Cynfas

Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Dewch i gwrdd â ni

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

14 Awst 2025 | munud i ddarllen

Mae 10,000 o weithiau celf o gasgliad celf gyfoes Llyfrgell Genedlaethol Cymru bellach ar gael i'w gweld ar wefan CELF. Ochr yn ochr â chasgliad Amgueddfa Cymru, dyma'r Casgliad Cenedlaethol, sy'n perthyn i bob un ohonom. Diolch i raglen digido gynhwysfawr diweddar, mae paentiadau, brasluniau, gweithiau 3D a ffotograffau bellach ar gael i'w gweld ar-lein yn unrhyw le - does dim rhaid dod i ymweld â ni bob tro mwyach!

Mae sawl unigolyn wedi cyfrannu i'r broses ddigido hon, o ddewis y gweithiau celf, i'w ffotograffiaeth a'u trefnu, i'w llwytho i'r wefan.

Morfudd Bevan, Curadur Celf, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Scott Waby, Pennaeth Digido, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Courtney Evans, Technegydd Delweddau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Gethin James, Cynorthwyydd Geiriau Allweddol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Sian Jones, Swyddog Hawlfraint, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Phoebe Murray-Hobbs, Swyddog Benthyciadau Cymunedol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Dewch i gwrdd â rhai o'r unigolion hynny sy'n gweithio yn y Llyfrgell i gael gwybod mwy am eu gwaith o fewn y rhaglen a rhai o'u hoff ddarnau yn y casgliad sydd newydd ei ddigido!

Morfudd Bevan

Fy rôl i oedd dewis y miloedd o weithiau o’n casgliad celf gyfoes genedlaethol a fyddai’n ymddangos ar wefan CELF, ar y cyd gyda chyn bennaeth yr uned Celf, Lona Mason. Roeddwn wrth fy modd yn ymchwilio ein casgliadau a chwilota’r trwy ein storfeydd lluniau, gan wybod y byddai’r gweithiau yn ymddangos ar wefan CELF yn y dyfodol i bawb eu mwynhau. Mae wedi bod yn wych cydweithio'n agos gyda chydweithwyr yn Amgueddfa Caerdydd ar y prosiect, gan ddod â chasgliadau celf gyfoes genedlaethol Cymru ynghyd.

Fe wnes i hefyd gomisiynu artistiaid i greu gweithiau celf newydd a oedd yn ymateb i gasgliad celf gyfoes y Llyfrgell, a bydd y gweithiau hyn yn dod yn rhan barhaol o’n casgliadau, i’w mwynhau gan bawb am genhedlaethau i ddod. Mae hi wedi bod yn fraint cydweithio gyda Bedwyr Williams, Isabel Adonis, Kyle Legall, Morgan Dowdall a Natalie Chapman ar y comisiynau hyn, ac rydym yn edrych ymlaen yn arw i allu rhannu newyddion am y gweithiau yma yn fuan iawn.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Paintsil, Anya
© Paintsil, Anya/The National Library of Wales

Mae hi’n anodd iawn dewis fy hoff waith o fewn casgliad celf gyfoes y Llyfrgell, ond yn ddiweddar mae’r Llyfrgell wedi bod yn ffodus i brynu’r gwaith ‘Rhitta Gawr’ gan yr artist tecstiliau Anya Paintsil i’n casgliadau, ac felly bydd hi’n braf iawn gweld delwedd o’r gwaith yma yn cael ei rannu ar wefan CELF. Mae Anya yn artist Cymreig a Ghanaidd sydd yn cymryd ysbrydoliaeth o’i phlentyndod yng ngogledd Cymru, a’r traddodiad Fante o greu tecstiliau ffigurol. Mae’n cyfuno technegau crefft a ddysgwyd iddi pan yn blentyn, gan gynnwys creu rygiau, gwaith appliqué a brodwaith â llaw, gyda thechnegau cynllunio gwallt afro, i greu portreadau ar raddfa fawr. O fewn y gwaith grymus hwn gwelir hi’n ail-ddychmygu cymeriad chwedlonol yr Wyddfa , ‘Rhitta Gawr’ trwy ei defnydd o wlân, gwallt a chribau plastig amryliw.

