Mae’r gerdd hon yn ymateb i osodiad celf David Garner, ‘Pwnsh Ola'r Cloc’, sy’n rhan o gasgliad Amgueddfa Cymru. Disgrifir y darn ar y safle fel marwnad, a llythyr caru, i ddiwydiant coll Cymru. Fy nheimlad i oedd mai marwnad i dad yr artist oedd yma mewn gwirionedd, gan dystio i’r ffaith fod y glöwr,
"bob dydd am wyth awr yn marw, yn rhoi’r gorau i damaid o’i fywyd ac yn claddu’i hun", chwedl Aneurin (Nye) Bevan.
Amser yw Arian
Hael yw Hywel ar bwrs y wlad;
haws bod yn hael gydag amser eraill.
Ni fu’n gofannu arfwisg amdanoch; eich eiddo chi yw hyn oll.
Rydym yn gytûn, syr, ac yn diolch i chi am eich amser.
Llygadwn
y cloc,
y tyllau a'r llofnodion a'r tyllau a'r llofnodion
chwyswn,
yn ôl y cloc.
Ni'r
Eiddo a'r Nwyddau
Ni'r
Gwrthrychau a’r Gwartheg
y poer a’r gwaed,
gwyddwn
fod amser yn gwasgu arian i gledr llaw
i’r chwys i’r wyneb
yn wastad, i’r ddaear lac.
Mae’n ddu yma, yn y gwaelodion.
Yn wlyb.
Wedi’n sodro i’r man hwn,
ein Corlannu mewn inc ar bapur
ein Plygu a’n Cytundebu
o grymder pob sawdl
i’r ddaear uwch ein pennau.
Deallwn hyn; cytunir arnom
yn ôl gwerth ein glo.
Mae grym a sigl clec y gaib
yn ysgwyd hoelion yn eu gwelyau,
yn mowldio’r ysgwyddau i siâp
sy’n eich siwtio,
ac esgyrn cefnau’n breuo
yn ôl cywair clocwaith y galw
liw dydd neu liw nos
does fawr ots p’un.
Cyd-seiniwn yn eich dewis gywair.
Ac felly,
Eich gofynion chi
sy’n gwisgo asgwrn
wrth asgwrn
a threulio’n ddyfal, fedrus.
A’ch galwad chi
sy’n cronni mewn ysgyfaint.
Mor daer â’r eira, lluwch
y llwch gorchmynnol:
y trachwant,
ar dafod, mewn ceg,
yng nghorn y gwaith sy’n ysgwyd y dannedd.
Gorfodir
y traed yn eu blaenau
a throsodd ac yn ôl drachefn
i gerddediad y cloc
nes
I’r llaw araf gydio
yn y llaw
a arferai ddal yn dynn,
dal yn ôl,
yn sownd, cyd-ddal.
Dod i ben,
dod i stop.
Diolch, diolch o galon, am eich amser.
Yn artist gweledol sydd hefyd yn addysgu ac ysgrifennu, cafodd Anne Brierley ei geni a'i magu yn Lerpwl, ac mae bellach yn byw yn y gogledd.
"Fel athrawes ifanc, bûm yn gweithio yng Nghyfarthfa, Merthyr Tudful, ac roedd gen i ddiddordeb ysgol yn y modd y cawasai’r dirwedd, y bobl a’r iaith eu siapio gan ofynion y Chwyldro Diwydiannol, a bod y pethau hynny oll yn dal i’w gweld yn amlwg.
"Tarodd darn David dant ynof; roedd ganddo gymaint i’w ddweud ar sawl lefel wahanol. Ar lefel bersonol, bu’n rhaid i fy Nhad adael addysg i ennill bara menyn ei deulu pan oedd yn 13 oed, yn dilyn marwolaeth ei dad. Bu mewn swydd galed, fudr, gorfforol trwy gydol ei oes, sydd bellach wedi effeithio’n ddirfawr ar ei iechyd.
"Siaradai gwaith David gyfrolau am gost cynnal teulu, gan greu dathliad o gyflawniad bywyd dyn heb ramantu realiti cyfnewid llafur am arian a’r modd y caiff gweithwyr eu hecsbloetio yn enw elw."
Cafodd y darn hwn ei gomisiynu gan CELF a Chelfyddydau Anabledd Cymru.