Mae’r Ffotonewyddiadurwr Philip Jones Griffiths yn fwyaf adnabyddus am ei ddelweddau grymus o Ryfel Fietnam, Vietnam Inc.. Gyda’i ffocws agos a’i fanylder, datgelodd wir effaith y gwrthdaro ar bobl Fietman.
Cafodd Griffiths ei fagu mewn teulu Cymraeg ei hiaith yn Rhuddlan, Sir Ddinbych, ac roedd yn heddychwr o oed ifanc. Astudiodd fferylliaeth yn Lerpwl cyn symud i Lundain lle bu’n gweithio fel rheolwr nos Boots yn Piccadilly. Yn ogystal â phrosesu ffilmiau cwsmeriaid, roedd yn tynnu lluniau yn rhan amser i’r Manchester Guardian. Daeth yn ffotograffydd llawn amser yn 1961 gan weithio’n llawrydd ar gyfer yr Observer a chyhoeddiadau eraill.
Aeth ei aseiniadau cynnar ag ef i Ogledd Iwerddon, Algeria yn 1962 a Chambodia. Yn y brif ddinas, Phnom Penh, llwyddodd i gael llun o Jackie Kennedy ar ei gwyliau, a thalodd hwn am y prosiect a fyddai’n dilyn yn Fietnam. Rhwng 1966 ac 1971, daliodd effeithiau dinistriol y rhyfel ¬– mae ei ffotograffau digyfaddawd yn astudiaeth ddirdynol o wlad a diwylliant o dan ymosodiad.
Dros y blynyddoedd fyddai'n dilyn, tynnodd Griffiths luniau o’r Rhyfel Yom Kippur yn 1973, gweithiodd yn Cambodia tan 1975, ac wedyn yn Thailand. Yn ystod ei yrfa hir, aeth ei waith ef i fwy na 120 o wledydd. Yn ddiweddarach, aeth i fyw i’r Unol Daleithiau, a bu’n arlywydd y cydweithfa ffotograffig Magnum o 1980 tan 1985.
Ers 2015, mae archif Philip Jones Griffiths, sy’n cynnwys 150,000 o sleidiau a 30,000 print yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.
Mae Mari Griffith yn hanesydd celf sydd wedi gweithio ym maes amgueddfeydd ac orielau celf ers 30 mlynedd, yn datblygu a goruchwylio darpariaeth addysg a dehongli ar gyfer casgliadau cyhoeddus ac arddangosfeydd, gan gynnwys yn y National Gallery, National Gallery of Art a’r Royal Academy of Arts. Wedi cyfnod yn gweithio’n rhyngwladol ym maes dehongli celf a threftadaeth, mae hi’n awr yn ysgrifennu, golygu a chyfieithu’n llawrydd – am gelf gan fwyaf.