Bydd y wefan yn dangos sut mae ein casgliadau yn datblygu'n gyson i adlewyrchu cyfoeth celf gyfoes Cymru.

Scott Waby

Fel Pennaeth Digido yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, rwy’n arwain tîm ymroddedig sy’n canolbwyntio ar ddigido ystod eang o ddeunyddiau o’n casgliadau helaeth ac amrywiol. Mae'r rhain yn cynnwys llawysgrifau canoloesol, archifau, llyfrau, papurau newydd, paentiadau, ac amrywiaeth o fformatau clyweledol.

Yn y 25 mlynedd rwyf wedi gweithio yma, rwyf wedi gweld newidiadau sylweddol yn y ffordd y mae ein darllenwyr yn ymwneud â’n casgliadau. Heddiw, mae digido yn rhan bwysig o waith y sefydliad, gan ddod â chasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol i gynulleidfa fyd-eang. Un o fy hoff bethau am fy rôl yw gweld eitemau a oedd unwaith yn anodd cael gafael arnynt—fel papurau newydd hanesyddol—yn cael eu trawsnewid yn adnoddau hawdd eu chwilio, sydd ar gael yn rhwydd. Mae'r gallu i chwilio miliynau o dudalennau mewn eiliadau wedi agor posibiliadau newydd ar gyfer ymchwil a darganfod.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Hall, Christopher
© Hall, Christopher/The National Library of Wales

Menter arbennig o gyffrous yw project CELF, sydd wedi gwneud miloedd o eitemau o ddyfnderoedd ein storfeydd yn Aberystwyth yn fwy hygyrch nag erioed o'r blaen. Mae’r project hwn yn destament i rym digido wrth gadw a rhannu ein treftadaeth ddiwylliannol. Mae gen i lawer o ffefrynnau o fewn y casgliadau Celf Gyfoes, ond rydw i’n aml yn cael fy nenu at weithiau syml, diymhongar Christopher Hall. Mae ei baentiadau o bobl yn byw eu bywydau mewn trefi bach a phentrefi yng Nghymru yn llwyddo i fod yn llwm a pherffaith ar yr un pryd - mae rhai wedi dweud ei fod fel ‘Lowry Cymreig’. Fyddwn i ddim yn anghytuno.

Courtney Evans

Rwyf wedi bod yn gweithio fel Technegydd Delweddu ar gyfer y project ers mis Hydref 2023. Mae hyn wedi cynnwys sganio a thynnu lluniau cannoedd o wahanol weithiau celf gan ystod eang o artistiaid a ffotograffwyr.

Mae’r rôl wedi cynnwys gweithio gyda ffyrdd newydd o ddigido nad oeddwn i erioed wedi’u profi o’r blaen. Roeddwn wedi gweithio’n flaenorol gydag amgueddfa’r dref leol yn tynnu lluniau o wrthrychau ar gyfer eu hanner canmlwyddiant cyn dechrau yn y swydd, felly nid oedd gweithio mewn stiwdio yn newydd i mi, ond roedd yr offer a ddefnyddir yn y Llyfrgell yn llawer mwy datblygedig o ran creu ffordd fwy cywir o ddigido.

