Cynfas

Celf Foley, wedi’i ysbrydoli gan Celwyddgi Celwyddgi gan Anthony Shapland

11 Rhagfyr 2025 | munud i ddarllen

Anthony Shapland - Ganolfan Gelfyddydau Aberystwyth

Darganfyddwch Gelf Foley: Adnodd Sain Creadigol a ysbrydolwyd gan arddangosfa ddiweddar Anthony Shapland yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Celwyddgi Celwyddgi.

I ddathlu arddangosfa ddiweddar Anthony Shapland Celwyddgi Celwyddgi, ‘rydym wedi creu adnodd hwyliog ac addysgiadol sy'n ymwneud â chelf Foley - yr hudoliaeth gudd y tu ôl i'r synau ‘rydych yn eu clywed mewn ffilmiau ac ar y teledu. P'un ydych yn blentyn chwilfrydig, yn berson ifanc creadigol, neu'n oedolyn sy'n chwilio am ddiddordeb newydd, mae'r adnodd hwn yn llawn gweithgareddau chwareus, ffeithiau diddorol, a phrosiectau ymarferol i'ch helpu i ddod yn adroddwr straeon ym maes sain.

Beth yw Foley?

A ydych erioed wedi clywed sŵn traed yn crensian yn yr eira neu ddrws yn gwichian mewn ffilm arswyd? Efallai nad yw'r synau hynny'n real o gwbl! Mae artistiaid Foley yn eu creu gan ddefnyddio eitemau bob dydd - fel papur wedi'i greinsio ar gyfer sŵn tân neu gnau coco ar gyfer carnau ceffylau. Mae Foley i gyd yn ymwneud â defnyddio'ch dychymyg a'ch clustiau. Fe'i enwir ar ôl Jack Foley, un o'r bobl gyntaf i wneud effeithiau sain ar gyfer ffilmiau. Heddiw, mae'n dal i fod yn rhan hanfodol o sut mae straeon yn cael eu hadrodd ar y sgrîn.

Beth sydd gan hyn i wneud efo Celwyddgi Celwyddgi?

Yn Celwyddgi Celwyddgi mae Anthony Shapland yn archwilio'r llinellau aneglur rhwng gwirionedd a ffuglen. Mae'r arddangosfa'n gwneud i ni feddwl am sut mae straeon yn cael eu llunio - a sut mae sain yn chwarae rhan fawr yn yr hyn a gredwn. Mae’n hadnodd Foley yn cysylltu â'r syniadau hyn. Mae'n eich gwahodd i chwarae gyda sain a meddwl am sut y gall sain newid sut mae stori'n teimlo, neu hyd yn oed beth yw ei hystyr.

Mae’r adnodd yn cynnwys

Gwneud eich Effeithiau Sain eich hun - Rhowch gynnig ar driciau Foley gartref neu yn yr ystafell ddosbarth gan ddefnyddio eitemau syml.

Heriau Sain a Stori - Parwch synau â golygfeydd, crëwch eich sainlun eich hun, neu newidiwch ystyr un foment jyst trwy newid y sain.

Meddwl a Siarad - Awgrymiadau hwyliog i’ch helpu i archwilio cwestiynau mawr: Beth sy’n gwneud i rywbeth deimlo’n “real”? A all sain ddweud celwydd?

Mae'r adnodd hwn yn berffaith ar gyfer ysgolion, grwpiau ieuenctid, teuluoedd, neu unrhyw un sy'n chwilfrydig ynglyn â sut mae sain yn llunio straeon.

Pam roi cynnig ar Foley?

Mae Foley yn greadigol, yn flêr, yn syndod - a gall unrhyw un roi cynnig arno! Nid oes angen offer drud. Dim ond eich clustiau, rhywfaint o ddychymyg, ac ychydig o eitemau bob dydd. Hefyd, ni fyddwch byth yn gwrando ar ffilm yn yr un ffordd eto!

