Cynfas

Craigie Aitchison (1926-2009)

Carys Tudor, Curadur Cynnwys Digidol, Amgueddfa Cymru

13 Ionawr 2026 | munud i ddarllen

Artist fyddai’n cael ei adnabod am ei ddefnydd o liw oedd Craigie Aitchison (1926-2009). Yn enedigol o Gaeredin yn yr Alban, aeth Aitchison i astudio’r gyfraith ym Mhrifysgol Caeredin. Fe benderfynodd newid gyrfa, a mynychu Ysgol Gelf y Slade yn Llundain o 1952-1954, cyn mentro fel artist llawn amser.

Ym 1955 fe dderbyniodd Aitchison Ysgoloriaeth Paentio Llywodraeth yr Eidal gan y Cyngor Prydeinig ac fe deithiodd i’r Eidal, a fyddai’n profi’n dipyn o ysbrydoliaeth ar ei waith. Gan gyfuno lliw ac arddull y Dadeni yn yr Eidal gyda Lliwyddion yr Alban aeth Aitchison ati i greu ei iaith weledol ei hun.

Amgueddfa Cymru
AITCHISON, Craigie
© Ystâd Craigie Aitchison. Cedwir Pob Hawl 2025/Bridgeman Images/Amgueddfa Cymru

Cynhaliwyd ei arddangosfa unigol gyntaf yn Oriel Beaux Arts Llundain ym 1959. Cafodd ei ethol yn Aelod Gohebol o’r Academi Brenhinol Celf ym 1978 ac Brif Aelod yn 1988. Dyfarnwyd CBE iddo ym 1999 am ei gyfraniad i gelf weledol Prydain.

Yn beintiwr a gwneuthurwr printiau oedd yn adnabyddus am ei baentiadau o’r croeshoeliad, tirluniau, bywyd llonydd ac astudiaethau portread o fodelau, roedd yn creu cyfansoddiadau cytbwys a gwreiddiol. Ers dechrau’r 1960au roedd Craigie Aitchison yn ffafrio gweithio gyda modelau o India’r Gorllewin ac Affrica a Georgeous Macaulay o Nigeria oedd y model du cyntaf iddo weithio gydag e, ac fe beintiodd e dro ar ôl tro.

Amgueddfa Cymru
AITCHISON, Craigie
© Ystâd Craigie Aitchison. Cedwir Pob Hawl 2025/Bridgeman Images/Amgueddfa Cymru

Yn y portread hwn, caiff ei fframio â lliwiau pinc a glaswyrdd oeraidd cain, sy'n cyferbynnu â chyfoeth a chynhesrwydd ei groen. Roedd gan Craigie Aitchison ddiddordeb mewn penwisgoedd a sut y gallai'r siapiau sy'n deillio o hynny ddod yn ganolbwynt i baentiad. Dyma’r sou'wester, ffurf draddodiadol o het law croen olew y gellir ei blygu fyny, sy'n ganolbwynt i’r cyfansoddiad.

Yn enwog am ei weithiau celf lliwgar ar hyd ei oes, bu farw Craigie Aitchison yn 2009.


Curadur Cynnwys Digidol Amgueddfa Cymru yw Carys Tudor ac mae hi wedi gweithio yn adran gelf yr Amgueddfa ers 2021. Gyda chefndir ym maes cyfathrebu, mae’n angerddol am gynnig cyfleoedd i bob llais gael rhannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd, gan wneud pob pwnc yn berthnasol ac yn ddeniadol. Mae Carys hefyd yn ymddiddori mewn darluniau o hanes cymdeithasol a diwydiannol diweddar drwy gelf.