Rydw i wedi mwynhau gweithio yn y stiwdios a dal yr holl weithiau hyn sydd efallai heb eu gweld gan y cyhoedd o’r blaen. Roedd cael y cyfle i alluogi mwy o bobl i weld y gweithiau celf hyn lle bynnag y bônt yn y wlad yn rhan bwysig o’r rôl i mi.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Carpanini, Jane
© Carpanini, Jane/The National Library of Wales

Mae’n anodd dewis hoff ddarn o waith dwi wedi ei ddigido ar gyfer y project, dwi wedi gweld cymaint! Ond pe bai’n rhaid imi ddewis, mi fyddwn i’n dewis gweithiau Jane Carpanini, yn enwedig ei gweithiau celf o strydoedd, fel ‘Gwely a Brecwast, Caernarfon’. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn ffotograffiaeth strydoedd/adeiladau, rhywbeth y gwnes i dipyn ohono ystod cyfnod clo Covid, felly roedd gweld strydoedd gwahanol yn cael eu dal mewn paentiadau dyfrlliw yn bleser pur i mi. Roedd hefyd yn ffordd wych o weld sut y gallai rhywun ddogfennu lleoliad mewn ffordd wahanol i ffotograffiaeth. Mwynheais hefyd fynd trwy’r holl lyfrau braslunio gwahanol, gan gynnwys rhai Peter Prendergest a Brenda Chamberlain, a chael gweld sut mae meddwl ac arddulliau artistig pob artist yn gweithio ac yn newid trwy gydol eu bywydau.

Gethin James

Pan ddechreuais i weithio yn y Llyfrgell ar y project CELF, roeddwn yn gweithio fel Cynorthwyydd Allweddeirio. Fy rôl sylfaenol oedd i edrych trwy’r corff o waith roedd y Llyfrgell yn ei ddigido ar gyfer y project, ac wedyn rhoi allweddeiriau neu “tags” i’r gweithiau celf fel metadata sydd yn nghlwm i gofnodion catalog mewn system rheoli cynnwys y Llyfrgell, sef ALMA. Wedyn bydd yr allweddeiriau yn cael eu defnyddio i wneud gweithiau y Llyfrgell yn fwy chwiliadwy neu “searchable” ar wefan CELF, fel bod defnyddwyr yn gallu ffeindio yr mathau o celf sydd yn delio gyda themâu sydd yn berthnasol i’w diddordebau. Hefyd bues i’n cadw mewn cyswllt gyda chydweithiwr tebyg yn Amgueddfa Cymru er mwyn sicrhau roedd yr arferion o osod allweddeiriau yn gyson ar draws y casgliadau, ac hefyd i weld os oedd eisiau allweddeiriau newydd er mwyn cipio themâu neu fotiffau oedd yn codi dro ar ôl tro yn ystod y gwaith o allweddeirio casgliad celf y Llyfrgell.

Mae fy nghefndir proffesiynol yn y maes ffiseg yn bennaf, mi wnes i gwblhau fy ngradd israddedig mewn Ffiseg ym Mhrifysgol Abertawe nôl yn 2023 wrth wneud project blwyddyn olaf ar sbectrosgopeg cyseiniant magnetig (SCM), neu “Magnetic Resonance Spectroscopy (MRS)”. Ar ôl hynny, bues i’n gweithio gyda chwmni llogi peiriannau fy nheulu am gyfnod byr, yn gyrru dympwyr a telehandlers ayyb, ac hefyd fel labrwr cyffredin yn helpu i weithio rig drilo fel aelod o dîm, felly roedd swydd sydd yn canolbwyntio ar gelf yn tipyn o newid, ac yn newid adfywiol.

Roedd wastad tipyn o diddordeb gennai yng nghelf, ond felly yn weddol hamddenol wrth gymharu â rhywun gydag addysg ffurfiol yn y meysydd celfyddydau, ac roeddwn i wastad eisiau gweithio yn y Llyfrgell Genedlaethol, fel rhan o sefydliad sydd yn cartrefi arteffactau a chreiriau pwysig i ddiwylliant Cymraeg. Y rhan fwyaf diddorol o’r swydd oedd cael dod i nabod lled ac amrywiaeth o weithiau sydd wedi creu gan, i, neu am Gymru, yn enwedig gyda ffocws y gwaith ar gelf Gymraeg gyfoes, topig rydw i nawr lawer mwy cyfarwydd â, ac yn ddiolchgar i fod yn fwy cyfarwydd ag e.

