Cynfas

Etifeddiaeth Faterol

Rhiannon Rees

28 Tachwedd 2025 | munud i ddarllen

Mae’n dechrau gyda thaith gerdded.  
Mae’n arwain at gysylltiad.  
Wedyn mae’n gorffen gyda chân i stori na ddywedwyd, deunydd a gollwyd.  
Y Prosiect: Etifeddiaeth faterol: Copr

Ffurfiwyd Etifeddiaeth faterol: Copr wrth imi fynd am dro ambell awr ginio i lawr i draeth Bae Abertawe. Ar hyd y tywod ceir mân olion diwydiannau coll; darnau o frics, slag copr, a glo, i enwi dim ond ychydig. Dechreuais gerdded fel hyn ar ôl ymuno â thîm Cynorthwywyr yr Oriel yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, un o saith safle Amgueddfa Cymru. O fewn ei muriau mae hanesion a phethau o hen ffatrïoedd diwydiannol Cymru ac Abertawe a oedd mor bwysig wrth brosesu deunydd crai y byd. Mae modd teimlo’r cysylltiad wrth ddal darn o slag copr sydd wedi’i olchi i’r lan a gweld y lluniau o fewn muriau’r amgueddfa o ddynion yn gweithio’r deunydd. Mwy teimladwy fyth yw’r bywydau yr effeithiwyd arnyn nhw gan ei waddol, diwydiant wedi’i golli ac amgylchedd wedi’i lygru.

Rwy’n artist sy’n ymateb i’r amgylchedd, yn treulio amser mewn lleoliadau ar hyd a lled Cymru yn casglu deunyddiau gwastraff neu ddeunyddiau sydd o bwys i Gymru. Rwy’n ailddychmygu’r tameidiau hyn o hanes a diwydiant Cymru i’w prosesu yn fy setiau paent fy hun a hefyd mewn paentiadau cerfluniol. Yn y gorffennol rwyf wedi defnyddio deunyddiau fel llechi a haearn i wneud paent seiliedig ar glogwyni llechfaen rhydlyd Sir Benfro. Y deunydd allweddol yn Etifeddiaeth Faterol yw copr, a chwaraeodd rôl bwysig gynt ym mywyd Abertawe. Mae’r siapiau a’r ffurfiau sydd i’m paentiadau a’m cerfluniau yn y prosiect hwn yn seiliedig ar offer ac arfau diwydiannol o Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac arfordir Bae Abertawe.

Hanes diwydiannol Abertawe yn gryno

Ffotograff du a gwyn o Ddociau Abertawe

Ar un adeg, Abertawe oedd prifddinas gopr y byd. Roedd dwy ffatri fawr ger Bae Abertawe oedd yn prosesu copr, sef yr Hafod a White Rock. Sefydlwyd Gwaith Copr White Rock yn 1737 ac yna’r Hafod yn 1808-09. Yn 1810 Cymru oedd y wlad oedd yn cynhyrchu fwyaf o ingotau copr yn y byd. Wrth gynhyrchu ar raddfa mor enfawr crëwyd cryn dipyn o wastraff hefyd, a elwid yn slag. Câi’r talpiau slag eu pentyrru’n uchel, ac wrth ymchwilio rwyf wedi dysgu y byddai peth o’r slag tawdd yn cael ei arllwys yn uniongyrchol i fowldiau brics. Mewn mannau ar draws Abertawe mae waliau wedi’u hadeiladu gyda’r deunydd du/brown/porffor tywyll hwn. Dywedwyd wrthyf hefyd fod slag wedi’i bentyrru’n uchel yn y môr i greu’r harbwrs sy’n gyfarwydd i ni heddiw. Mewn stormydd câi’r slag hwn ei olchi i’r lan ac yna byddai ‘waliau’ yr harbwr yn cael eu hailgodi eto â slag. Roedd yn broses barhaus o chwalu ac ailadeiladu yn erbyn y llanw a’r tywydd.

Ymateb

Felly sut mae edrych ar y gwastraff diwydiannol sydd wedi’i gasglu gan y môr ar Fae Abertawe? Wrth godi gwahanol ddarnau o slag copr, mae ’na gymaint o liwiau gwahanol: porffor, brown, oren, du. Maen nhw’n eithaf hardd, wir, yn eu ffurfiau diferol byrlymus.

