Tra’n sgwrsio gyda chyd guraduron ychydig o fisoedd yn ôl, gwnaeth un o’m cydweithiwr y sylw ein bod ni i gyd mor brysur y dyddiau hyn yn troelli’r holl blatiau ’ma, dylem mewn gwirionedd wneud yn siŵr bod un plât bob amser yn un melys - a throdd ataf i a gofyn “pa un yw dy blât melys di ar hyn o bryd Ffion?” Wel, daeth yr ateb i’r cwestiwn hwnnw’n rhwydd - Teulu wrth gwrs!
Mae teulu yn golygu popeth i mi, fel y mae celf - felly 'roedd cyfuno’r ddau bob amser yn mynd i fod yn bleser. Gweithiais am gyfnod fel addysgwraig oriel i Artes Mundi - yr arddangosfa gelf gyfoes ryngwladol a gynhelir bob dwy flynedd yng Nghymru - a fy hoff ran o’r swydd honno oedd y gweithdai teuluol. Roeddwn wrth fy modd yn cynnwys y rhieni, y neiniau a’r teidiau, y plant a’r teulu estynedig a ffrindiau i gyd gyda'i gilydd mewn rhywbeth creadigol - mae ’na rywbeth arbennig iawn am sut y gall celf greu gofod gwahanol sy'n annog rhyngweithio rhwng unigolion a theuluoedd. Wrth ymchwilio mwy am hyn, deuthum i ddeall nad oes llawer o gyfleoedd i deuluoedd gymryd rhan mewn gweithgaredd creadigol gyda'i gilydd fel uned gyfan: mae rhieni yn aml yn mynd i ffwrdd i wneud un peth, tra bod y plant yn gwneud gweithgaredd gwahanol. Nodwyd hyn hefyd fel blaenoriaeth mewn ymchwil a wnaethpwyd gan yr Asiantaeth Gynulleidfa - Ymchwil Cyswllt Celf: Cynllun Mynediad i Deuluoedd, 2016.
Arddangosfa gan deuluoedd ar gyfer teuluoedd
Roeddwn am ystyried ffyrdd o weithio gyda’r teulu cyfan ac hefyd ffeindio allan pa rwystrau sy’n bodoli o ran atal teuluoedd rhag ymweld ag orielau yn benodol. Daethom o hyd i 4 teulu ffantastig oedd am weithio gyda ni am gyfnod o 6 mis, ac rydym wedi dysgu gymaint oddi wrthynt - ni allaf ddiolch digon iddynt am eu mewnwelediad a’u brwdfrydedd. Prif ffocws y prosiect oedd curadu arddangosfa fawr gyda’n gilydd, arddangosfa wedi’i chreu gan deuluoedd, ar gyfer teuluoedd.
Gyda’n gilydd aethom drwy bob agwedd o gynhyrchu arddangosfa: syniad / thema / uchelgais y sioe; dewis y gweithiau celf; ysgrifennu’r paneli dehongli a’r labeli; penderfynu ar osodiad y waliau; lleoli’r darnau o fewn y gofod ac mewn perthynas â’i gilydd; a syniadau ar gyfer y digwyddiad agoriadol, marchnata a gweithgareddau yn yr oriel.
Trwy gydol y broses, buom yn dysgu bod rhieni neu ofalwyr weithiau’n teimlo nad yw oriel yn lle addas iddynt fod - maent yn poeni’n aml na fydd y plant efallai yn cymryd diddordeb yn y gwaith celf, efallai byddant yn torri rhywbeth, gwneud gormod o sŵn neu redeg/llithro ar y lloriau - gan fod orielau’n aml yn llefydd mawr, agored, ac yn aml yn debycach i lyfrgelloedd. Roeddent yn teimlo hefyd bod y gwaith celf yn aml ar gyfer oedolion ac heb ei dargedu at blant, heb ddim byd ychwanegol iddynt ei ‘wneud’. Yn wir, dyma’r profiad ‘dwi wedi cael efo fy mhlant fy hun.
Gwelsom fod plant wrth eu bodd gyda lliw, sain, cyffwrdd, symud, chwarae a chreu - dim syrpreis mawr - ond sut y byddem yn cynnwys yr elfennau hyn mewn oriel llawn celf werthfawr fregus? Dyna’r broblem. Sut oeddem yn mynd i greu gofod a fyddai’n llwyddo i wneud teuluoedd yn gyfforddus ac yn hyderus i ddod i mewn, aros, mwynhau, cymryd rhan pe dymunent a theimlo mai dyma oedd eu gofod nhw?
