CYNFAS

Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
9 Chwefror 2024

Artes Mundi 10: Darn o waith newydd ar gyfer Ymddiriedolaeth Derek Williams ac Amgueddfa Cymru

Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru

9 Chwefror 2024 | Minute read

Beth yw ‘Artes Mundi’?

Artes Mundi yw’r sefydliad canolog sy’n canolbwyntio ar waith rhyngwladol yng Nghymru. Ystyr lladin ‘celfyddydau’r byd’ sy’n gwreiddio’r hyn mae’r cwmni’n ei wneud o greu perthnasau a chreu cyfleoedd amrywiol i gynulleidfaoedd a chymunedau ymgysylltu gydag achosion cyfredol a thaer sy’n atseinio ar lefel lleol a rhyngwladol. Yn fwyaf wybodus am yr arddangosfa a’i gwobr ddwyflynyddol, mae Artes Mundi hefyd yn creu cyfleoedd cydweithio gydag ystod o leoliadau a phartneriaid traws-ddisgyblaethol yng Nghaerdydd, y DU a thu hwnt, gan greu arddangosfeydd a gwaith gomisiwn, yn ogystal â rhaglenni o bartneriaethau cyd-greadigol gyda chymunedau Cymru.

Displacement / Distierro by Tania Bruguera (mudman / mud man) before opening of exhibition.
BRUGUERA, Tania
© ARS, NY a DACS, London 2024/Amgueddfa Cymru

Ble mae arddangosfa Artes Mundi 10?

I nodi 20 mlynedd ers ei sefydlu, mae arddangosfa Artes Mundi 10 (AM10) wedi’i chyflwyno mewn pum lleoliad drwy Gymru gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Chanolfan Celfyddydau Chapter yng Nghaerdydd; Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe; Oriel Davies yn y Drenewydd a Mostyn yn Llandudno.

Pa artistiaid sy’n arddangos fel rhan o Artes Mundi 10?

Mae AM10 yn cynnig y cyfle i weld gwaith newydd a blaenorol gan saith artist rhyngwladol cyffrous: Rushdi Anwar, Carolina Caycedo, Alia Farid, Naomi Rincón Gallardo, Taloi Havini, Nguyễn Trinh Thi a Mounira Al Solh. Gan blethu’r pum lleoliad mae themâu penodol sy’n ymwneud â chysylltiadau â thir, tiriogaethau a hanes sy’n cael eu herio, cwestiynu cenedligrwydd a’i effaith ar yr amgylchedd, a sut mae’r syniadau hyn yn herio syniadau rhagdybiedig ynghylch hunaniaeth a pherthyn. Caiff AM10 ei chreu gyda’r Partner Cyflwyno Bagri Foundation.

Beth yw’r cysylltiad rhwng Ymddiriedolaeth Derek Williams ac Artes Mundi?

Ymddiriedolaeth Derek Williams yw un o brif gefnogwyr casglu celf gyfoes yn Amgueddfa Cymru. Mae’r Ymddiriedolaeth yn dangos ei chefnogaeth i gelf gyfoes ryngwladol drwy Wobr Brynu Artes Mundi Ymddiriedolaeth Derek Williams. Mae’r wobr, sy’n ychwanegol i Wobr Artes Mundi, yn cefnogi’r barneriaeth unigryw rhwng Amgueddfa Cymru ac Artes Mundi. Mae’n cynnig y cyfle i gasglu celf gyfoes ryngwladol ac yn ei gosod o fewn cyd-destun Cymreig, gan roi pwyslais ar archwilio’n cysylltiadau a’r byd o’n cwmpas o fewn y Casgliad Celf Cenedlaethol yng Nghymru.

Pwy sydd wedi ennill Gwobr Brynu Artes Mundi Ymddiriedolaeth Derek Williams hyd yma?

