CYNFAS

Mari Elin Jones, Swyddog Dehongli, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
16 Awst 2024

Delfryd a Diwydiant: Curadu'r arddangosfa yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mari Elin Jones, Swyddog Dehongli, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

16 Awst 2024 | Minute read

Nôl ym mis Hydref 2022 roeddwn i yn y National Gallery yn Llundain yn sefyll o flaen paentiad Canaletto, Venice: Campo S. Vidal and Santa Maria della Carità ('The Stonemason's Yard') ac yn teimlo braidd yn bryderus.

CANALETTO, Venice: Campo S. Vidal a Santa Maria della Carità ('The Stonemason's Yard'), tua 1725 © The National Gallery, Llundain

Roedden i newydd gael gwybod mai dyma’r paentiad y byddai’n cael ei fenthyg i’r Llyfrgell Genedlaethol ym mis Mai 2024, fel rhan o ddathliadau daucanmlwyddiant y National Gallery. Y brîff i fi fel Swyddog Dehongli adran arddangosfeydd y Llyfrgedd oedd i guradu arddangosfa o gwmpas y darn gyda’n casgliadau ni. Y cwestiwn mawr oedd gen i wrth syllu ar y paentiad oedd “Sut mae plethu ein casgliadau penodol Gymreig ni gyda’r campwaith Eidalaidd hwn?”

Roedd Canaletto'n nodedig am ei baentiadau delfrytgar o Fenis, ond mae ‘The Stonemason’s Yard’ yn wahanol am ei fod yn dathlu y diwydiannol yn ogystal â’r delfrydol. Yn hytrach na'r olygfa ramantus arferol o Fenis sy'n nodweddiadol o weithiau Canaletto, yn y fan hon mae wedi penderfynu dyrchafu llafurwyr a phobl gyffredin.

Y cyferbyniad hwn rhwng y delfrydol a’r diwydiannol arweiniodd at guradu arddangosfa sy’n dathlu tirweddau cyferbyniol Cymru – Delfryd a Diwydiant.

Ysbrydolwyd artistiaid ers canrifoedd gan olygfeydd prydferth o fynyddoedd mawreddog, dyffrynnoedd glaswyrdd a chestyll Cymru, ond hefyd gan greithiau ac olion y chwyldro diwydiannol. Ac mae Cymru yn parhau i fod yn hafan i artistiaid cyfoes wrth iddynt ailddychmygu ac ail-lunio amlinell ei bryniau a'i dyffrynnoedd.

Ar ôl misoedd o bendroni dros sawl rhestr faith, mae bron i 90 o dirluniau Cymreig o’r casgliad cenedlaethol – tua 50 o’r rheiny yn weithiau cyfoes - nawr i’w gweld wrth ochr paentiad Canaletto ar waliau Oriel Gregynog, a dyma rannu â chi flas bach o’r hyn sydd i’w weld...

Delfryd

Erbyn diwedd y 18fed ganrif roedd mynyddoedd mawreddog, rhaeadrau ac adfeilion cestyll Cymru yn denu artistiaid o bob cwr o Brydain. Yn hytrach na chael eu brawychu gan beryglon y mannau anghyfannedd hyn, dechreuodd pobl edmygu eu hysblander naturiol a chwedloniaeth a hanes y tirlun.

O'r 1920au hyd ddiwedd y 1960au, roedd grŵp o artistiaid – y neo-Ramantwyr - yn dechrau dychwelyd at y traddodiad o baentio tirluniau.  Roedd artistiaid fel Wilson a Turner wedi trawsnewid paentio tirlun trwy ganolbwyntio ar rym mawreddog natur, ac aeth y to newydd hwn o artistiaid ati i lunio eu gweledigaethau artistig unigryw eu hunain. Roedd y byd yn lle cythryblus yn y cyfnod hwnnw, a'u nod oedd dal 'ysbryd' man a lle ar adeg o newid. 

ELWYN, John, Cardiganshire Meadows, 1959 © Artist’s Estate

Er iddo fyw yn Lloegr am y rhan fwyaf o’i fywyd, ei atgofion o ffermydd a llwybrau ei blentyndod yn ne Ceredigion oedd ysbrydoliaeth mwyaf John Elwyn. Roedd ei weithiau celf yn aml yn cyfleu ei awydd dwys a’i hiraeth am dirweddau ei gynefin. Ond mae yna hefyd elfen gwyrdröedig i’w dirluniau, ac mae’n bosib egluro hyn gan y modd mae tywyllwch yr Ail Ryfel Byd yn dangos ei hunan yn y delweddau.

Ar hyd y canrifoedd, mae artistiaid wedi datblygu dulliau unigryw o bortreadu tirwedd Cymru, ac wedi cael eu hysbrydoli gan ei nodweddion naturiol, hanesyddol a chymdeithasol. Mae eu dehongliadau yn cyfoethogi ein dealltwriaeth a'n gwerthfawrogiad, ac yn aml yn portreadu'r berthynas glòs rhwng pobl a'u hamgylchedd. 

HOWARDS JONES, Ray, Way Down to Easter Bay, 1981 © Artist’s Estate

Roedd Ray Howard-Jones yn artist Cymreig cynhyrchiol iawn. Roed hi’n adnabyddus yn bennaf am ei morluniau a’i darluniau o arfordir rhyfeddol sir Benfro, yn enwedig yr ardaloedd o amgylch Marloes ac Ynys Sgomer. Treuliodd sawl haf ar Sgomer rhwng 1949 a 1958, a dyma lle sylweddolodd bod natur a’i bywyd mewnol hynod ysbrydol yn ffynhonnell werthfawr o ysbrydoliaeth iddi. Creodd nifer fawr o weithiau ar yr ynys, a’r darluniau hynny yn nodedig am eu harddull argraffiadol a’u defnydd hynod o liw.

