EASTWOOD, Paul, Saunders Lewis © Paul Eastwood, Ffotograffiaeth gan Rhian Israel
Cysgod Cerflun Saunders
gan Owain Lewis
Mae’r weithred o greu cerflun o berson yn un sy’n cloi presenoldeb a phersonoldeb yr unigolyn hwnnw mewn amser a gofod penodol. O’i bortreadu mewn clai, efydd neu farmor, daw’r person yn ddelw i edrych arni ac yn wrthrych i’w ystyried a’i arddangos mewn cyd-destun penodol.
Tynged gwrthrych pob cerflun yw newid o fod yn berson gweithredol yn y byd i fod yn ddelw sy’n eistedd yn fud yn y byd hwnnw. Try’r gweithgar, y diwyd, y medrus a’r enwog yn wrthrychau llonydd wedi eu dal yn eu hunfan. Fe’u gosodir i’w harddangos a’u hedmygu, eu dathlu a’u barnu, a’u hastudio fel darnau o gelf i’r oesoedd a ddêl allu craffu arnynt. Er y gall crefft y cerflunydd gyfeirio at natur y cyfryw berson, yn aml fe erys y syniadau a’r gweithredoedd a wnaeth ysgogi’r darn yn absennol o’r gwrthrych ei hun.
Eto mae i gerfluniau arwyddocâd symbolaidd ehangach na’u gwrthrychedd moel ac mae i’r gwrthrychedd hwnnw yntau arwyddocâd amgenach. Mae cerfluniau yn bethau pwrpasol hirhoedlog, wedi eu llunio i gofnodi bywyd rhywun, fel eu bod yn trosgynnu amser. Oherwydd eu natur llythrennol ansymudol a pharhaol mewn byd symudol sy’n gynyddol ansicr o wirioneddau sylfaenol, yn aml bydd cerfluniau yn sbarduno trafod ac anghytuno brwd ynghylch nid yn unig natur y cyfryw berson ond syniadau cymdeithas am werthoedd, gwleidyddiaeth a hanes hefyd. Yn hyn o beth mae ein hymateb i gerflun yn oddrychol ac yn adlewyrchu’r disgwrs ehangach sydd ar waith mewn cymdeithas.
Yn ddiweddar mae ymgyrchoedd BLM a mudiadau eraill wedi codi ymwybyddiaeth o’r newydd am arwyddocâd rhai o’n ffigyrau hanesyddol mwyaf ‘problematig’, gan fynd ati i ddymchwel cerfluniau’r rheiny oedd yn cyfranogi o erchyllterau caethwasiaeth ac yn elwa ohoni. Mae yna ddyletswydd felly i ymdrechu i graffu eto ar ein cerfluniau ac i osod mewn modd hygyrch unrhyw elfennau o’u bywgraffiad y gellid eu hystyried yn broblematig neu’n rhai fuasai’n achos gwewyr i bobl.
Mae gofyn esboniad amgenach ar amryw o gerfluniau, rhyw ymhelaethu ar fywgraffiad y ffigwr sydd nid yn unig yn cyfiawnhau bodolaeth yr arteffact ond yn ei osod mewn cyd-destun sydd yn ateb gofynion y presennol yn ogystal â mynd i’r afael â chwestiynau megis: Pwy oedd y person hwn? Pam y mae ’na gerflun ohono? A wnaeth unrhyw dda yn y byd? Oes rhywbeth y dylwn wybod amdano nad yw’r cerflun yn ei ddangos?
Yn hytrach na cheisio chyflwyno bywgraffiad cyflawn o Saunders Lewis, pwrpas y darn hwn yw trafod un elfen benodol, sef cysgod parhaol rhai sylwadau gwrth-semitaidd yn ei waith ysgrifenedig, a’r drafodaeth gyhoeddus sydd wedi codi ynghylch y sylwadau hynny. Byddaf yn edrych yn gyntaf ar ambell enghraifft o sylwadau Saunders Lewis ac yna sut mae’r rheini sy’n cyfrannu at y naill ochr neu’r llall o’r ddadl yn eu cylch yn barod i droi Saunders Lewis yn ddelw syniadol i bob pwrpas. Drwy broses yr ymddiddan hwn, daw Lewis yn fath ar gerflun ideolegol stond, yn gadarn ei ffurf, a’i syniadaeth mor anghyfnewidiol â’r delwau sy’n ei bortreadu. Yn aml gwneir hynny ar draul gwirioneddau cymhlethach, llai parod i gael eu mowldio, a’r rheiny’n aml yn gwrthgyferbynnu â’i gilydd.