Anthony Shapland - Ganolfan Gelfyddydau Aberystwyth

Adnodd:

  1. Lawrlwythwch i-Movie i'ch iPhone neu iPad, neu Cap Cut i'ch ffôn neu dabled Android.
  2. Ar eich pen eich hun neu gyda ffrind neu aelod o'r teulu, dewiswch glip ffilm byr neu grëwch olygfa syml i ychwanegu effeithiau sain ati. Mae golygfeydd delfrydol yn cynnwys gweithredu, symudiad, neu amgylcheddau (e.e. cerdded yn y goedwig, agor drws). Gan ddefnyddio'r ap golygu fideo o'ch dewis, golygwch eich fideos i greu dilyniant o ddelweddau sy'n adrodd stori o'ch dewis.
  3. Gwyliwch eich golygfa a gwnewch daflen ciw sain trwy ysgrifennu i lawr pob sain sydd angen arnoch a phryd mae'n digwydd (e.e. "00:05 - traed ar raean").
  4. Trefnwch le recordio tawel mewn ystafell gyda’r sain neu sŵn cefndir lleiaf posibl.
  5. Byddwch yn greadigol! Defnyddiwch eitemau o'ch cwmpas i greu eich synau, e.e. Sŵn traed = esgidiau ar wahanol arwynebau, Drws yn gwichian = drysau cypyrddau, Glaw = plastig neu reis yn crychu ar hambwrdd. Recordiwch bob sain sawl gwaith er mwyn cael amrywiaeth.
  6. Unwaith yr ydych yn hapus gyda'r effeithiau sain, recordiwch eich synau gan ddefnyddio'r opsiwn 'Ychwanegu llais' ar yr ap golygu fideo. Neu, gallwch rag-recordio eich synau mewn memo llais neu ap recordio sain (Cofiwch ffeilio pob effaith sain gydag enw clir e.e. 'camau troed' neu 'gwynt'), a'u mewnbwnio i'r ap golygu fideo i'w hychwanegu at eich llinell amser.
  7. Defnyddiwch reolaeth sain yr ap o’ch dewis i gydbwyso lefelau’r sain. Gallwch docio clipiau neu eu symud ychydig i gydamseru'n well.
  8. Ystyriwch ychwanegu sŵn amgylchol (e.e. synau’r ddinas, adar yn y goedwig) er mwyn cael realaeth. Cadwch y sŵn yn gynnil fel nad yw'n gorlethu'r prif effeithiau.
  9. Cadwch eich prosiect a'i rannu gyda ni! Anfonwch eich fideos at contact@celfarycyd.cymru
Anthony Shapland - Ganolfan Gelfyddydau Aberystwyth
Anthony Shapland - Ganolfan Gelfyddydau Aberystwyth
Anthony Shapland - Ganolfan Gelfyddydau Aberystwyth