Diwydiant

Denodd y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru bobl o ystod eang o gefndiroedd a diwylliannau, gan greu cymdeithas ffyniannus, a dechreuodd tirlun yr ardaloedd hyn newid wrth i'r cymunedau hyn ddatblygu. Erbyn yr 20fed ganrif, daeth cenhedlaeth newydd o artistiaid i'r amlwg a oedd wedi eu magu gyda'r glowyr a’r chwarelwyr, gyda’i gwaith yn aml yn portreadu'r bobl, eu cartrefi a'u mannau ymgynnull fel rhan annatod o'r tirlun. 

CHAPMAN, George, Hopscotch, 1959 © Artist's Estate

Daeth yr arlunydd Saesneg George Chapman i’r Rhondda am y tro cyntaf yn 1953. Rhoddodd yr ymweliad hwn gyfeiriad newydd i’w waith, a byddai’n dychwelyd yno dro ar ôl tro gan ddweud “I realised that here I could find the material that would perhaps make me a painter at last.” Mae darluniau George Chapman yn portreadu ysbryd trefi a chymunedau’r cymoedd. Yn hytrach na chanolbwyntio ar y parciau a’r mannau dymunol, aeth i’r llefydd wedi’u anghofio – y strydoedd a’r lonydd cefn, yn aml wrth iddi nosi ac mewn tywydd garw. Edrychodd yn fanwl ar rythm bywyd bob dydd y Rhondda cyn ei ddarlunio, fel y gwelwn yn y darlun hwn o blant yn chwarae ‘hopscotch’ yn erbyn cefnlen o fryniau tywyll a simne fyglyd ddiwydiannol.

Nid oes amheuaeth fod diwydiant wedi gadael ei ôl ar Gymru. Creithiwyd y tir gan weddillion diffaith gweithfeydd a bygythiad tomenni slag. Darluniwyd tirlun diwydiannol Cymru mewn ffyrdd gwrthgyferbyniol gan artistiaid, y naill yn gweld diwydiant fel rhywbeth sy’n tarfu ar natur, a'r llall fel rhywbeth sy’n dathlu ffordd benodol o fyw. Mae eu gwaith yn adlewyrchu'r cysylltiad cymhleth ag amgylchedd diwydiannol Cymru, ac yn archwilio effaith diwydiant ar y gymuned ac ar yr amgylchedd fel ei gilydd.   

LLOYD JONES, Mary, Cwm Rheidiol, 1991 © Mary Lloyd Jones

Mae’r llefydd hynny sydd wedi cael eu creithio gan weithgaredd dynol, fel mwyngloddio a chwarelu, yn ysbrydoliaeth enfawr i Mary Lloyd Jones. Mae’r prosesau hyn yn datguddio yr hyn sydd fel arfer wedi cael ei guddio o dan wyneb y ddaear. Mae Mary yn cyfuno’r elfennau tanddaearol hyn â nodweddion yr arwynebedd ac ag amodau’r tywydd er mwyn creu symbolau gweledol o’r mannau hyn. Yn aml, mae’r lliwiau sy’n cael eu dewis ganddi wedi eu hysbrydoli gan bridd, creigiau a llystyfiant y tir o dan ei thraed, yn ogystal â lliwiau mwy llachar sy’n nodweddiadol o’i egni.

Haniaethu'r Tirwedd

Heddiw, mae llawer o artistiaid cyfoes yn archwilio sut mae celf haniaethol yn cysylltu tirwedd Cymru â hunaniaeth bersonol. Trwy ddadelfennu delweddaeth lythrennol, mae artistiaid yn cyfleu cysylltiadau emosiynol a seicolegol â'r tir. Trwy liw a gwead a chyfansoddiad, mae artistiaid yn ennyn teimladau ac atgofion, gan ein gwahodd i ystyried ein synnwyr o le ac o berthyn yn y byd. 

HAINES, Elizabeth, The Other Land © Elizabeth Haines

Mae dylanwad tirwedd Cymru i’w weld yn glir ar baentiadau diweddaraf Elizabeth Haines. Er mai tirluniau ydyn nhw, maen nhw rhywle rhwng cynrychiolaeth a haniaeth. Yn y lluniau hyn mae gwybodaeth sydd wedi’i grynhoi dros flynyddoedd o ddarlunio byd natur yn cwrdd â’r dychymyg. Disgrifiwyd ei darluniau fel “suggestive and mysterious, whilst still working in the great British tradition of the landscape, reading and interpreting nature and returning it to the viewer enriched.”

Tra bod golygfeydd gwledig adnabyddus yn cael eu dathlu yn yr arddangosfa hon, gwelwn hefyd weithiau sydd wedi cael eu hysbrydoli gan ddiwydiant ac ardaloedd trefol. Gyda'i gilydd, mae'r tirweddau hyn yn diffinio cymeriad unigryw Cymru.


Mae arddangosfa Delfryd a Diwydiant am ddim ac i’w gweld tan 7 Medi 2024. Am fwy o wybodaeth ewch i llyfrgell.cymru/canaletto.


Share


More like this