"Daeth geiriau Gerallt Lloyd Owen i feddwl yn y broses y bu’m yn gyflawni dros y flwyddyn aeth heibio, sef ail-weithio hen luniau oedd yn y stiwdio, a chreu rhywbeth newydd ohonynt. Ambell waith mae olion o waith gwreiddiol yn aros, mae eraill yn hollol newydd eu gwedd. Mae neges y gwaith, ar y cyfan, yn aros fel oedd, er fod y byd wedi newid." - Iwan Bala, 2025
BALA, Iwan, Dameg ©Iwan Bala
Mae'r arddangosfa sy'n defnyddio’r teitl; ‘Yr hen ddweud o’r newydd yw/The old telling made new’, yn cynnwys oddeutu trideg o ddarnau o waith newydd wedi'u creu a'u datblygu ar ddarnau hŷn o waith oedd wedi'u storio yn stiwdio’r artist dros y blynyddoedd. Yn eu hanfod, 'palimpsestau' yw'r rhain lle mae'r hen waith, ar brydiau, yn ychwanegu at y gwaith newydd sydd wedi'i ddarlunio ar ei ben. Yn aml, mae'r gwaith yn gwbl wahanol i'r hyn yr arferai fod, ond mae'n cadw ei ddawn 'dweud'. Mae un darn o waith nodedig yn yr arddangosfa; 'Dameg. Post-colonialism is a Chimera’ (2025) yn adlewyrchiad ar ei sylweddoliad bod hyn yn wir, tra bod darnau eraill o waith yn cyfeirio at yr hinsawdd wleidyddol yn yr UDA, Prydain, Wcrain ac ym Mhalesteina. Tra bo pryderon y byd yn cael eu mynegi, mae'r artist yn dechrau archwilio, ei 'nodiadau maes', o'i safbwynt ef o Gymru, ei wlad ei hun.
BALA, Iwan, Taff Salvage ©Iwan Bala
Mae'r rhan fwyaf o'r gweithiau hyn wedi'u creu ar bapur Khadi, papur clwtyn cotwm wedi'i gynhyrchu'n gynaliadwy o India, sydd wedi'i enwi ar ôl y dillad cotwm wedi'i droelli yn y cartref oedd yn symbol o ddad-wladychu India, oedd yn cael eu gwisgo gan Ghandi, ac yna Nehru yn ddiweddarach. Mae'r arddangosfa hefyd yn cynnwys gwaith ar fenthyg o gasgliadau cyhoeddus megis Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru, sydd ddim yn cael eu harddangos yn gyhoeddus yn aml.
Fe wnaed yn bosib trwy prosiect CELF, sy'n fenter i rannu casgliadau o sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru, i gynulleidfaoedd ehangach. Mae'r gweithiau hyn gan Iwan, o'r 1990au hyd heddiw, yn dangos cysondeb a pharhad ei 'ddweud' yn ystod ei yrfa.
Gallwch ddarganfod mwy am yr arddangosfa ar wefan Storiel.