Un o sialensau y swydd oedd ystyried pa mor fanwl a neilltuol i fod wrth ddefnyddio allweddeiriau ar y celf, dwi’n siŵr gall sawl cytuno pa mor hawdd yw e i fynd dros ben llestri wrth ddadansoddi un darn o gelf, pan mae’r prif beth i gofio yw bod diben yr allweddeiriau yw i ddim nodweddu neu dadansoddi gwaith lawr i’r graddau eithaf, ond i ddarparu termau defnyddiol i’r cyhoedd i chwilio am y gweithiau maen nhw eisiau gweld, felly mae’n angenrheidiol i fod bach mwy cyffredinol yn defnyddio allweddeiriau, yn lle defnyddio cymaint o labeli fel bod y gwaith yn dangos yn bron pob chwiliad!

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Hicks-Jenkins, Clive
© Hicks-Jenkins, Clive/The National Library of Wales

Mae yna wedi bod sawl gwaith sydd wedi sefyll mas i fi yn ystod ein amser yn gweithio ar y project, ond yr un sydd yn sefyll mwyaf cadarn ydy ‘Mari Lwyd Dancing’ gan Clive Hicks-Jenkins. Mae ffigwr dynol noeth sydd yn dala y ffigwr gwerin Cymraeg o’r Fari Lwyd, sef penglog ceffyl gyda shiden gwely yn hongian wrth o, yn dilledu y ffigwr gwrywaidd ac yn gorchuddio ei ben tra ei fod e’n dal y Fari Lwyd mewn safiad fel petai e’n gorymdeithio. Mae’r ffigwr gwrywaidd yn sefyll yn unig mewn tirlun swreal, gyda lliwiau llwm a strwythur geometrig dieithr ar ei bwys, gyda chymylau du ac awyr gwyrdd-llwyd, ac mae popeth gyda rhyw fath o niwlogrwydd ac amlinelliadau bras iddyn nhw sydd yn rhoi ansawdd byrhoedlog, breuddwydiol i’r llun, ac mae lliw yr awyr yn rhoi benthyg o rhyw awyrgylch llonydd.

Wrth ystyried rhagfynegiad yr artist yn defnyddio’r Fari Lwyd fel symbol o farwolaeth, afiechyd a braw, mae’n debygol bod hwn falle yn ddarluniad o rhyw fath o hunllef neu ffantasi felan, ond mae gan y llun naws mwy tawel, llai dramatig wrth gymharu â, dwedwch y gyfres o baentiadau “Deposition” gan yr un artist, felly dwi’n teimlo’n fwy parod i ddweud bod y llun yn ddarlun o ymddiswyddiad i’r themâu o afiechyd a marwolaeth. Y dyn noeth heb wyneb, yn gorymdeithio o dan rhith o farwolaeth mewn tirlun swreal sy’n hala fi i feddwl am y teimlad o ddadwireddu sy’n gallu dod gyda newyddion gofidus neu ddigwyddiad personol trasig. Wrth gwrs, dim ond fy rhagdybiaeth fy hun yw hynny!

Sian Jones

Fi oedd y Swyddog Hawlfraint ar gyfer y prosiect yma ar ran y Llyfrgell. Golygai hyn fy mod i yn chwilio am fanylion cyswllt i’r arlunwyr er mwyn cael eu caniatad i ddigido ac arddangos eu gwaith/gweithiau ar wefan CELF. Byddwn yn aml iawn yn chwilio am fanylion cyswllt ar y we; cysylltu gyda’r arlunwyr, aelodau o’r teulu, orielau, ac hefyd chwilio drwy archifau papurau newydd.

