Roedd y diweddar Claudia Williams yn artist a adeiladodd yrfa lwyddiannus tra hefyd yn gweithio fel mam mewn byd o rolau rhywedd disymud diwedd y 60au a'r 70au.
Yn y fideo hwn gan Pete Telfer mae'r hanesydd celf, Harry Heuser, yn trafod dau baentiad – Casglu Cregyn a Y Forwyn a'r Plentyn gyda Phlant Traeth – sy'n canolbwyntio ar y teulu a'r fam, thema annodweddiadol i Claudia.
Am gael gwylio gyda chapsiynau caeedig? Cliciwch ar ‘CC’ ar y fideo a dewis i wylio gyda chapsiynau caeedig.
Pwy yw'r bobl yn y lluniau? Sut oedd Claudia Williams yn creu ei darluniau? Dysgwch am dechnegau'r artist, a sut mae ei phantiadau yn tynnu ar y personol, wrth ddefnyddio paled a phatrwm yn ofalus i greu cyfosodiadau unedig gyda naratif agored sy'n rhoi llwyfan i'r perspectif benywaidd.
Awdur, addysgwr a churadur arddangosfeydd yw Dr Harry Heuser. Roedd yn arfer bod yn Uwch Ddarlithydd Hanes Celf ac yn Gyfarwyddwr Ymchwil Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth. Yn 2013, ar y cyd â'r hanesydd celf, y curadur a’r awdur Robert Meyrick, cyhoeddodd lyfr o'r enw Claudia Williams: An Intimate Acquaintance, drwy Sansom & Company.
Roedd Casglu Cregyn (1951) ac Y Forwyn a'r Plentyn gyda Phlant Traeth (1983) yn rhan o arddangosfa Teulu yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth rhwng Mawrth a Mehefin 2024, ac maent yn rhan o gasgliad celf cenedlaethol Llyfrgell Genedlaethol Cymru.