Share

More like this

David Nash: Doethineb Natur
Canolfan Grefft Rhuthun
Deialog
Oriel Davies
Curo'r Crysau Duon
Gareth Rhys Owen
Inc afalau derw
Jen Bowens, Cadwraethydd Papur, CELF
Comisiwn newydd: From land to Fire, 2025
Andrea Powell, Oriel Gelf Glynn Vivian
Comisiwn newydd: From land to Fire, 2025
Andrea Powell, Oriel Gelf Glynn Vivian
Sut i greu Gwawdlun
Siôn Tomos Owen
Going to Africa
Isabel Adonis
Grisaille I-III
Charlotte Grayland
Mam a'i phlentyn, a cherddi eraill
Tracey McMaster, cyfieithiadau gan Iestyn Tyne
Amser yw Arian
Anne Brierley, cyfieithiad gan Iestyn Tyne
The Waning
Rachel Helena Walsh
Teimlo
Efa Blosse-Mason a Karina Geddes
Wrth Ymyl y ffin
Paul Eastwood
Saunders Lewis
Paul Eastwood ac Owain Lewis
Croen Siwgr
Jasmine Violet
Clogfaen Pren 1978-2015
Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Stiwdio gyda Menyg yn Storiel, gweld casgliad y Llyfrgell mewn Gofod Newydd
Phoebe Murray-Hobbs, Swyddog Benthyciadau Cymunedol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Tirnodau Personol
Michal Iwanowski
Celf Mewn Ysbytai: Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Sara Treble-Parry, Steph Roberts a Siân Lile-Pastore
Lan yr Afon
Julian McKenny
Morlun Bach
Lucy Purrington
Thyrza Anne Leyshon: Eicon y Portreadau Miniatur o Gymru
Imogen Tingey, Cynorthwyydd Arddangosfeydd, Oriel Gelf Glynn Vivian
Dylunio GIFs Cymraeg
Sioned Young, Mwydro
Artcadia
Barbara Bartl, Rheolwr yr Amgueddfa ac Oriel Gelf, Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Cerdded Adref
Dagmar Bennett
Teulu Wakelin: chwarter canrif o gefnogaeth i artistiaid cyfoes
Andrea Powell, Cynorthwyydd Arddangosfeydd, Oriel Gelf Glynn Vivian
Helen Sear (g.1955)
Mari Griffith
David Nash (g.1945)
Mari Griffith
Rhyfel Mawr Glo Cymru
Maddie Webb, Curadur Gweithiau ar Bapur, Amgueddfa Cymru
Ymdeimlad o Le
Jon Pountney
Toriad
Ffin Jordão
Cadwraeth Paentiadau George Poole
Sarah Bayliss, Uwch Gadwraethwr Paentiadau, Amgueddfa Cymru
Frank Auerbach: Pen E.O.W
James Milne, Technegydd CELF, Ffotograffiaeth gan Rhian Israel, CELF
Ymson ar draeth
Iestyn Tyne
Tyrrau Mawr ar grwydr i Lanbedrog
Gwyn Jones, Alex Boyd Jones, Zoe Lewthwaite, Plas Glyn-y-Weddw
Gweithio gydag artist
Rhian Israel, Swyddog Ffotograffiaeth, CELF
Llwybr Tref Gŵyl Grefft
Rachel Vater, Cynorthwyydd Yr Oriel, Oriel Myrddin
Panopticon
Tina Rogers
Y Cyffredin
Ayesha Khan
Mapiau, celf, a dadgoloneiddio
Ellie King, Curadur Cynorthwyol Mapiau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Dadgoloneiddio’r Casgliad Celf Cenedlaethol
Morfudd Bevan, Curadur Celf, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Delfryd a Diwydiant: Curadu'r arddangosfa yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mari Elin Jones, Swyddog Dehongli, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Dan ddŵr sy'n llifo
Geraint Ross Evans
Golygfa Ddyrchafedig
Geraint Ross Evans
'Arhoswch adre'
Gwynfor Dafydd
Cardiau Post Protest
Osian Grifford
David Garner: Wylo
Nicholas Thornton a Ceri Jones, Amgueddfa Cymru
Storiel: Comisiynau Artistiaid
Esther Elin Roberts, Swyddog Celf Gweledol, Storiel
Collage Fabrig Scrap
Ella Louise Jones
Teulu
Ffion Rhys, Curadur, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Arddangosfa Teulu, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Ffion Rhys, Curadur ac Elin Vaughan Crowley, Artist - Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Oriel Myrddin: Comisiynau Artistiaid
Rachel Vater, Oriel Myrddin
Arnofio
Arddun Rhiannon
Geng Xue (g.1983)
Mari Griffith
Cerddi newydd gan ddisgyblion Cymru
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Dhruva Mistry: O’r astudiaeth i’r cerflunwaith
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Tu ôl i'r llen: Cadwraeth
Sarah Bayliss a Kitty Caiden, Amgueddfa Cymru
Darn Canol Bwrdd Con Brio: Comisiwn Ymddiriedolaeth P&O Makower
Andrew Renton, Pennaeth Casgliadau Dylunio, Amgueddfa Cymru
Arddangosfa Cyfoes: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Morfudd Bevan a Nia Dafydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Yr Eda
Llio Maddocks
Cymharu dau artist: John Selway a Denys Short
Nicholas Thornton, Pennaeth Celf Gain a Chelf Gyfoes, Amgueddfa Cymru
Caffaeliad newydd: Pulped Fiction gan David Shrigley
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Cerflunwaith Prydeinig Newydd yr wythdegau
Jennifer Dudley, Curadur Rheoli Casgliadau Celf a Hygyrchedd, Amgueddfa Cymru
Toredig Ond Prydferth
Apekshit Sharma, Intern Curadurol, Amgueddfa Cymru
Five Minutes
Mari Ellis Dunning
Swyn I
Efa Lois
Gesiye (g. 1992)
Mari Griffith
Eich Map Chi o’r Byd
Michal Iwanowski
Tirlun Anhysbys
Evie Banks
Crogdlws
Lydia Niziblian
Calon yn Deilchion
Tanyaradzwa Chiganze
Beth sy’n bosib ei wneud mewn oriel?
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Dwylo ar Dreftadaeth: Codi’r Llen ar Gaffael
Neil Lebeter ac Umulkhayr Mohamed
Rheolau Celf? Sgwrs gyda’r artist Caroline Walker
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Siarad â Phlant am Gelf
Sian Lile Pastore
Pêl-Droed Cymru a Byd Celf
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Rheolau Celf?
Neil Lebeter