Hefyd mi roeddwn yn gyfrifol am yrru ffurflen hawlfraint y Llyfrgell allan un ai drwy y post neu e-bost. Yn fy mhrofiad i, mae ymateb yr arlunwyr i’r project wedi bod yn bositif iawn, a maent yn falch iawn o gael gweld eu gwaith yn cael ei arddangos ar blatfform fydd yn galluogi pawb o bob cwr o’r byd i ddod i adnabod a gweld y gweithiau ffantastig sydd gan y Llyfrgell yn ein casgliadau.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Jones, Margaret D
© Jones, Margaret D/The National Library of Wales

Fy hoff waith i gael ei ddigido – mae yna gymaint o rai rwyf yn eu hoffi, felly mae hi’n anodd dewis dim ond un. Rwyf wedi bod yn ffan mawr o weithiau Margaret D. Jones ers yn blentyn. Felly mae’r gyfres o gardiau cyfarch ganddi, sydd yn cynnwys Pwyll a Rhiannon, Chwedl Llyn y Fan Fach ac eraill yn un o’r ffefrynau. Mae yna gymaint o fanylder ynddynt, a rwyf yn darganfod rhywbeth newydd bob tro yn ei gwaith.

Phoebe Murray-Hobbs

Des i mewn yn ddiweddarach i broject CELF yn y Llyfrgell, pan oedd y gwaith digido a'r allweddeiriau ar eu hanterth. Dydw i ddim wedi bod yn ymwneud â’r gwaith digido fel y cyfryw, ond mae gwaith y tîm wedi cynyddu sgôp y gwaith y gallaf ei wneud ar gyfer project CELF gyda benthyciadau ac ymgysylltu.

Fy rôl i yw trefnu benthyciadau o eitemau yng nghasgliad celf gyfoes y Llyfrgell i’r 9 oriel arall o fewn rhwydwaith CELF. Mae hyn yn golygu siarad â churaduron am eu harddangosfeydd sydd ar ddod ac yna ymgynghori â'r timau celf a ffotograffiaeth yma i weld pa ddarnau perthnasol a allai fod gan y Llyfrgell. Bydd yr oriel wedyn yn gofyn am y gwaith celf yr hoffent ei fenthyg ac ge gaiff y cais ei adolygu yma yn y Llyfrgell – gan ystyried pethau fel cyflwr y gwaith celf, pa mor fregus ydyw, ac a ydym ei angen ar gyfer unrhyw arddangosfeydd neu ddigwyddiadau yn y Llyfrgell. Rydym bob amser yn ceisio rhoi benthyg lle bo modd. Unwaith y caiff ei gymeradwyo, mae angen trefnu logisteg – trafnidiaeth ac yswiriant – cyn i’r gwaith gael ei roi ar fenthyg a mynd i’w gynnwys mewn arddangosfa newydd. Roedd y broses fenthyca hon eisoes yn digwydd yn y Llyfrgell – fel y mae mewn amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac orielau ar draws y byd – ond gyda phroject CELF rydym yn gallu benthyca mwy o’r casgliad celf gyfoes cenedlaethol i orielau eraill ledled Cymru, fel y gall mwy o bobl weld y gweithiau celf hyn.

Hyd at y pwynt hwn, rwyf wedi bod yn cymryd cipluniau o gelf ar fy ffôn i guraduron i ddangos yr hyn sydd gennym y gallent ei fenthyg ar gyfer eu harddangosfeydd. Nawr bod Courtney wedi tynnu lluniau o’r gweithiau celf, a’u bod ar gael ar-lein, bydd y curaduron yn gallu pori drwy ddelweddau o ansawdd uchel o’n casgliad. Rwy’n gyffrous iawn eu bod yn gallu chwilio trwy’r holl weithiau hyn yn hamddenol, a gweld y syniadau yn datblygu ar gyfer arddangosfeydd y dyfodol!

Rhan arall o fy rôl yw gweithio gyda thîm Amgueddfa Cymru i drefnu comisiynau a chynnwys digidol o amgylch y casgliad ar gyfer gwefan CELF. Rydym wedi cynnal cystadlaethau, comisiynau a gweithgareddau dysgu yn seiliedig ar y casgliad cyfoes cenedlaethol, a’r cyfan wedi’u gwneud yn bosibl oherwydd y gweithiau celf digidol.