4 darn o slag - maen nhw'n edrych fel cerrig gydag arwyneb anwastad iawn

Fy syniad cyntaf yn y prosiect hwn oedd prosesu’r slag copr yn bigmentau, ond am eu bod nhw mor galed a’u cynnwys mor anhysbys, dechreuais feddwl yn gerfluniol gyda nhw. Wedyn darllenais am waliau ‘brics/slag’ Abertawe a meddwl yr hoffwn i greu un fy hun. Tybed a yw’r ail-bwrpasu hwn yn dal i ddigwydd wrth brosesu copr? Gan ddefnyddio cŵyr gwenyn fel morter rwyf wedi creu fy ‘wal’ fach fy hun o slag fel teyrnged i’r arfer cynaliadwy hwn oedd ar waith yn ffatrïoedd Abertawe. Defnyddiais y cŵyr gwenyn er mwyn cydnabod y gwenyn sy’n byw yn Amgueddfa’r Glannau; mae hefyd yn ddeunydd organig sydd, yn fy marn i, yn cydbwyso gerwinder y slag copr.

7 darn o slag sy'n ymdebygu â cherrig anwastad wedi'u gludo â'i gilydd gyda chwyr gwenyn.

Fel peintiwr, allwn i ddim gwrthod y cyfle i greu ychydig o baent o’r deunydd oedd o gwmpas y Slag Copr. Caiff paent ei wneud o bigment (y powdr lliw) a rhwymwr (y glud). Fe ddois o hyd i ddarnau o frics, cregyn, golosg wedi’u golchi ar y lan, a chreu pigmentau cain hardd ohonyn nhw. Wedyn defnyddiais gwm arabig, math o sudd o’r goeden acasia, yn rhwymwr. Mae defnyddio deunyddiau naturiol, organig neu wastraff yn fy ngwaith yn bwysig i mi.

Tair powlen wen yn dangos gwahanol ddarnau o bigmentau

Mae’r paentiadau a’r pigmentau hyn yn fy arwain at ddarn perfformio arbrofol ar y bae. Fe wnes i’r gwaith gan ddefnyddio gwm arabig pur wedi’i baentio ar ddarn o liain ac wedyn, gan ddefnyddio tamaid o fricsen, ei rwbio i mewn i’r lliain i greu paent ar wyneb y lliain. Gadawodd y fricsen liw oren cyfoethog hardd ar ei wyneb. Roedd yn broses eitha corfforol hefyd gan fod yn rhaid brwydro yn erbyn y tywod o dan y lliain. Trwy’r malu a’r prosesu corfforol hwn roeddwn i’n meddwl am fileindra’r broses o wneud y deunyddiau hyn oedd o’m cwmpas. Roedd mireinio copr yn waith poeth a chaled i’r dynion oedd yn gweithio yn y ffatrïoedd hyn. Mae gwneud pigmentau’n broses gorfforol sy’n adleisio mewn ffordd fach y prosesau diwydiannol yr aeth y dynion drwyddynt.

Ffotograff o draeth gyda pherfformiad o baentio. Yn y cefndir mae wal ddiwydiannol.

Rysáit ar gyfer gwneud paent

Allwn i ddim gorffen yr erthygl hon heb roi cyfle i chi wneud eich paent naturiol eich hun. Fel rydw i wedi ysgrifennu eisoes, mae paent yn gymysgedd o rwymwr (y glud) a phigment (powdr). Maen nhw’n cael eu malu gyda’i gilydd â phestl a morter i greu paent. Dylid nodi na fydd pob paent naturiol yn para, maen nhw’n ddiflannol ac yn gallu pylu neu newid lliw; harddwch y cyfrwng yw gweld sut maen nhw’n newid dros amser.

Dyma fy rysáit sylfaenol ar gyfer paent dyfrlliw:  
2 ran pigment (gall hyn fod yn unrhyw bowdr o sbeisys i golur, i ryw ddeunydd naturiol rydych wedi’i falu eich hun) Os am falu eich pigmentau eich hun o ddeunyddiau naturiol: mae’n bwysig gwisgo mwgwd, gogls a menig, a gweithio mewn lle wedi’i awyru’n dda wrth ddefnyddio deunyddiau a gasglwyd, oherwydd weithiau gall fod cydrannau metel trwm ynghudd ynddyn nhw. Wrth ddefnyddio rhywbeth fel llechen, byddaf yn ei roi mewn bag lliain trwm a’i forthwylio’n ddarnau llai gan fod yn ofalus o’m dwylo. Wedyn byddaf yn ei roi mewn pestl a morter o farmor gyda thropyn o ddŵr i’w falu’n bowdr.     
1 rhan gwm arabig tawdd (rysáit isod)  
2 ran dŵr cynnes i 1 rhan gwm caled. Rhowch y gwm mewn bag mwslin (mae bag hidlo jam yn gweithio’n dda). Rhowch hwnnw mewn jar o ddŵr dros nos nes y gallwch weld bod y sylwedd euraidd wedi troi’n hylif. Fe welwch dameidiau o risgl yn y bag ers adeg casglu’r gwm.

