Trafodaeth am Tirlun gyda Barcutiaid Coch rhwng Phoebe Murray-Hobbs a'r artist Penny Tristram
TRISTRAM, Penny, Tirlun gyda Barcutiaid Coch ©Penny Tristram
Mae herio hierarchaeth cyfryngau celf a fu’n sail i lawer o hanes ac addysg celf y Gorllewin yn broses barhaus. Mae ail-werthfawrogi celf tecstilau, yn enwedig gan fenywod ac artistiaid y mwyafrif byd-eang, wedi bod yn rhan o hyn, gan fod gweithiau hanesyddol a chyfoes yn cael eu gwerthfawrogi'n gynyddol mewn casgliadau ac arddangosfeydd amgueddfeydd.
Wrth i gasgliad celf gyfoes Llyfrgell Genedlaethol Cymru ddod i'r wefan hon cyn hir, roeddem am dynnu sylw at waith Anya Paintsil, Edrica Huws, ac Eirian Short. Mae'r artistiaid hyn wedi gwthio eu priod dechnegau - gan gynnwys gwneud rygiau, appliqué, brodwaith a chlytwaith - i greu gweithiau sy'n profi ac yn arddangos yr hyn y gellir ei gyflawni drwy gyfrwng tecstilau.
Ddechrau 2025, comisiynwyd tri artist tecstilau sy'n gweithio yng Nghymru heddiw i ymateb i'r gweithiau hyn. Yn ein trydydd cyfweliad a'r olaf cewch ddarllen sut y cafodd Penny Tristham ei hysbrydoli gan Y Brain / The Crows gan Short, a'r berthynas rhwng paentio a brodwaith yn ei hymarfer.
Sut cawsoch eich ysbrydoli gan Y Brain / The Crows gan Eirian Short?
Mae gweithio yng Nghymru wedi bod yn arwyddocaol o ran fy ngwaith oherwydd natur ddramatig a diddorol y dirwedd o'm cwmpas. Roedd gwaith Short (sy'n darlunio Sir Benfro) yn fy atgoffa o fy nhirwedd leol fy hun sy'n greigiog a garw. Er bod brain i'w gweld yn aml yma, mae barcutiaid coch yn nodweddiadol o'r ardal. Cefais fy ysbrydoliaeth o'r olygfa o Ddyffryn Dyfi o’m cartref ger Machynlleth. Un o rinweddau mwyaf trawiadol a chofiadwy Dyffryn Dyfi i mi yw'r tywydd a'r golau sy'n newid yn gyflym, sy'n creu gwyrdd llachar disglair ac awyr llwyd dramatig. Roeddwn i'n anelu at ail-greu'r awyrgylch hwn yn Tirlun gyda Barcutiaid Coch.
Allwch chi ddweud ychydig am y broses o wneud y brodwaith?
Fe wnes i'r brodwaith gyda chyfuniad o edau brodwaith DMC ac edau cotwm organig Scanfil, ar sylfaen o liain organig o Gwmni Tecstilau Organig Machynlleth. Serch hynny, mae fy nhechneg, brodwaith, yn un draddodiadol ac rwy'n cyflwyno dull modern iddi, gan ddefnyddio lliwiau sydd ond yn bosib gyda lliwiau modern, ynghyd â fersiynau mwy rhydd a mynegiannol o bwythau traddodiadol fel pwyth satin a phwyth hir a byr. Cymerodd y brodwaith tua 60 awr i'w gwblhau ac mae wedi'i wneud o ryw 30,000 o bwythau.
Rydych chi'n gweithio gyda phaentio a thecstilau. Beth yw'r heriau a'r gwobrwyon penodol o weithio mewn tecstilau yn lle papur i chi?
Rwy'n tueddu i amrywio bob yn ail rhwng y ddau beth, gan fod brodwaith yn araf ac yn ddwys o ran llafur, ac rwyf wedi gweld ei bod yn ddefnyddiol i ddod â ffresni i fy ngwaith drwy wneud gwaith cyflymach o bryd i'w gilydd. Mae gwneud brodwaith wedi gwella fy sgiliau darlunio a phaentio cynrychioliadol yn fawr, oherwydd gyda brodwaith rydych chi yn y bôn yn darlunio gyda ffocws mewn ffordd bwriadol a meddylgar iawn. Daw fy ysgogiad i weithio gyda thecstilau o'r hud o wneud i edau edrych fel rhywbeth arall - er enghraifft dŵr disglair, neu gasgliad o goed.
Sut ydych chi'n teimlo am y ffordd y mae celf tecstilau yn cael ei chynrychioli mewn amgueddfeydd ac orielau heddiw, o'i chymharu â ffurfiau celf eraill?
Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod yn ymwybodol o'r gwahaniaeth hanesyddol sydd wedi bod pan fyddwn yn rhannu gwaith tecstilau a chelf yn gyffredinol o bob cwr o'r byd. Mae tueddiad wedi bod i enwi awdur neu wneuthurwr celfyddyd gain y Gorllewin, tra bod crefftau a chelf fyd-eang yn cael eu galw'n "brodwaith traddodiadol Cymreig" neu "gerfiadau o Nigeria" er enghraifft. Wrth gwrs, nid yw bob amser yn bosibl gwybod pwy wnaeth ddarn celf neu grefft hanesyddol, ond mae'n rhywbeth i fod yn ymwybodol ohono wrth labelu gwaith.
Mae Penny Tristram yn artist, addysgwr a hwylusydd sydd wedi'i lleoli ym Machynlleth.
Mae Tirlun gyda Barcutiaid Coch yn frodwaith â llaw a grëwyd mewn ymateb i Y Brain / The Crows gan Eirian Short yng Nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Diamedr: 10 modfedd.