Arddangosfa esblygol a gychwynodd ar strydoedd Y Drenewydd yn Ebrill 2025, gan symud i’r oriel a datblygu (fel polaroid) dros fisoedd yr haf.
Oriel Davies, Mae Popeth yn Newid / Mae Popeth yr un Peth
Daw teitl yr arddangosfa o osodiad gan yr awdur Ffrengig Jean-Baptiste Alphonse Karr, a ysgrifennodd “plus ça change, plus c’est la même chose” ym 1849 – po fwyaf mae pethau’n newid, po fwyaf maen nhw’n aros yr un peth. Mae’r gosodiad yn awgrymu ymagweddiad goddefol, gan nodi un ai rydyn ni’n dewis peidio newid, gan gredu na fydd ein gweithredoedd yn gwneud gwahaniaeth, neu rydyn ni’n cofleidio newid, gan ddeall na fydd dim yn gwella hebddo.
Mae ffotograffiaeth yn ein caniatáu i weld sut mae pethau wedi newid, a hefyd sut mae pethau wedi aros. Yn sylfaenol, fel bodau dynol rydyn ni’n aros yr un, rydyn ni eisiau treulio amser ar ein pennau’n hunain, amser gyda ffrindiau, yn gwneud pethau gyda’n gilydd, yn creu cymuned ddymunol. Rydyn ni’n mynd i siopa, yn ymhél â chwaraeon, yn gwrando ar gerddoriaeth, rydyn ni’n hoffi anifeiliaid, rydyn ni’n hoffi dangos ein pethau diweddaraf, rydyn ni’n creu atgofion. Bydd llawer o’r rhain yn aros ynghudd am flynyddoedd hyd nes bod rhywun yn dod o hyd iddyn nhw ryw ddiwrnod ac y dweud edrychwch mor ifanc oeddech chi, dyma berthynas i fi a fu farw flynyddoedd yn ôl, dyna’r bechingalw oedd gyda ni, ydych chi’n cofio’r ci anwes hwnnw?
Rhoesom gopïau o ffotograffau gan Geoff Charles a Don Griffiths i Emma Beynon a Grug Muse. Wedyn buon nhw’n gweithio gyda llenorion lleol i archwilio’r hyn daniodd y delweddau iddyn nhw. Bydd y darnau hyn o ysgrifennu’n dod yn rhan o’r arddangosfa, ond cawsant hefyd eu hanfon at y gwneuthurwr ffilmiau animeiddiedig Gemma Green Hope sydd wedi’u defnyddio i greu ffilm newydd, a adroddir gan Casi Wyn. Mae’r llenorion wedi bod ar ymweliad â’r Llyfrgell Genedlaethol lle cawsant eu cyflwyno i’r casgliadau.
HASSAN, Mohamed, Portreadau o bobl ifanc a greodd Mohamed Hassan wrth weithio mewn ysgolion cynradd yn Y Drenewydd gydag Oriel Davies © Mohamed Hassan / Oriel Davies
HASSAN, Mohamed, Portreadau o bobl ifanc a greodd Mohamed Hassan wrth weithio mewn ysgolion cynradd yn Y Drenewydd gydag Oriel Davies © Mohamed Hassan / Oriel Davies
Fel rhan o ddatblygiad CELF comisiynwyd y ffotograffydd Mohamed Hassan gennym i dynnu portreadau o bobl yn Y Drenewydd heddiw. Dogfennwyd y broses mewn ffilm fer gan Ellie Orrell. Mae’r gwaith yn cynnig dogfen ddiddorol o fywydau dydd i ddydd pobl yn y dref.
Rydyn ni hefyd wedi comisiynu gwaith ysgrifennu newydd gan Dylan Huw a Jason Jones mewn ymateb i waith Tom Cardew (Machynys Forgets Itself) a Paul R Jones (Defodau Ffin). Dangoswyd y gweithiau hyn yn rhan o’n cyfres pop-up cyn i ni gau ar gyfer y gwaith o adnewyddu'r oriel fel rhan o CELF.
Gallwch ddarganfod mwy am yr arddangosfa ar wefan Oriel Davies.