Pan fyddwch chi allan yn mwynhau dail yr hydref, efallai y byddwch chi'n gweld y tyfiant rhyfedd hwn rhwng canghennau coed derw. Nid mes, neu flagur dail, na ffwng yw'r darnau coediog, crwm (a weithiau pigog) hyn, ond afalau derw. Byddan nhw'n ffurfio pan fydd gwenynen dderw yn dodwy ŵy mewn blaguryn ffres. Mae'r goeden yn ymateb drwy gyfeirio asid tannig i'r ardal a thyfu siambr o gwmpas yr ŵy i warchod ei hun rhag haint. Mae hyn yn creu meithrinfa fach i'r ŵy dyfu, nes bod y wenynen fach yn deor ac yn cnoi ei ffordd allan.
Mae'r crynodiad o asid tannig mewn afal derw yn ei wneud yn ffynhonnell dda o inc. Drwy ei adael mewn dŵr, bydd yn rhyddhau lliw brown cyfoethog, ac wrth ei gymysgu â haearn sylffad (fitriol oedd yr hen enw) bydd y tanin yn adweithio i greu lliw dulas dwfn. Bydd cymysgu hwn â gwm Arabaidd yn creu inc gwych. Mae inc fel hyn wedi cael ei ddefnyddio i ysgrifennu a darlunio ers canrifoedd, a does neb yn siŵr pa mor bell yn ôl dechreuodd yr arfer. Dros y canrifoedd mae wedi bod yn inc gwerthfawr am ei fod yn barhaol, a ddim yn pylu neu olchi ymaith. Er hyn, bydd y lliw yn newid i frown dros amser, wrth i'r haearn gyrydu. Mae sawl rysáit am inc o afalau derw, sy'n creu inciau amrywiol. Weithiau, bydd y cyfuniad o haearn ac asid yn gwneud i'r inc gyrydu'n syth drwy'r papur neu'r memrwn.
Dyma rai darluniau allai fod wedi defnyddio inc afalau derw:
Cadwraethydd Papur o Iwerddon yw Jen Bowens, sy'n gweithio yn Amgueddfa Cymru fel rhan o broject CELF. Mae hi'n arbenigo mewn adfer gweithiau celf ar bapur, ond mae hi hefyd yn gweithio gyda deunydd archifol a llyfrau. Yn ei amser hamdden, mae Jen yn mwynhau celf, cerdded a gwylio adar.