Mae yna sawl enghraifft y gellid eu defnyddio er mwyn dangos gwrth-semitiaeth yng ngwaith Saunders Lewis. Heb geisio lleihau arwyddocâd sylwadau eraill ganddo mewn unrhyw fodd, ond gan gydnabod yr angen i geisio bod yn gryno wrth hefyd wneud cyfiawnder â’r pwnc dan sylw, byddaf yn canolbwyntio ar ddwy enghraifft amlwg yma.
EASTWOOD, Paul, Saunders Lewis © Paul Eastwood, Ffotograffiaeth gan Rhian Israel
EASTWOOD, Paul, Saunders Lewis © Paul Eastwood, Ffotograffiaeth gan Rhian Israel
EASTWOOD, Paul, Saunders Lewis © Paul Eastwood, Ffotograffiaeth gan Rhian Israel
Daw’r enghraifft ddrwgenwocaf o gerdd ‘Y Dilyw 1939’ gyhoeddwyd yn Byd a Betws (1941). Mae’r gerdd yn rhefru yn erbyn y dadfeiliad diwylliannol, moesol, ysbrydol a chenedlaethol a wêl Lewis yng nghymoedd de Cymru yn y degawd wedi Dirwasgiad Mawr 1929. Canfydda yn y cymoedd ddiddymdra anobeithiol yn sgil grymoedd economaidd rhyngwladol, ac fe leolir ffigwr y dihiryn o gyfalafwr Iddewig didostur wrth wraidd y diddymdra hwn:
- ‘Yna, ar Olympos, yn Wall Street, mil naw cant naw ar hugain,
- Wrth eu tasg anfeidrol wyddonol o lywio proffidiau ffawd,
- Penderfynodd y duwiau, a’u traed yn y carped Abusson
- A’u ffroenau Hebreig yn ystadegau’r chwarter,
- Ddod y dydd i brinhau credyd drwy fydysawd awr.’ (1941, t.10)
Mae yna wrth-semitiaeth amlwg yn y fan hon. Mae’n dangos mynegiant Saunders Lewis o weledigaeth benodol lle dyrchefir naratif parod am Iddewon fel carfan holl bwerus fuasai rywsut yn gallu rheoli cyfalaf byd-eang. Fe bortreadir Iddewon Efrog Newydd fel duwiau’r byd modern, a ffawd y cenhedloedd fel petai yn eistedd yng nghledrau eu dwylo. Amhosib yw gwadu’r dehongliad o’r gerdd fel un sy’n mynegi damcaniaethau ac ystrydebau gwrth-semitaidd gan ddefnyddio delwedd yr Iddew a’i rym dilyffethair rhyngwladol bondigrybwyll fel bwch dihangol. Yn wir, mae’r ymdriniaeth hon o Iddewon gan Saunders Lewis yn rhan o batrwm ehangach yn ei waith am gyfnod.
Tu hwnt i ‘Y Dilyw’, mae yna hefyd sylwadau am Iddewon mewn colofnau gan Saunders Lewis ym mhapur Y Ddraig Goch y gellid eu disgrifio fel rhai gwrth-semitaidd. Ymhlith y rhain mae nifer wedi crybwyll colofn ar flaen y papur ym Mehefin 1933, â’r pennawd ‘Propaganda’r Papurau Saesnig’. Sonnir am ddyfodiad Adolf Hitler i rym yn yr Almaen, ei bolisïau economaidd yn targedu Iddewon ac ymateb y wasg Brydeinig i hyn. Dywed Saunders Lewis:
Unwaith yn rhagor, ceir portread o Iddewon grymus rhyngwladol, y tro hwn yn prynu dylanwad y wasg Brydeinig er mwyn llywio’r farn gyhoeddus yn erbyn yr Almaen. Ffurf arall ar ystrydeb wrth-semitaidd gyffredin yn y cyfnod ydoedd hon yn ddi-os. Er iddo nodi erledigaeth yr Iddewon a chyfeirio at ddal y ‘diniwed’ ynghyd â’r ‘niweidiol’ yn rhwyd y polisïau, effaith yr ymwahaniaethu ymddangosiadol hwn rhwng Iddewon da a drwg yw lled gyfiawnhau rhesymeg waelodol yr erledigaeth.