Share

More like this

David Nash: Doethineb Natur
Canolfan Grefft Rhuthun
Deialog
Oriel Davies
Curo'r Crysau Duon
Gareth Rhys Owen
Inc afalau derw
Jen Bowens, Cadwraethydd Papur, CELF
Comisiwn newydd: From land to Fire, 2025
Andrea Powell, Oriel Gelf Glynn Vivian
Comisiwn newydd: From land to Fire, 2025
Andrea Powell, Oriel Gelf Glynn Vivian
Sut i greu Gwawdlun
Siôn Tomos Owen
Going to Africa
Isabel Adonis
Grisaille I-III
Charlotte Grayland
Mam a'i phlentyn, a cherddi eraill
Tracey McMaster, cyfieithiadau gan Iestyn Tyne
Amser yw Arian
Anne Brierley, cyfieithiad gan Iestyn Tyne
The Waning
Rachel Helena Walsh
Teimlo
Efa Blosse-Mason a Karina Geddes
Wrth Ymyl y ffin
Paul Eastwood
Saunders Lewis
Paul Eastwood ac Owain Lewis
Croen Siwgr
Jasmine Violet
Clogfaen Pren 1978-2015
Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Stiwdio gyda Menyg yn Storiel, gweld casgliad y Llyfrgell mewn Gofod Newydd
Phoebe Murray-Hobbs, Swyddog Benthyciadau Cymunedol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Tirnodau Personol
Michal Iwanowski
Celf Mewn Ysbytai: Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Sara Treble-Parry, Steph Roberts a Siân Lile-Pastore
Lan yr Afon
Julian McKenny
Morlun Bach
Lucy Purrington
Thyrza Anne Leyshon: Eicon y Portreadau Miniatur o Gymru
Imogen Tingey, Cynorthwyydd Arddangosfeydd, Oriel Gelf Glynn Vivian
Dylunio GIFs Cymraeg
Sioned Young, Mwydro
Artcadia
Barbara Bartl, Rheolwr yr Amgueddfa ac Oriel Gelf, Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Cerdded Adref
Dagmar Bennett
Teulu Wakelin: chwarter canrif o gefnogaeth i artistiaid cyfoes
Andrea Powell, Cynorthwyydd Arddangosfeydd, Oriel Gelf Glynn Vivian
Helen Sear (g.1955)
Mari Griffith
David Nash (g.1945)
Mari Griffith
Rhyfel Mawr Glo Cymru
Maddie Webb, Curadur Gweithiau ar Bapur, Amgueddfa Cymru
Ymdeimlad o Le
Jon Pountney
Toriad
Ffin Jordão
Cadwraeth Paentiadau George Poole
Sarah Bayliss, Uwch Gadwraethwr Paentiadau, Amgueddfa Cymru
Frank Auerbach: Pen E.O.W
James Milne, Technegydd CELF, Ffotograffiaeth gan Rhian Israel, CELF
Ymson ar draeth
Iestyn Tyne
Tyrrau Mawr ar grwydr i Lanbedrog
Gwyn Jones, Alex Boyd Jones, Zoe Lewthwaite, Plas Glyn-y-Weddw
Gweithio gydag artist
Rhian Israel, Swyddog Ffotograffiaeth, CELF
Llwybr Tref Gŵyl Grefft
Rachel Vater, Cynorthwyydd Yr Oriel, Oriel Myrddin
Panopticon
Tina Rogers
Y Cyffredin
Ayesha Khan
Mapiau, celf, a dadgoloneiddio
Ellie King, Curadur Cynorthwyol Mapiau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Dadgoloneiddio’r Casgliad Celf Cenedlaethol
Morfudd Bevan, Curadur Celf, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Delfryd a Diwydiant: Curadu'r arddangosfa yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mari Elin Jones, Swyddog Dehongli, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Dan ddŵr sy'n llifo
Geraint Ross Evans
Golygfa Ddyrchafedig
Geraint Ross Evans
'Arhoswch adre'
Gwynfor Dafydd
Cardiau Post Protest
Osian Grifford
David Garner: Wylo
Nicholas Thornton a Ceri Jones, Amgueddfa Cymru
Storiel: Comisiynau Artistiaid
Esther Elin Roberts, Swyddog Celf Gweledol, Storiel
Collage Fabrig Scrap
Ella Louise Jones
Teulu
Ffion Rhys, Curadur, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Arddangosfa Teulu, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Ffion Rhys, Curadur ac Elin Vaughan Crowley, Artist - Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Oriel Myrddin: Comisiynau Artistiaid
Rachel Vater, Oriel Myrddin
Arnofio
Arddun Rhiannon
Geng Xue (g.1983)
Mari Griffith
Cerddi newydd gan ddisgyblion Cymru
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Dhruva Mistry: O’r astudiaeth i’r cerflunwaith
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Tu ôl i'r llen: Cadwraeth
Sarah Bayliss a Kitty Caiden, Amgueddfa Cymru
Darn Canol Bwrdd Con Brio: Comisiwn Ymddiriedolaeth P&O Makower
Andrew Renton, Pennaeth Casgliadau Dylunio, Amgueddfa Cymru
Arddangosfa Cyfoes: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Morfudd Bevan a Nia Dafydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Yr Eda
Llio Maddocks
Cymharu dau artist: John Selway a Denys Short
Nicholas Thornton, Pennaeth Celf Gain a Chelf Gyfoes, Amgueddfa Cymru
Caffaeliad newydd: Pulped Fiction gan David Shrigley
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Cerflunwaith Prydeinig Newydd yr wythdegau
Jennifer Dudley, Curadur Rheoli Casgliadau Celf a Hygyrchedd, Amgueddfa Cymru
Toredig Ond Prydferth
Apekshit Sharma, Intern Curadurol, Amgueddfa Cymru
Five Minutes
Mari Ellis Dunning
Swyn I
Efa Lois
Gesiye (g. 1992)
Mari Griffith
Eich Map Chi o’r Byd
Michal Iwanowski
Tirlun Anhysbys
Evie Banks
Crogdlws
Lydia Niziblian
Calon yn Deilchion
Tanyaradzwa Chiganze
Beth sy’n bosib ei wneud mewn oriel?
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Dwylo ar Dreftadaeth: Codi’r Llen ar Gaffael
Neil Lebeter ac Umulkhayr Mohamed
Rheolau Celf? Sgwrs gyda’r artist Caroline Walker
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Siarad â Phlant am Gelf
Sian Lile Pastore
Pêl-Droed Cymru a Byd Celf
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Rheolau Celf?
Neil Lebeter