Mae gyrfa amrywiol y ffotograffydd David Hurn wedi cwmpasu ffotograffau dogfennol yn ogystal a delweddau mwy personol yn ei waith mwy diweddar. Mae hefyd yn gasglwr ffotograffau brwd.
Ganed Hurn yn Surrey, o dras Cymreig, a chafodd ei fagu yng Nghaerdydd. Ar ôl gadael ysgol, symudodd i Lundain i weithio fel ffotograffydd ac erbyn 1955 roedd yn gweithio yn Asiantaeth Reflex ac hefyd fel ffotograffydd llawrydd. Daeth i sylw y flwyddyn ganlynol gyda'i luniau o’r chwyldro yn Hwngari yn 1956. Law yn llaw a’i liuniau dogfennol, gweithiodd fel ffotograffydd ar gynyrchiadau ffilm, gan gynnwys From Russia with Love, a Barbarella.
Erbyn 1967 roedd Hurn yn aelod llawn o Magnum. Tua’r un cyfnod, dychwelodd i Gymru a threulio blwyddyn yn byw mewn fan tra’n tynnu lluniau o gwmpas y wlad. Ym 1973 sefydlodd yr Ysgol Ffotograffiaeth Ddogfennol yng Ngholeg Celf Casnewydd, lle bu’n gweithio tan 1989.
Yn ei waith diweddarach, mae wedi troi ei sylw o faterion cyfoes i themau mwy personol. Ei brosiect mwyaf adnabyddus yw Wales: Land of my Father, a gyhoeddwyd yn 2000, sef casgliad o ddelweddau a dynnwyd rhwng 1970 a 2000 sy’n ymdrîn â hunaniaeth ddiwylliannol a chenedlaethol Cymru. Mae Hurn yn parhau i fyw a gweithio yn Nhyndyrn, Sir Fynwy.
Yn 2017 rhoddodd David Hurn 1500 o’i ffotograffau ei hun a 700 o weithiau gan ffotograffwyr eraill i Amgueddfa Cymru – rhodd ryfeddol. Llwyddodd gael gafael ar lawer o’r rhain drwy gyfnewid ei waith ei hun am brintiau gan gyd-ffotograffwyr.
Mae Mari Griffith yn hanesydd celf sydd wedi gweithio ym maes amgueddfeydd ac orielau celf ers 30 mlynedd, yn datblygu a goruchwylio darpariaeth addysg a dehongli ar gyfer casgliadau cyhoeddus ac arddangosfeydd, gan gynnwys yn y National Gallery, National Gallery of Art a’r Royal Academy of Arts. Wedi cyfnod yn gweithio’n rhyngwladol ym maes dehongli celf a threftadaeth, mae hi’n awr yn ysgrifennu, golygu a chyfieithu’n llawrydd – am gelf gan fwyaf.