Comisiynwyd drwy CELF yr oriel gelf gyfoes genedlaethol i Gymru
Gyda chymorth CELF yr oriel gelf gyfoes genedlaethol i Gymru, comisiynodd Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd dri artist lleol i greu gwaith a ysbrydolwyd gan y casgliad cenedlaethol o gelf gyfoes a Chasnewydd – trigolion, cymunedau a thirwedd y ddinas. Mae’r gwaith wedi ei ychwanegu at gasgliad Amgueddfa Casnewydd a bydd yn parhau i fod ar gael fel adnodd cyhoeddus ac ysbrydoliaeth ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
W.H. Davies enquires of Newport
gan Beth Wilks
Triptych o doriadau papur, 2024/25
WILKS, Beth, W.H. Davies enquires of Newport © Beth Wilks/Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
WILKS, Beth, W.H. Davies enquires of Newport © Beth Wilks/Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
WILKS, Beth, W.H. Davies enquires of Newport © Beth Wilks/Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Penderfynodd Beth ddelweddu'r gerdd 'W.H. Davies enquires of Newport' drwy themâu hanes, cymuned a gwrthryfel. I Beth, efallai mai'r syniad o gymuned yw'r agwedd bwysicaf ar yr hyn sy'n gwneud Casnewydd yn arbennig. Mae'r bobl fywiog, amrywiol a chyfeillgar sy'n ffurfio Casnewydd yn gwneud Beth yn falch o berthyn.
Mae Beth Wilks yn athro ac artist gweledol sy'n gweithio'n bennaf trwy gyfrwng torri papur. Mae hi'n mwynhau'r dechneg hon gan fod y gwaith yn gymhleth ac yn fanwl sy'n cyferbynnu â golwg naïf a syml toriadau papur.
Ysbrydolwyd gan:
Osian Grifford, Protest Postcards
David Hurn, ffotograffau o bobl Casnewydd
David Jones, The Town Childs Alphabet
Kyffin Williams, West Bute Dock, Cardiff
Penrhiwceiber Art Trail Map gan Eleanor Whiteman
Mirrored sky, beyond low tide
by Marion Cheung
cyfryngau cymysg ar bren bedw, 2024/25
CHEUNG, Marion, Mirrored sky, beyond low tide © Marion Cheung/Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Mae gwaith Marion yn dathlu Afon Wysg fel y'i gwelir ar lawer o deithiau cerdded ac o safbwynt drôn. Yn hytrach na phaentio afon fwdlyd, mae Marion yn ceisio dal lliwiau wedi’u hadlewyrchu o’r awyr. Mae'r lliwiau hefyd yn cyfeirio at orffennol diwydiannol Casnewydd, gan geisio ennyn ymdeimlad o ehangu a rhyddid.
Mae Marion Cheung yn archwilio atsain emosiynol tirweddau yn ei gwaith, gan gyfuno cof â'r profiad o natur. Daw ei hysbrydoliaeth o baentio mynegiadol haniaethol a phroses o 'ganfod ffordd' – gan ymateb yn reddfol i farciau, siapiau a lliwiau ar yr wyneb.
Ysbrydolwyd gan: David Hurn, Art Lesson by Gerda Roper in the garden of Prospect Cottage
Muriel Wharton
by Oriane Pierrepoint
Olew ar gynfas, 2024/25
PIERREPOINT, Oriane, Muriel Wharton © Oriane Pierrepoint/Newport Museum & Art Gallery
Yn dilyn galwad gyhoeddus i enwebu rhywun i eistedd ar gyfer portread, paentiodd Orian Muriel Wharton a symudodd i Gasnewydd ym 1961 o ynys St. Kitts yn India'r Gorllewin. I ddarganfod stori ryfeddol Muriel, ewch i wefan Casgliad y Werin Cymru.
Gan weithio'n bennaf gyda phasteli a phaent olew, mae Oriane Pierrepoint nid yn unig yn ceisio sicrhau tebygrwydd cywir â'i thestunau, ond mae'n trin pob portread fel archwiliad dwys o dôn, lliw a chyfansoddiad. Ar ôl ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Celf Gain o Brifysgol Brookes Rhydychen, mae Oriane yn sefydlu ei hun fel portreadwr medrus, gan gydbwyso gwaith comisiwn â phaentiadau hunan-gymhellol eraill.
Ysbrydolwyd gan: Joshua Donkor, Portrait of Eric Ngalle Charles