Dengys yr enghraifft uchod rai o nodweddion y drafodaeth ynghylch gwrth-semitiaeth Saunders Lewis. Ymwrthod yn llwyr â’r fath ddehongliad wna Meredydd Evans:
Eto mae methiant Lewis i nodi mewn modd amlwg a diamwys hiliaeth sylfaenol y polisi hefyd yn broblematig a dweud y lleiaf. Roedd y gred fod Iddewon yr Almaen, oedd yn ffurfio oddeutu 1% o’r boblogaeth yn 1933, yn meddu ar gyfoeth llawer mwy y pen o’r boblogaeth nag Almaenwyr eraill yn un o’r mythau a ddefnyddiwyd gan y Natsïaid i gyfiawnhau deddfwriaeth hiliol a’r erledigaeth a arweiniodd yn ei dro at yr Holocost.
Fe ellid dadlau nad oedd Lewis yn ymwybodol o’r erchyllterau dibendraw oedd i ddod i gwrdd ag Iddewon yr Almaen a gweddill Ewrop. Yn yr un modd gellid hawlio nad gwneud pwynt uniongyrchol am gynllwyn cyfalafwyr Iddewig oedd pwrpas defnyddio’r enghraifft uchod yn gymaint ag amlygu sut oedd y wasg yn dylanwadu ar y boblogaeth er mwyn eu paratoi at ryfel (Evans, 1989, tt.41-42). Eto mae ei fethiant i gollfarnu’r hyn oedd ar droed yn yr Almaen yn 1933 a’i barodrwydd i ddefnyddio ystrydeb yr Iddew ariannog yn ddigwestiwn yn farc yn ei erbyn ac yn dystiolaeth o agweddau gwrth-semitaidd ar ei ran yn y cyfnod hwn.
Yn sicr, fel y dangosodd Grahame Davies, mae modd gweld rhai o ddramâu diweddarach Saunders Lewis, ‘Brad’, ‘1938’ ac ‘Esther’ fel ymgais i unioni’r cam a wnaeth ag Iddewon yn ei sylwadau blaenorol ac fel math ar ymddiheuriad am ei golofnau a’i gerddi cynharach (2002, t.32). Noda Davies ymgais i gysylltu hanes yr Iddewon â’r Cymry yn Esther yn benodol:
Nid amcan y darn hwn yw sylwebu i ba raddau y gwna’r ymdrechion hyn iawn am y sylwadau blaenorol, (nid ydynt, wedi’r cyfan, yn ymddiheuriadau echblyg nac yn mynegi edifeirwch) ond fe ddylid eu cofnodi, gan eu bod, fe ymddengys, yn dynodi newid ymwybodol yn ddiweddarach yn ei oes yn agwedd gyhoeddus Lewis tuag at yr Iddewon.
O’u hystyried yng nghorff ei waith felly, er bod y sylwadau a ddyfynnir uchod yn amlwg wrth-semitaidd, mae dehongli beth yn union yw eu hamcan, eu hystyr a’u harwyddocâd mewn perthynas â syniadaeth ehangach Saunders Lewis yn weithred anos ac yn destun ysgrif arall. Ar sail y dystiolaeth hanesyddol sydd ar gael i ni, fe ellir dweud yn ddiamwys fod Saunders Lewis wedi gwneud sylwadau gwrth-semitaidd a’i fod, fe ymddengys, yn arddel ffurf ar wrth-semitiaeth am gyfnod. Yn ddiweddarach yn ogystal ceir tystiolaeth ei fod wedi cefnu ar y syniadau sy’n ymhlyg yn y sylwadau hyn, ac wedi ceisio gwneud iawn amdanynt. Mae’r sefyllfa’n amwys felly: pa elfen o waith Saunders Lewis y dylid ei thanlinellu, pa fersiwn o’r awdur yw’r un cywir i’w gofio?
Canlyniad yr amwysedd hwn yw fod yna sawl achlysur lle mae’r drafodaeth pa un a oedd Saunders Lewis ar y naill law yn wrth-semitydd o ran anian, neu rywsut ar y llaw arall yn cyfranogi o drafodaeth oedd yn rhan o ffasiwn yr oes ac felly rywsut, buasai rhywrai’n dadlau, yn fwy dealladwy neu dderbyniol.
