Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd yn falch iawn o gyflwyno Clogfaen Pren 1978-2015, ffilm gan David Nash o 21 Mehefin hyd 13 Medi 2025.
NASH, David, Wooden Boulder yn Afon Dwyryd, Rhagfyr 2014 © David Nash
Siâp sfferig wedi'i dorri o goeden wedi cwympo yw’r Clogfaen Pren. Wedi'i gerfio lle syrthiodd y goeden yn Nyffryn Ffestiniog ym 1978, roedd David Nash yn bwriadu cludo'r cerflun i'w stiwdio i ddechrau, ond roedd yn rhy drwm a pheryglus i'w symud. Yn lle hynny, roliodd Nash ef i nant gerllaw gan obeithio y byddai'n cael ei ysgubo i lawr y dyffryn. Aeth yn sownd a throdd y siom gychwynnol yn gyfle diddorol yn fuan wrth i'r dŵr ddechrau tywyllu'r pren, gan droi'r cerflun yn beth oedd yn edrych fel clogfaen.
Dychwelodd Nash yn aml i gofnodi'r clogfaen gan ddefnyddio ffilm, ffotograffiaeth, cerflunio, a darlunio nes i ddŵr storm ei wthio ymlaen. Dilynodd daith y clogfaen a'i ymgysylltiad â'r tywydd a'r tymhorau am ddegawdau.
Mae'r ffilm ar fenthyg am dymor hir i Amgueddfa Cymru gan Ymddiriedolaeth Derek Williams ac fe'i dangosir yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd fel rhan o CELF: oriel gelf gyfoes genedlaethol i Gymru.