Yn torri tir newydd gyda'i harddull ffotograffio, mae Megan Winstone yn cadw'n driw i'w gwreiddiau yn y Cymoedd. Y cymeriadau mae hi'n eu hadnabod orau sy'n ganolbwynt i'w gwaith, yn ogystal â'r rheiny sydd wedi siapio'r ffordd mae hi'n gweld y byd.
WINSTONE, Megan, Valley Gal ©Megan Winstone
WINSTONE, Megan, Lily of the Valley ©Megan Winstone
Cawsom y cyfle i gwrdd â Megan yn Abercynon, lle aeth â ni ar daith o amgylch y llefydd sy'n golygu cymaint iddi ac sy'n parhau i ddylanwadu ar ei gwaith. O'r siop trin gwallt i'r siop ffrwythau a llysiau We met Megan in Abercynon, where she showed us the places that mean so much to her and that continue to inspire her work. From her hairdresser to the fruit and veg shop, we see the sights and the sources of inspiration to Megan's practice.
Am gael gwylio gydag isdeitlau? Cliciwch ‘CC’ ar y fideo i ddewis gwyliau gyda chapsiynau caeedig (closed captions).
Credydau:
Cynnwys a Lleoliadau: Megan Winstone
Ffilming a golygu: Elin Mannion, Craig Harries
Cynorthwyydd Ffotograffio: Rebecca White
Top Latecs at ddewis Megan: Finley's House
Gyda diolch i Bronwen Colquhoun a Carys Tudor yn Amgueddfa Cymru.
Ffotograffydd ffasiwn o Abercynon, Rhondda Cynon Taf, yw Megan Winstone. Theori ffeministaidd sy’n ysbrydoli ei gwaith, ac ymdrechion i ddymchwel disgwyliadau cymdeithas o ddelweddau negyddol o’r corff. Mae ei threftadaeth Gymreig yn amlwg yn ei phortffolio, yn enwedig y gwaith comisiwn gan Stella McCartney, The Face ac eraill.