Roeddwn i'n arfer gweithio fel athrawes ieithoedd, yn gyntaf mewn ysgol uwchradd, ac yn ddiweddarach i oedolion. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn sut y gellir integreiddio celf weledol i ddysgu ar draws y cwricwlwm, a sut y gall dod i gysylltiad â gweithiau celf gefnogi dysgu, ymchwil, lles a chreadigrwydd ym mhob oed. Nawr bod y casgliad ar gael ar-lein a phobl yn gallu chwilio yn seiliedig ar themâu a’r allweddeiriau y mae Gethin wedi’u hychwanegu, gall pobl ledled y byd ddefnyddio casgliad y Llyfrgell i gefnogi ymchwil a dysgu, sy’n hynod gyffrous yn fy marn i!

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Williams, Claudia
© Williams, Claudia/The National Library of Wales

Mae’n anodd iawn dewis hoff waith celf, felly af gyda fy ffefryn cyntaf a welais pan ddechreuais yn y Llyfrgell – Greenham, Peace Vigil gan Claudia Williams. Rwyf wrth fy modd â chyfoeth y lliwiau, patrymau a gwead y tecstilau yn yr olygfa, a'r awyrgylch cefnogol, gofalgar a llawen a geir. Mae’r brasluniau a wnaeth Claudia pan oedd yng Nghomin Greenham hefyd wedi’u digido, felly gallwch weld y broses artistig o’i harsylwadau cychwynnol i’r paentiad terfynol. Mae llawer o lyfrau braslunio wedi’u digido sy’n arbennig, oherwydd nid yw’r gwrthrychau hyn yn cael eu harddangos yn aml, neu os ydynt, dim ond un dudalen y gallwch ei gweld. Nawr gallwch chi fflicio drwodd a gweld holl frasluniau, sgribls a nodiadau'r artistiaid. Mae’n gysylltiad eitha personol gyda’r artist fel unigolyn, sy’n gallu bod yn ysbrydoledig iawn yn fy marn i, ac mae’n fraint gallu gwneud hyn gartref!


Ffotograff o gamera yn pwyntio at baentiad ar resel.