Arddangosfa lawen
Buom yn gweithio mewn partneriaeth gydag Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Ysgol Gelf, Amgueddfa ac Orielau Prifysgol Aberystwyth, y cyfan yn gartrefi i gasgliadau cenedlaethol anhygoel sy’n perthyn i ni i gyd. Roeddem am i’r teuluoedd gael mynediad i’r gweithiau celf pwysig hyn ac i roi iddynt y cyfle i ddethol yr hyn yr oeddent yn meddwl fyddai’n cynrychioli gorau eu syniadau, themâu ac uchelgeisiau. Yr hyn y maent wedi ei chreu yw arddangosfa lawen sy’n wir ddathliad o beth mae teulu yn golygu iddyn nhw. Mae’r ‘ciwb gwyn’ a’r ymylon syth wedi diflannu, a’r hyn a welwn yw pob wal mewn lliw gwahanol wedi’i phaentio mewn llinellau crymion gyda gweithiau celf wedi eu gosod ar uchder plentyn yn ogystal ag uchder oedolyn. Mae’r teuluoedd hyd yn oed wedi creu eu gweithiau celf serameg ac animeiddiad eu hunain mewn ymateb i, ac i ddangos ochr yn ochr â’u gweithiau celf detholedig gan Picasso, Ceri Richards, Kyffin Williams, David Hurn a Claudia Williams. Mae’r gweithiau celf yn sôn am dreulio amser gyda’r rhai yr ydych yn eu caru: o gwmpas y bwrdd gartref, ym myd natur, ar lan y môr ac yn y mynyddoedd. Mae eu pryderon ynglyn â diogelu ein byd naturiol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a’r argyfwng hinsawdd hefyd yn cael eu hadlewyrchu yn y gweithiau dethol gyda ffotograffau yn dangos y sbwriel sy’n casglu ar ein traethau. Dewisodd y plant weithiau mwy lliwgar ac haniaethol, darluniau o lyfrau plant yn dangos anifeiliaid a chwarae creadigol ac hefyd gwaith delwedd symudol. Bu’r teuluoedd hefyd yn comisiynu artistiaid i greu gweithiau celf rhyngweithiol newydd mewn ymateb i themâu’r arddangosfa - ‘bwrdd gwehyddu’ lle gall y teulu cyfan greu gyda’i gilydd, a cherfluniau meddal chwareus rhyngweithiol sy’n symud o gwmpas yr oriel.
Ar awgrym y teuluoedd, daeth y môr-leidr Ben Dant a’r Wir Anrhydeddus Elin Jones AS i agor yr arddangosfa. Sylwodd Elin:
“Dyma’r agoriad mwyaf swnllyd yr wyf wedi bod ynddo erioed! Mor braf yw gweld cymaint o deuluoedd yma, dyma fel y dylai fod.”
Mae’r arddangosfa ymlaen nawr yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth tan Fehefin y 23ain 2024 ac rydym yn falch iawn y dewiswyd yr arddangosfa hon i lansio’r fenter gyffrous a fydd yn sefydlu oriel celf gyfoes genedlaethol i Gymru, sydd yn ei hanfod yn anelu at roi mynediad i’n casgliadau celf cenedlaethol trwy arddangos y casgliad mewn 9 oriel partner ledled Cymru.
Gofod i bawb
Cafwyd llawer o ganlyniadau annisgwyl yn sgil y prosiect hwn - y ceisiadau niferus gan yr artistiaid dethol i gyfarfod â’r teuluoedd - roedd bwyta sglodion ar y prom yn Aberystwyth gyda David Hurn yn sicr yn uchafbwynt! A churadur serameg Ysgol Gelf Aberystwyth yn gofyn a fyddai’n bosibl gweithio gyda’r teuluoedd i guradu arddangosfa arall - canlyniadau bendigedig! Mae’r cyfan wedi rhagori ar fy nisgwyliadau, a rydym yn dal i ddysgu. Mae wedi cael effaith ar y Ganolfan gyfan, a’n ymwelwyr. Mae’r oriel yn llawn o bobl o bob oedran, yn mwynhau’r hyn mae nhw’n ei weld, yn cymryd rhan mewn creu gyda’i gilydd, heb boeni am sŵn neu chwarae neu am sut y ‘disgwylir’ iddynt ymddwyn. Yn y pendraw mae wedi newid y ffordd yr ydym yn gweithio ac wedi newid agweddau o ran yr hyn y gall gofod oriel fod - sef gofod i BAWB.
Diolch
Diolch i’r teuluoedd, Cyngor Celfyddydau Cymru ac oriel celf gyfoes genedlaethol Cymru am noddi’r prosiect hwn yn ariannol ac i’n partneriaid yn y prosiect, Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth, Plant Dewi, Dechrau’n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf a’r artist Elin Vaughan Crowley (cydlynydd y prosiect). Diolch hefyd i Laura Hughes (tiwtor serameg) a Charlie Carter (tiwtor animeiddio) am eu rhan nhw wrth sicrhau bod y project wedi’i wireddu.
Ffotgraffau gan Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac Emma Goldsmith.