Snow White by Berni Searle
SEARLE, Berni
© Berni Searle/Amgueddfa Cymru - Museum Wales

Enillydd cyntaf Gwobr Brynu Artes Mundi Ymddiriedolaeth Derek Williams Artes Mundi oedd Berni Searle gyda’r gwaith Eira Wen (2001). Mae ffotograffau a delweddau symudol pwerus Berni Searle ymdrin â pherthynas y cymdeithasol a'r gwleidyddol â'r corff, gan dynnu ar ei magwraeth yn Ne Affrica o dan drefn Apartheid. Mae’r gwaith wedi cael ei arddangos fel rhan o AM10 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Mae Mauricio Dias a Walter Riedweg wedi bod yn cydweithio ers 1993 ac mae’r gwaith Taflu yn waith fideo un sianel. Mae’n dogfennu ‘gwrthryfel dyddiol y dyn bach’, wrth i bobl Helsinki gael eu gwahodd i daflu pob math o wrthrychau at ddalen o wydr.

Aiff y gwyliwr ar siwrnai gyda Eija-Liisa Ahtila yn ei gwaith Yr Awr Weddi. Mae’r gwaith yn adrodd ei hanes o ddelio gyda galar gan ddechrau mewn storm fis Ionawr yn Efrog Newydd a chwblhau yn Benin, Gorllewin Affrica un mis ar ddeg yn ddiweddarach. Mae’r gwaith wedi’i seilio ar fywyd Ahtila.

Cyflwynwyd Gwobr Brynu Artes Mundi Ymddiriedolaeth Artes Mundi i waith fideo Lida Abdul, Tree, yn ystod Artes Mundi 3. Mae ei gwaith yn rhaglen ddogfen sy’n dogfennu dynion ifanc yn trafod a myfyrio ar dorri coeden i lawr a dwyn ffrwyth. Yn eu trafodaeth, maen nhw’n esbonio bod y goeden yn lleoliad sawl dienyddiad, a bod yn rhaid ei thorri i lawr.

Cerflun o wydr crisial yw gwaith Mircea Cantor, Grawn Diemwnt, gafodd hefyd ei gaffael ar ôl Artes Mundi 3 yn 2011. Yn ei waith, mae Cantor yn annog trafodaethau ar mewnfudo, hunaniaeth a chyfoeth fel pynciau rhyngwladol, er bod ein profiadau i gyd yn wahanol. Mae’r cerflunwaith, allan o fwyd sylfaenol, yn edrych ar anghyfiawnder rhwng bydoedd y gogledd a’r de, tlodi bwyd, a dinistr amgylcheddol er mwyn cynhyrchu bwyd.

The Train by Olga Chernysheva 2003 on display in Artes Mundi 4
CHERNYSHEVA, Olga
© Olga Chernysheva/Amgueddfa Cymru - Museum Wales

Artist o Rwsia yw Olga Chernysheva sy'n gweithio'n bennaf gyda ffotograffiaeth a ffilm. Mae'n bosib mai Y Trên (2003) yw ei gwaith fideo mwyaf adnabyddus. Mae camera'n symud drwy drên yn ninas Moscow, gan ddal pytiau o'r teithwyr: cymudwyr, cerddorion a beirdd fel ei gilydd.

Mae Destierro (Dadleoli) yn ddatblygiad o berfformiad a gynhaliwyd yn wreiddiol yn Havana, Ciwba ym 1998. Wedi’i gaffael yn 2013, roedd gan berfformiad Bruguera wahanol haenau o ystyr pan y’i perfformiwyd yng Nghiwba, gwlad sydd â chreoleiddiad neu gymysgedd bywiog o ddiwylliannau a chredoau Affricanaidd ac Ewropeaidd.

Cyd-gomisiwn gan Amgueddfa Cymru ac Artes Mundi yw The Sky in a Room gan yr artist Ragnar Kjartansson, gafodd ei lwyfannu’n gyntaf yn 2018 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae’r darn wedi esblygu i gynnwys cast o gantorion ac organyddion sy’n perfformio drwy’r dydd y gân Il Cielo In Una Stanza (Yr Awyr mewn Ystafell) cân ramantus Eidalaidd enwog a gyfansoddwyd ym 1959 gan Gino Paoli. Cafodd y gwaith ei berfformio’n wreiddiol yng nghanol oriel wag yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gan berfformiwr unig fyddai’n chwarae’r organ siambr a gomisiynwyd yn wreiddiol gan un o noddwyr celfyddydol pennaf Cymru, Syr Watkins William-Wynn ym 1774.