Share

More like this

Teimlo
Efa Blosse-Mason a Karina Geddes
Wrth Ymyl y ffin
Paul Eastwood
Saunders Lewis
Paul Eastwood ac Owain Lewis
Cais am Gynigion Comisiwn
Celfyddydau Anabledd Cymru ac Amgueddfa Cymru
Croen Siwgr
Jasmine Violet
Clogfaen Pren 1978-2015
Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Stiwdio gyda Menyg yn Storiel, gweld casgliad y Llyfrgell mewn Gofod Newydd
Phoebe Murray-Hobbs, Swyddog Benthyciadau Cymunedol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Tirnodau Personol
Michal Iwanowski
Celf Mewn Ysbytai: Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Sara Treble-Parry, Steph Roberts a Siân Lile-Pastore
Lan yr Afon
Julian McKenny
Morlun Bach
Lucy Purrington
Thyrza Anne Leyshon: Eicon y Portreadau Miniatur o Gymru
Imogen Tingey, Cynorthwyydd Arddangosfeydd, Oriel Gelf Glynn Vivian
Dylunio GIFs Cymraeg
Sioned Young, Mwydro
Artcadia
Barbara Bartl, Rheolwr yr Amgueddfa ac Oriel Gelf, Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Cerdded Adref
Dagmar Bennett
Teulu Wakelin: chwarter canrif o gefnogaeth i artistiaid cyfoes
Andrea Powell, Cynorthwyydd Arddangosfeydd, Oriel Gelf Glynn Vivian
Helen Sear (g.1955)
Mari Griffith
David Nash (g.1945)
Mari Griffith
Rhyfel Mawr Glo Cymru
Maddie Webb, Curadur Gweithiau ar Bapur, Amgueddfa Cymru
Ymdeimlad o Le
Jon Pountney
Toriad
Ffin Jordão
Cadwraeth Paentiadau George Poole
Sarah Bayliss, Uwch Gadwraethwr Paentiadau, Amgueddfa Cymru
Frank Auerbach: Pen E.O.W
James Milne, Technegydd CELF, Ffotograffiaeth gan Rhian Israel, CELF
Ymson ar draeth
Iestyn Tyne
Tyrrau Mawr ar grwydr i Lanbedrog
Gwyn Jones, Alex Boyd Jones, Zoe Lewthwaite, Plas Glyn-y-Weddw
Gweithio gydag artist
Rhian Israel, Swyddog Ffotograffiaeth, CELF
Llwybr Tref Gŵyl Grefft
Rachel Vater, Cynorthwyydd Yr Oriel, Oriel Myrddin
Panopticon
Tina Rogers
Y Cyffredin
Ayesha Khan
Mapiau, celf, a dadgoloneiddio
Ellie King, Curadur Cynorthwyol Mapiau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Dadgoloneiddio’r Casgliad Celf Cenedlaethol
Morfudd Bevan, Curadur Celf, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Delfryd a Diwydiant: Curadu'r arddangosfa yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mari Elin Jones, Swyddog Dehongli, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Dan ddŵr sy'n llifo
Geraint Ross Evans
Golygfa Ddyrchafedig
Geraint Ross Evans
'Arhoswch adre'
Gwynfor Dafydd
Cardiau Post Protest
Osian Grifford
David Garner: Wylo
Nicholas Thornton a Ceri Jones, Amgueddfa Cymru
Storiel: Comisiynau Artistiaid
Esther Elin Roberts, Swyddog Celf Gweledol, Storiel
Collage Fabrig Scrap
Ella Louise Jones
Teulu
Ffion Rhys, Curadur, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Arddangosfa Teulu, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Ffion Rhys, Curadur ac Elin Vaughan Crowley, Artist - Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Oriel Myrddin: Comisiynau Artistiaid
Rachel Vater, Oriel Myrddin
Arnofio
Arddun Rhiannon
Geng Xue (g.1983)
Mari Griffith
Cerddi newydd gan ddisgyblion Cymru
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Dhruva Mistry: O’r astudiaeth i’r cerflunwaith
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Tu ôl i'r llen: Cadwraeth
Sarah Bayliss a Kitty Caiden, Amgueddfa Cymru
Darn Canol Bwrdd Con Brio: Comisiwn Ymddiriedolaeth P&O Makower
Andrew Renton, Pennaeth Casgliadau Dylunio, Amgueddfa Cymru
Arddangosfa Cyfoes: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Morfudd Bevan a Nia Dafydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Yr Eda
Llio Maddocks
Cymharu dau artist: John Selway a Denys Short
Nicholas Thornton, Pennaeth Celf Gain a Chelf Gyfoes, Amgueddfa Cymru
Caffaeliad newydd: Pulped Fiction gan David Shrigley
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Cerflunwaith Prydeinig Newydd yr wythdegau
Jennifer Dudley, Curadur Rheoli Casgliadau Celf a Hygyrchedd, Amgueddfa Cymru
Toredig Ond Prydferth
Apekshit Sharma, Intern Curadurol, Amgueddfa Cymru
Five Minutes
Mari Ellis Dunning
Swyn I
Efa Lois
Gesiye (g. 1992)
Mari Griffith
Eich Map Chi o’r Byd
Michal Iwanowski
Tirlun Anhysbys
Evie Banks
Crogdlws
Lydia Niziblian
Calon yn Deilchion
Tanyaradzwa Chiganze
Beth sy’n bosib ei wneud mewn oriel?
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Dwylo ar Dreftadaeth: Codi’r Llen ar Gaffael
Neil Lebeter ac Umulkhayr Mohamed
Rheolau Celf? Sgwrs gyda’r artist Caroline Walker
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Siarad â Phlant am Gelf
Sian Lile Pastore
Pêl-Droed Cymru a Byd Celf
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Rheolau Celf?
Neil Lebeter