Mae ei golofnau yn arbennig yn destun anghytuno i’r graddau fod modd dehongli eu harwyddocad mewn gwahanol ffyrdd ac mae unigolion yn eu tro wedi dewis eu defnyddio i ddadlau o blaid ac yn erbyn ystyried Saunders Lewis fel gwrth-semitydd rhonc. I Grahame Davies mae’r colofnau yn dangos fod Lewis wedi awgrymu mai ‘propaganda anwir oedd yr hanesion’ o erledigaeth yr Iddewon (1997, t.69) ac yn rhan o ymagweddu penodol i’r byd modern o’r math a amlygir yng ngwaith Chesterton, Belloc a T. S. Eliot:
Dadleua Marc Edwards yntau mewn erthygl ddiweddar yn O’r Pedwar Gwynt:
Ar y llaw arall dadleua Meredydd Evans, yn ei asesiad o golofnau Lewis yn Y Ddraig Goch fod yr enghreifftiau o wrth-semitiaeth yn brin, ac fe geir hefyd enghreifftiau niferus lle dangosir cydymdeimlad ag Iddewon (1989).
Mae’r drafodaeth hon, a’r dehongliadau y dewisir eu dilyn gan ddarllenwyr gwahanol, yn aml yn cael ei llywio gan ogwydd gwleidyddol ehangach, a’r angen i gollfarnu neu warchod gwaddol Saunders Lewis fel ffigwr allweddol yn hanes Cymru’r ugeinfed ganrif ynghyd â dyfodiad twf y cenedlaetholdeb Cymreig a Chymraeg y mae’n ei gynrychioli. Try’r sgwrs o fod yn un sy’n ymwneud yn uniongyrchol â ffeithiau cynnwys gwaith Lewis, i fod yn ddadl amgenach am natur Cymru a chenedlaetholdeb Cymreig. Yn sgil hynny mae’r drafodaeth yn aml yn gwyro oddi ar lwybr canfod y gwirionedd tuag at ymddiddan pleidiol nad yw’n rhoi sylw teilwng i hanfod cwestiwn creiddiol gwrth-semitiaeth Saunders Lewis.
Gellir cyfeirio yma’n fras at ddwy enghraifft nodedig o’r duedd hon. Mae’r gyntaf yn deillio o gyhoeddi bywgraffiad D. Tecwyn Lloyd ‘John Saunders Lewis: Y Gyfrol Gyntaf’ yn 1988. Cafwyd trafodaeth gyhoeddus am ddilysrwydd y cyhuddiad yn erbyn Saunders Lewis yn dilyn sylwadau gan yr awdur am ei agweddau tuag at Iddewon. Cafwyd cyfraniadau gan Dafydd Glyn Jones, Ned Thomas, Dafydd Elis Thomas ac eraill fel rhan o’r drafodaeth honno, a’r rhain yn eu tro wnaeth ysgogi Meredydd Evans i ysgrifennu ei amddiffyniad o Lewis.
Daw’r ail enghraifft mwy diweddar ar ffurf dadl gyhoeddus a gynhaliwyd yn bennaf ar wefan yr Institute of Welsh Affairs yn sgil cyhoeddi cyfrol Richard Wyn Jones Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru: Plaid Cymru a’r Cyhuddiad o Ffasgaeth yn 2013. Fel yr awgryma’r teitl, testun llyfr Richard Wyn Jones yw’r cyhuddiad hanesyddol o ffasgiaeth yn erbyn Plaid Cymru, lle darpara grynodeb o deithi meddwl rhai o brif ffigurau’r Blaid yn yr ugeinfed ganrif, Saunders Lewis yn eu plith, wrth ymwrthod â’r cyhuddiad hwnnw.
Yn dilyn cyhoeddi’r llyfr, ysgrifennodd Tim Williams erthygl ar wefan yr IWA yn condemnio ymdriniaeth hanesyddol y llyfr, gan ganolbwyntio ar Saunders Lewis. Mae natur y drafodaeth yn danllyd, ond yn gryno mae Williams yn beirniadu’r ymdrech (fel y gwêl ef):
Lleola Tim Williams y ddadl ynghylch ffasgiaeth honedig a gwrth-semitiaeth Lewis yn hunanymwybodol yng ngwleidyddiaeth y presennol. Serch hynny, mae fel pe bai’n honni ar yr un pryd nad yw Saunders Lewis bellach yn berthnasol i wleidyddiaeth gyfoes:
Mae’r erthygl a ddyfynnir uchod yn un defnyddiol i’w hystyried wrth edrych ar natur y ddadl a’r chwerwedd pleidiol sy’n aml wrth wraidd y sgwrs gyhoeddus ynghylch gwaddol Lewis fel ffigwr. Fe ddrysir cwestiwn ei wrth-semitiaeth â chwestiynau hanesyddol ehangach o’i ffasgiaeth honedig a’i syniadaeth wleidyddol. Esgorodd cyhoeddi llyfr Jones a oedd yn asesiad academaidd trylwyr o’r cyhuddiad o ffasgiaeth yn erbyn Plaid Cymru – a sylwadau Tim Williams yn ei gylch – ar ffrae gyhoeddus nid ansylweddol, ac mae’n werth i’r rheini a chanddynt chwilfrydedd ddarllen yr erthyglau a’r sylwadau oddi tanynt er mwyn cael gwell syniad o’r modd y llywir y drafodaeth astrus hon gan wahanol ymlyniadau gwleidyddol, diwyllianol, academaidd a phersonol.
