Mam a'i phlentyn
Deffro’n rhy gynnar,
gwely rhy hwyr.
Haenen o rew dros y cof, dryswch,
pwll o feddyliau llithrig.
Daw breuddwydion o rywle ac aros gyda mi yng nghwsg yr oriau hynny, gan erlid trefn, rhythm, patrwm; breuddwydiaf fy mod yn gweu
y sgwaryn bach perffeithiaf a wnaed erioed, delwedd sy’n ymgartrefu ar gefnau f’amrannau.
Rwy’n effro, a’m llygaid ar gau.
Ni wn yr amser.
Ni allaf symud ar hyn o bryd
rhag imi dy ddeffro.
Fe’th glywaf di’n snwffian.
Grwndi’r radio, yn rhy dawel i’w ddeall.
Mae dy wres yng nghwpan fy mreichiau,
yn symud drwof,
yn cynnal ynof befr bywyd, gobaith, a gwytnwch.
Mymryn o chwys oer.
Wyt ti’n rhy boeth?
Wn i ddim, dyma’r tro cyntaf i mi wneud hyn.
Dilyna dy reddf, medden nhw
ond wn i ddim ai greddf felly sydd gen i.
Ceisiaf gadw’r ennyd hon ar gof,
amser a roddaf, yn ddefosyniol, i ti,
amser na fyddi di’n ei gofio.
Rwy’n dal gobaith drosot mor aml,
yn ceisio dy rwystro rhag fy mhryderon am y tro
gan mai ti yw fy nawr: gan fy mod i’n dy garu.
“Y Lleuad yn Sain Ffraid”, Sgomer
Mae’r lleuad yn goch, mae’r lleuad yn oren, medden nhw.
Mae’r awyr yn binc, mae’r awyr yn las, medden nhw.
Mae’r lleuad yn ein dilyn. Cytunwn, ein dau.
Daw’r lleuad ar ein holau, ar hyd y twyni.
Cuddiwn yn y craswellt, a chyrchu lloches.
Dim ond tywod cynnes, i wasgu’n traed iddo.
Mae wedi peidio symud.
Mae’n chwilio amdanom ni.
Llonyddwn, y naill yn disgwyl am y llall.
Ein hanadlu a’r tonnau yn gymysg i gyd.
Cragen fechan fach ar eu coes.
Maen nhw’n sylwi ac yn gweiddi, “Cragen fach!”
Maen nhw’n deffro’r lleuad,
ac mae’r helfa’n mynd rhagddi eto.
Symudwn,
Symuda.
Eira ar Foel Siabod
Ymdrech traed a phennau gliniau,
igam, ogam, ymlaen.
Mae’n anodd,
‘Ond werth-o, ddwedwn i’,
‘Gofyn imi’n nes ’mlaen,’ meddaf innau.
Chwarae mig â’r gwynder,
crensian, straffaglu, ymestyn.
Cyd-eistedd ar y copa.
Dim ond ni,
aa phopeth.
Cafodd y gwaith hwn ei gomisiynu gan CELF a Chelfyddydau Anabledd Cymru.