Ymateb creadigol newydd i'r thema Y Corff, gan Sarah Merton.
Pwysau'r Byd
Cyfrwng cymysg, 2023
Artist Cymreig yw Sarah Merton sydd â diddordeb mawr yn y corff fel testun trafodaeth wleidyddol barhaus. Fel Llyfrgellydd gyda gradd mewn Cymdeithaseg, mae natur amrywiol ei chelf yn adlewyrchu diddordeb oes mewn cynrychioli'r dosbarth gweithiol, heriau menywod, a dylanwad gref diwylliant zines Riot Grrrl. Mae hi'n gwneud yn siŵr o'r cwlwm rhwng celf ac ymgyrchu yn ei thestunau, gan ganolbwyntio ar bynciau fel yr angen am well gwasanaethau endometriosis a thriniaeth am anhwylderau bwyta.