael eu safle yn iawn ac yna dynnu lluniau ohonynt. Fe wnes i collage o’r gwahanol elfennau ar photoshop, steilio'r olygfa ac yna ddigido'r ddelwedd fel ffeiliau brodwaith y gall fy mheiriant eu darllen. Bydd y peiriant yn gweithio ar ei ben ei hun, ond mae angen newid yr edafedd â llaw. Cymerodd pob panel 2.5 awr i'w gwblhau ac mae'n cynnwys 50 000 o bwythau. Dyma’r cyfyngiadau sy'n cael eu pennu gan y peiriant, ond roedd hyn hefyd yn addas iawn i’r dyluniad panel roeddwn i eisiau ar gyfer y darn a ysbrydolwyd gan y paneli yn Y Brain gan Short.
Cafodd y darnau o bren ar gyfer y bocs eu torri â laser, yna eu sandio a'u staenio. Roedd pob panel ynghlwm wrth ddarnau llai o bren ac yna fe’i gosodwyd yn y bocs mwy. Yr unig rannau o’r broses a wnaed â llaw oedd sandio a chydosod y bocs, ac yn y diwedd, cefais fy ffrind Sienna i wneud hynny!
Roedd Eirian Short yn wneuthurwr gwaith celf tecstilau toreithiog ac yn athro ar yr arferion a thechnegau. Sut ydych chi'n teimlo am y ffordd y caiff tecstilau eu cynrychioli mewn amgueddfeydd ac orielau, a sut mae'r arferion hyn yn cael eu haddysgu a'u gwerthfawrogi heddiw?
Mae tecstilau yn dal i fod yn rhan gymharol fechan o'r rhan fwyaf o gasgliadau. Mae archifau ffasiwn yn gymharol fach, hyd yn oed mewn amgueddfeydd mwy. Efallai oherwydd bod yr eitemau hyn yn anoddach i'w storio a'u cadw, ond hefyd, nid ydynt yn cael eu gwerthfawrogi na'u casglu yn yr un modd â phaentiadau o hyd.
Mewn rhai ffyrdd, mae tecstilau yn cynnig gwrthbwynt i baentio fel ffordd ddi-drais o weld hanes. Roedd arferion crefft tecstilau fel gwehyddu neu gwiltio yn aml yn cael eu gwneud ar y cyd â phobl eraill, nid yr unigolyn a'i gyflawniadau unigol. Mae meddwl am gasgliad cenedlaethol yn ddiddorol, oherwydd gallwch adnabod naratif hanes celf cenedl drwy baentiadau, neu drwy grefft, ac rwy'n credu bod crefft yn crisialu’r profiad creadigol yn well. Yn enwedig yn rhywle fel Cymru, lle mae hanes mor gryf o grefft a chynhyrchu tecstilau.
Mae prynwriaeth wedi dieithrio pobl oddi wrth gynhyrchu deunydd mewn cymdeithas ac mae llawer o dechnegau yn cael eu colli oherwydd ffasiwn gyflym. Mae perygl y bydd crefft yn dod yn barodi ohono'i hun, wedi'i lleihau i estheteg fursennaidd. Gall ailymgysylltu â'r prosesau hyn o greu - tecstilau a ffurfiau crefft eraill - gynnig cysylltiad â'r gorffennol, felly rwy'n credu bod angen cymryd y gwaith o addysgu'r prosesau hyn lawer mwy o ddifrif.
Mae Iolo Walker yn artist amlddisgyblaethol sydd wedi'u lleoli ym Machynlleth. Mae eu hymarfer yn cynnwys gwneud ffilmiau, celf perfformio, argraffu 3D, a chreu gweithiau celf tecstilau gan ddefnyddio technegau digidol.
Mae Yr Eryrod/ The Eagles yn waith celf wedi'i frodio'n ddigidol, a wnaed mewn ymateb i Y Brain/ The Crows gan Eirian Short yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'n cynnwys naw panel wedi'u brodio'n ddigidol sy'n mesur 16.5 x 11.5 cm yr un, wedi'u gosod mewn ffrâm wedi'i dorri â laser.
Diolch i Sienna Holmes, Caroline Goodbrand, Safia Siddique a Phoebe Murray-Hobbs am eu cefnogaeth.