Bydd angen yr offer hyn arnoch:  
Pestl a morter gwyn (ond nid yr un sydd yn eich cegin!)  
Mwgwd wyneb  
Gogls  
Menig

Y broses: 
1. Dechreuwch trwy wisgo’ch mwgwd, gogls a menig. 
2. Arllwyswch eich pigment yn araf i’ch pestl a morter. Wedyn ychwanegwch dropyn o ddŵr; dim ond digon i orchuddio’ch pigment. Mae hwn yn gam pwysig gan ei fod yn lleihau’r siawns i’r pigmentau ddianc i’r aer. 
3. Malwch y pigment meddal yn dda. 
4. Nesaf, ychwanegwch eich gwm arabig a malu eto nes bod gennych baent llyfn. 
5. Nawr mae eich paent yn barod i’w ddefnyddio ond gallwch ei deneuo hefyd gydag ychydig o ddŵr. 
6. Ewch ati i beintio!

Tri phot o baent (brown, melyn a glasddu) yn sefyll tu ôl i wahanol gerrig, cregyn a maenau.


Graddiodd Rhiannon Rees o Brifysgol Loughborough gyda gradd anrhydedd yn 2021. Yn ystod ei chwrs cafodd ei dewis i astudio am flwyddyn yn yr Adran Beintio yn Academi Celfyddyd Gain Helsinki, y Ffindir. Ar ôl graddio mae Rhiannon wedi dangos gwaith ar draws canolbarth Lloegr a ledled Cymru. Mae hi hefyd wedi arddangos yn rhyngwladol yn Bridgeport UDA. Yn 2023 cafodd ei chyhoeddi yn Spacecraft Magazine a chafodd ei dewis yn Artist Cyswllt gan Oriel Myrddin. Yn 2023 hefyd cynhaliodd ei harddangosfa unigol gyntaf fel rhan o Ŵyl Aberetwm gyda Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Dros y blynyddoedd diwethaf mae Rhiannon wedi dangos gwaith yn Oriel Elysium, Abertawe, a Gallery Gwyn, Aberaeron.

