Pa deithiau trên sy'n arwyddocaol i chi? Taith ddyddiol i'r gwaith, llwybr at anwyliaid, neu daith i le gwyliau o'ch plentyndod? Ydych chi'n sylwi ar y newid yn y dirwedd wrth i chi deithio trwy'r gofod, neu sut mae'n newid mewn gwahanol dymhorau, ar wahanol adegau o'r dydd?
Mae Of time and the railway yn ffilm gan Robert Davies am y rheilffordd rhwng Birmingham ac Aberystwyth. Ers ei chwblhau ym 1863, mae'r rheilffordd wedi bod yn wythïen hollbwysig rhwng y Gorllewin Canolbarth Lloegr diwydiannol a chanolbarth a gorllewin Cymru.
Rhwng Hydref 2013 a Chwefror 2015 ffilmiodd yr artist yr un daith trên bob wythnos. Wedi'i ffilmio o safbwynt unigryw cab y gyrrwr, mae Of time and the railway yn rhoi golwg ffres ar daith reolaidd i lawer yng ngorllewin Cymru. Mae'r deunydd fideo yn ffurfio ffilm 1 awr a 50 munud sy'n cynrychioli un diwrnod, gan ddechrau yn y nos yn Birmingham a gorffen yn Aberystwyth wrth i'r haul ddechrau machlud.
Yn y ffilm hon gan Pete Telfer, mae Robert yn siarad o'r trên wrth iddo deithio tuag at Aberystwyth. Mae'n egluro'r syniad y tu ôl i'r ffilm, arwyddocâd y daith hon iddo ef, a sut mae'r dirwedd rhwng Cymru a Lloegr yn newid wrth deithio o'r dwyrain i'r gorllewin.
Eisiau gwylio gydag isdeitlau? Cliciwch ‘CC’ ar y fideo a dewis gwylio gyda chapsiynau caeedig (closed captions).
Caiff Of time and the railway ei gyfeilio gan drac sain a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer y ffilm, a gyfansoddwyd gan Peter Pavli a Robert Davies. Golygwyd y ffilm gan Siencyn Langham a Robert Davies. Mae'r ffilm wedi cael ei dangos mewn deuddeg oriel, gan gynnwys Amgueddfa ac Oriel Gelf Birmingham, Oriel Gelf Wolverhampton, yr Eisteddfod Genedlaethol 2015 a Llyfrgell Genedlaethol Cymru ymhlith eraill. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru hefyd wedi caffael yr argraffiad cyntaf o'r ffilm. Mae'r ffilm hefyd wedi cael ei dangos mewn gorsafoedd ar hyd y llwybr ac mae wedi cael tua 90,000 o ymweliadau hyd yn hyn.