Mae eda’n rhedeg drwyddai,
eda tenau, eda hir.
Ac nes bo’r eda’n torri, fe fyddai’n gweld yn glir.
Y pwythau hyn sy’n fy nal gyda’i gilydd.
Braich i ysgwydd, coes i glun.
Pwyth drwy groen fel stamp drwy bapur brown
a phoen pob twll yn fy nghadw ar ddihun.
Mae’n pwyso’n drwm arnai,
yn slic du ar fy sgwyddau,
yn gwpan wag,
yn bygwth fy nhynnu’n ddarnau.
Mae ____ rhedeg drwyddai
___ tenau, ___ hir.
Ac nes bo’r ____ torri
fe fyddai’n gweld yn glir.
Dacw’r siswrn yn dŵad,
jî ceffyl bach a throl,
yn gadwyn yn fy stumog
ac yn gadael dim ond poen bol.&
Ond mae’r pwythau dal yno,
yr eda’n ddur yn erbyn llafn o aur.
Er i ti geisio llosgi’r hunaniaeth o 'nghroen,
mae fy nghorff i’n gaer.
Mae ____ rhedeg drwyddai,
___ _____, ___ ___.
Ac nes bo’r ____ torri,
fe fyddai’n gweld yn ____.
Mae’n caneuon ni’n pasio o law i law
o nain i blentyn, o geg i glust.
Y stori fel nodwydd,
a phob pwyth yn dyst.
Pwy all dorri eda
pan fo’r eda’n ddim ond sibrwd i ddechra.
Ust. Ust.
‘Da ni dal yma.
Mae eda’n rhedeg drwyddai,
eda tenau, eda hir.
Ac nid yw’r eda’n torri
tra rwyf i’n gweld yn glir.
Dwi wedi ymateb i nifer o'r darnau o waith yn y thema Gwleidyddiaeth, Protest ac Ymgyrchu yn y gerdd yma, ond yr un wnaeth sticio fwyaf efo fi oedd Hwiangerdd gan Paula Rego, felly dwi wedi fframio’r gerdd o gwmpas cerddi plant Cymraeg fel Het Tri Chornel ac Awn Am Dro i Frest Pen Coed - y cerddi hynny sy'n dileu gair wrth i'r penillion ailadrodd. Ro'n i'n gweld y fformat o ddileu gair yn adlewyrchu'n gryf yn y thema o brotest, wrth i hunaniaeth, traddodiad a hawliau gael eu dileu yn systemig, ac ymateb y bobl gyffredin i'r ymosodiadau hynny.