Share

More like this

Curo'r Crysau Duon
Gareth Rhys Owen
Inc afalau derw
Jen Bowens, Cadwraethydd Papur, CELF
Comisiwn newydd: From land to Fire, 2025
Andrea Powell, Oriel Gelf Glynn Vivian
Comisiwn newydd: From land to Fire, 2025
Andrea Powell, Oriel Gelf Glynn Vivian
Sut i greu Gwawdlun
Siôn Tomos Owen
Going to Africa
Isabel Adonis
Grisaille I-III
Charlotte Grayland
Mam a'i phlentyn, a cherddi eraill
Tracey McMaster, cyfieithiadau gan Iestyn Tyne
Amser yw Arian
Anne Brierley, cyfieithiad gan Iestyn Tyne
The Waning
Rachel Helena Walsh
Teimlo
Efa Blosse-Mason a Karina Geddes
Wrth Ymyl y ffin
Paul Eastwood
Saunders Lewis
Paul Eastwood ac Owain Lewis
Croen Siwgr
Jasmine Violet
Clogfaen Pren 1978-2015
Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Stiwdio gyda Menyg yn Storiel, gweld casgliad y Llyfrgell mewn Gofod Newydd
Phoebe Murray-Hobbs, Swyddog Benthyciadau Cymunedol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Tirnodau Personol
Michal Iwanowski
Celf Mewn Ysbytai: Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Sara Treble-Parry, Steph Roberts a Siân Lile-Pastore
Lan yr Afon
Julian McKenny
Morlun Bach
Lucy Purrington
Thyrza Anne Leyshon: Eicon y Portreadau Miniatur o Gymru
Imogen Tingey, Cynorthwyydd Arddangosfeydd, Oriel Gelf Glynn Vivian
Dylunio GIFs Cymraeg
Sioned Young, Mwydro
Artcadia
Barbara Bartl, Rheolwr yr Amgueddfa ac Oriel Gelf, Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Cerdded Adref
Dagmar Bennett
Teulu Wakelin: chwarter canrif o gefnogaeth i artistiaid cyfoes
Andrea Powell, Cynorthwyydd Arddangosfeydd, Oriel Gelf Glynn Vivian
Helen Sear (g.1955)
Mari Griffith
David Nash (g.1945)
Mari Griffith
Rhyfel Mawr Glo Cymru
Maddie Webb, Curadur Gweithiau ar Bapur, Amgueddfa Cymru
Ymdeimlad o Le
Jon Pountney
Toriad
Ffin Jordão
Cadwraeth Paentiadau George Poole
Sarah Bayliss, Uwch Gadwraethwr Paentiadau, Amgueddfa Cymru
Frank Auerbach: Pen E.O.W
James Milne, Technegydd CELF, Ffotograffiaeth gan Rhian Israel, CELF
Ymson ar draeth
Iestyn Tyne
Tyrrau Mawr ar grwydr i Lanbedrog
Gwyn Jones, Alex Boyd Jones, Zoe Lewthwaite, Plas Glyn-y-Weddw
Gweithio gydag artist
Rhian Israel, Swyddog Ffotograffiaeth, CELF
Llwybr Tref Gŵyl Grefft
Rachel Vater, Cynorthwyydd Yr Oriel, Oriel Myrddin
Panopticon
Tina Rogers
Y Cyffredin
Ayesha Khan
Mapiau, celf, a dadgoloneiddio
Ellie King, Curadur Cynorthwyol Mapiau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Dadgoloneiddio’r Casgliad Celf Cenedlaethol
Morfudd Bevan, Curadur Celf, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Delfryd a Diwydiant: Curadu'r arddangosfa yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mari Elin Jones, Swyddog Dehongli, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Dan ddŵr sy'n llifo
Geraint Ross Evans
Golygfa Ddyrchafedig
Geraint Ross Evans
'Arhoswch adre'
Gwynfor Dafydd
Cardiau Post Protest
Osian Grifford
David Garner: Wylo
Nicholas Thornton a Ceri Jones, Amgueddfa Cymru
Storiel: Comisiynau Artistiaid
Esther Elin Roberts, Swyddog Celf Gweledol, Storiel
Collage Fabrig Scrap
Ella Louise Jones
Teulu
Ffion Rhys, Curadur, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Arddangosfa Teulu, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Ffion Rhys, Curadur ac Elin Vaughan Crowley, Artist - Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Oriel Myrddin: Comisiynau Artistiaid
Rachel Vater, Oriel Myrddin
Arnofio
Arddun Rhiannon
Geng Xue (g.1983)
Mari Griffith
Cerddi newydd gan ddisgyblion Cymru
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Dhruva Mistry: O’r astudiaeth i’r cerflunwaith
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Tu ôl i'r llen: Cadwraeth
Sarah Bayliss a Kitty Caiden, Amgueddfa Cymru
Darn Canol Bwrdd Con Brio: Comisiwn Ymddiriedolaeth P&O Makower
Andrew Renton, Pennaeth Casgliadau Dylunio, Amgueddfa Cymru
Arddangosfa Cyfoes: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Morfudd Bevan a Nia Dafydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Yr Eda
Llio Maddocks
Cymharu dau artist: John Selway a Denys Short
Nicholas Thornton, Pennaeth Celf Gain a Chelf Gyfoes, Amgueddfa Cymru
Caffaeliad newydd: Pulped Fiction gan David Shrigley
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Cerflunwaith Prydeinig Newydd yr wythdegau
Jennifer Dudley, Curadur Rheoli Casgliadau Celf a Hygyrchedd, Amgueddfa Cymru
Toredig Ond Prydferth
Apekshit Sharma, Intern Curadurol, Amgueddfa Cymru
Five Minutes
Mari Ellis Dunning
Swyn I
Efa Lois
Gesiye (g. 1992)
Mari Griffith
Eich Map Chi o’r Byd
Michal Iwanowski
Tirlun Anhysbys
Evie Banks
Crogdlws
Lydia Niziblian
Calon yn Deilchion
Tanyaradzwa Chiganze
Beth sy’n bosib ei wneud mewn oriel?
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Dwylo ar Dreftadaeth: Codi’r Llen ar Gaffael
Neil Lebeter ac Umulkhayr Mohamed
Rheolau Celf? Sgwrs gyda’r artist Caroline Walker
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Siarad â Phlant am Gelf
Sian Lile Pastore
Pêl-Droed Cymru a Byd Celf
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Rheolau Celf?
Neil Lebeter