Y Tyrra Mawr
WILLIAMS, Bedwyr
© Bedwyr Williams/Amgueddfa Cymru

Ar lethrau Cader Idris, ar lannau Llyn Cau, saif dinas newydd. Yn y cefndir mae llais yn adrodd hanes ei hadeiladu ac uchelgais ei phensaer. Yn y ffilm hon mae Bedwyr Williams yn efelychu gwawr paentio tirluniau y 18fed ganrif mewn dyfodol cyfagos. Mae Y Tyrrau Mawr yn trafod pryderon cenedlaethol a rhyngwladol am drefoli a theilwra cymdeithasol mewn dinasoedd modern.

The Close Observer
PACHPUTE, Prabhakar
© Trwy garedigrwydd yr artist ac Experimenter, Kolkata/Amgueddfa Cymru

Mae gosodwaith Anna Boghiguian, Cwympodd feteor o'r awyr yn archwilio’r diwydiant dur yn India a de Cymru, yn bennaf o safbwynt gweithwyr a’r frwydr i sefydlu eu hawliau. Mae'r gosodwaith, a gafodd ei ddatblygu ar gyfer dwy oriel yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, yn cynnwys cerflunwaith, ffotograffiaeth, darlunio a phaentio. Mae’r waliau wedi'u paentio â lliw glas, magenta a melyn bywiog – lliwiau sy'n ysgogi atgofion am brosesau gwneud dur a dillad llachar y gweithwyr.

Mae Y Gwyliwr Agos a Cwlwm Rhugl yn ddau lun baner y gellir eu harddangos gyda'i gilydd ar gefndir murlun wedi'i baentio sy'n cysylltu ac yn ymestyn y cyfansoddiadau. Maen nhw’n cynrychioli tirweddau ôl-ddiwydiannol, heb ddim planhigion na choed ac yn llawn ffigurau rhyfedd a delweddau swrrealaidd. Magwyd yr arlunydd Prabhakar Pachpute yn Chandrapur yng nghanol India lle bu tair cenhedlaeth o'i deulu yn gweithio ym mhyllau glo'r rhanbarth.

Who's been awarded the Derek Williams Trust Artes Mundi Prize for AM10?

Mae sawl darn o’r gyfres In Love in Blood (2023) gan Mounira Al Solh wedi’u dewis ar gyfer y wobr yn 2024. Mae gwaith tecstilau In Love in Blood yn nodweddiadol o ddefnydd Mounira o frodwaith a’i diddordeb yng nghrefft adrodd stori ac iaith yn ei holl gymhlethdod, ei naws a’i newid mewn ystyr. Mae’ pob brodwaith yn darlunio un gair o restr a luniwyd gan Ibn Qayyim El Jawziyya, diwynydd Islamaidd canoloseol a oedd yn byw yn Namascus yn y 13eg ganrif. Mae’r casgliad o eiriau Arabaidd yn cynnwys serch, addoli, angerdd, gwaed, hiraeth, galar, ffolineb, ac yn catalogio dros 50 o ffyrdd o ddatgan cariad, yn seiliedig ar faint, lefel neu naws yr emosiwn.

Ers y cychwyn cyntaf gyda gwaith Berni Searle, hyd Heddiw gyda Mounira Al Solh, mae’r wobr wedi cynnig y cyfle i gaffael celf ryngwladol gan greu cysylltiadau diddorol a phwysig gyda ac ar gyfer Cymru, wrth rhannu straeon rhwng Cymru a’r byd o’n cwmpas.


Curadur Digidol Amgueddfa Cymru yw Carys Tudor ac mae hi wedi gweithio yn adran gelf yr amgueddfa ers 2021. Gyda chefndir ym maes cyfathrebu, mae’n angerddol am gynnig cyfleoedd i bob llais gael rhannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd, gan wneud pob pwnc yn berthnasol ac yn ddeniadol. Mae Carys hefyd yn ymddiddori mewn darluniau o hanes cymdeithasol a diwydiannol diweddar drwy gelf.

Mounira Al Solh, In Love in Blood © Mounira Al Solh / Amgueddfa Cymru

Mounira Al Solh, In Love in Blood © Mounira Al Solh / Amgueddfa Cymru

Share


More like this