Efallai ei bod yn anorfod fod y drafodaeth am wrth-semitiaeth Saunders Lewis, a’r dadlau ehangach ynghylch ei syniadaeth wleidyddol, yn annatod glwm wrth ymlyniad gwleidyddol y sawl sy’n cyfranogi o’r union drafodaeth. Daw’r sgwrs am ddilysrwydd Saunders Lewis fel ffigwr, a’r dehongliadau ohono, yn estyniad o farn y cyfranogwr ynghylch pynciau megis gwir natur hanes Cymru, ffawd diwylliannol y genedl, ei dyfodol cyfansoddiadol, pwysigrwydd y Gymraeg i’w ffurfiant fel endid a phob math o gwestiynau enfawr, cymhleth ac anystywallt cyffelyb.
Mae crynodeb Grahame Davies o’r drafodaeth gyhoeddus yn un cystal a chyn gytbwysed ag y gallai unrhyw un ei lunio, felly mi ddyfynnaf ei eiriau yma:
Mewn oes lle mae cofebau, cerfluniau a chofnodion cyhoeddus o ffigurau hanesyddol yn destun trafodaeth barhaus ac yn fater ymgyrchu a dadlau gwleidyddol, mae gwerth mewn myfyrio ychydig ac ystyried fel Cymry ein dealltwriaeth o’r cwestiynau a’r ystyriaethau hyn wrth geisio cloriannu ein ffigurau cenedlaethol. Wrth barhau i wynebu cwestiynau heriol a chreu ffordd newydd o drafod a deall ein hanes a’n celfyddyd sy’n fwy ystyrlon a thyner, oni fyddwn nid yn unig yn gwella ein dealltwriaeth o’r person tu hwnt i’r ddelw, ond hefyd ein dirnadaeth a’n perchnogaeth o’n hanes cenedlaethol? Rhaid gwneud hyn er parch i’r lleaifrifoedd sydd yn ein mysg ac sy’n rhan ohonom.
Nid megis haearn nac efydd yw ein dealltwriaeth, ond clai sydd heb ei danio – ac yn cael ei siapio a’i ailweithio’n barhaus. Ôl un bawd arall ar dalp y drafodaeth yw’r darn hwn – ac efallai y bydd yn ysgogiad i rywrai eraill eto ymateb. Mae’n ddyletswydd arnom i gyd i gyd-lunio ein hanes: cerflun yw hwn nad oes ffurf orffenedig arno.
Llyfryddiaeth
- Davies, Grahame. gol. (1997) ‘Rhagfur a Rhagfarn’. Taliesin 100. Gaeaf. tt. 61-77.
- Davies, Grahame. gol. (2002) The Chosen People: Wales & the Jews. Penybont: Seren.
- Evans, Meredydd. (1989) ‘Gwrth-Semitiaeth Saunders Lewis’. Taliesin 68. Tachwedd. tt.33-45.
- Edwards, Marc. (2024) ‘Saunders Lewis, Powys Evans a’r asgell dde adweithiol’. O’r Pedwar Gwynt. Gwanwyn. tt.3-8.
- Jones, Dafydd Glyn. (1989) ‘Dwy Olwg ar Saunders Lewis’. Taliesin 66. Mawrth. tt. 16-26.
- Lewis, Saunders. (1933) ‘Propaganda’r Papurau Saesneg’. Y Ddraig Goch Cyf. 7, Rhif 6. Mehefin. tt.1-2.
- Lewis, Saunders. (1941) Byd a Betws. Aberystwyth: Gwasg Aberystwyth.
- Lewis, Saunders. (1993) Selected Poems. Caerdydd: University of Wales Press.
- Williams, Tim. (2014) ‘Know a hero by his heroes: Saunders Lewis beyond apologetics’ Ar gael: https://www.iwa.wales/agenda/2014/09/know-a-hero-by-his-heroes-saunders-lewis-beyond-apologetics/ [Cyrchwyd: 9 Mai 2025]
EASTWOOD, Paul, Saunders Lewis © Paul Eastwood, Ffotograffiaeth gan Rhian Israel